‘CSI’ Canoloesol: ymchwilwyr i ddatgelu cyfrinachau fforensig o seliau cwyr hanesyddol Prydain
Dr Elizabeth New o Adran Hanes a Hanes Cymru, Prifysgol Aberystwyth gyda rhai o seliau o’r Oesoedd Canol.
05 Ionawr 2016
Bydd dadansoddiad fforensig modern ac ymchwil hanesyddol manwl yn cael eu cyfuno i ddatgelu golwg newydd ar gymdeithas ym Mhrydain yn yr Oesoedd Canol sydd wedi ei guddio mewn seliau cwyr miloedd o ddogfennau hanesyddol.
Bydd y prosiect ymchwil unigryw hwn, Imprint, yn archwilio olion bysedd a phrintiau cledrau dwylo ar seliau cwyr dogfennau yn dyddio o'r 12fed i'r 14eg ganrif. Mae’r seiliau canoloesol, sydd ynghlwm wrth ddogfennau fel trafodion tir, contractau busnes a chyfnewidiadau ariannol, yn cyfateb i lofnodion a chardiau credyd y presennol.
Mae'r astudiaeth tair blynedd yn cael ei hariannu gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC) ac yn cael ei harwain gan yr Athro Philippa Hoskin o Brifysgol Lincoln a'i chydymchwilydd Dr Elizabeth New o Adran Hanes a Hanes Cymru, Prifysgol Aberystwyth. Byddant yn gweithio gyda deunyddiau hanesyddol yn eglwysi cadeiriol Caerwysg, Henffordd a Lincoln, Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Abaty Westminster.
Y nod yw datgelu mwy am strwythurau cymdeithasol yr oesoedd canol, ynghyd â rhwydweithiau awdurdod a threfniadau biwrocrataidd a phrotocolau a oedd yn sail i ddilysu a diogelwch dogfennau yng Nghymru a Lloegr yn yr oesoedd canol. Bydd y canlyniadau hefyd yn gymorth i ateb cwestiynau am newidiadau gweinyddol a chyfreithiol, gan gynnwys sut y gwnaeth adnabod y seliwr a’i sêl newid dros amser.
Bydd olion bysedd a fydd yn cael eu casglu yn ystod yr ymchwil yn cael eu cymharu ag olion modern sydd wedi’u storio ar systemau adnabod olion bysedd awtomatig (AFIS) i weld a ellir dod o hyd i rai sy’n cyfateb wedi cyfnod mor faeth. Bydd hyn yn cyfrannu at ddealltwriaeth o natur unigryw olion bysedd, gan hyrwyddo ymhellach y wyddoniaeth o adnabod marc llaw.
Bydd y dadansoddi hwn hefyd yn croesgyfeirio’r holl olion bysedd canoloesol a gofnodwyd gan y prosiect. Mae gan hyn y potensial i ddatrys troseddau o’r oesoedd canol - er enghraifft, a oes modd adnabod olion bysedd ar ddogfennau sydd yn cael eu hamau o fod yn ffug gydag olion ar ddogfennau sydd ag iddynt ddyddiadau hysbys. Bydd cynghorwyr fforensig Imprint, Forensic Focus, yn cyflwyno'r data a gasglwyd mewn cynadleddau a gweithdai i ymchwilwyr proffesiynol.
Dywedodd yr Athro Hoskin, Athro Astudiaethau Canoloesol ym Mhrifysgol Lincoln: "Erbyn y 12fed ganrif roedd bron pob dogfen weinyddol wedi ei selio â chwyr, gan ddefnyddio argraff matrics sêl i adael argraff nodedig. Roedd rhai wedi eu creu yn bwrpasol ac eraill yn rhai parod - ond roedd pob un yn angenrheidiol i ddilysu unrhyw ddogfen gyfreithiol yr oedd perchennog y sêl yn gysylltiedig â hi.
"Mae’r seliau cwyr yn cynnwys llawer o wybodaeth am bobl o’r oesoedd canol, ond maent yn aml yn cael eu gosod naill ochr ac yn cael eu hystyried yn llai pwysig na'r ddogfen ei hun. Hwn fydd y tro cyntaf i'r wybodaeth y bydd yr argraffiadau llaw a geir ar seliau yn cael ei archwilio, a gallai gynnig dealltwriaeth newydd o’r cyfnod i haneswyr.
"Bydd yr astudiaeth hefyd yn cyfrannu gwybodaeth bwysig i drafodaethau cyfredol ym maes gwyddoniaeth fforensig a pha mor unigryw yw olion bysedd, ac o bosibl ddatgelu troseddau canoloesol."
Bydd y printiau yn cael eu casglu i mewn i archif ar-lein ochr yn ochr â gwybodaeth fanwl am argraffiadau a dogfennau sêl. Bydd yr adnodd hwn ar gael i ymchwilwyr, archifwyr a'r cyhoedd yn gyffredinol.
Wrth i'r astudiaeth fynd yn ei blaen bydd gweithdai ar gyfer gweithwyr treftadaeth proffesiynol a dosbarthiadau arbenigol i fyfyrwyr yn cael eu cynnal, er mwyn rhannu gwybodaeth gyda churadiaid presennol a'r genhedlaeth nesaf fydd yn gofalu am ddogfennau wedi eu selio.
Bydd enghraifft o waith y prosiect yn cael ei arddangos drwy'r wefan sy'n cael ei ddatblygu gan Sefydliad Ymchwil y Dyniaethau ym Mhrifysgol Sheffield. Yn ogystal, bydd gweithdai ar gyfer aelodau o'r cyhoedd, a fydd yn cynnig cipolwg bywiog i fywyd canoloesol.
Dywedodd Dr Elizabeth New, Uwch Ddarlithydd mewn Hanes Canoloesol ym Mhrifysgol Aberystwyth: "Mae printiau llaw ar seliau cwyr yn dod â ni yn agos at bobl ganoloesol mewn ffordd ddiriaethol iawn. Mae’n bwysig cofio nad brenhinoedd nac uchelwyr yn unig oedd yn eu defnyddio: roedd dynion a menywod o bob lefel o gymdeithas hefyd yn gosod eu seliau ar ddogfennau.
"Roedd seliau canoloesol yn cynnwys amrywiaeth o ddelweddau a geiriau, gan ddarparu datganiadau cryf o hunaniaeth a ffynonellau gwerthfawr iawn o wybodaeth am bobl, diwylliant a chymdeithas.
"Gall y delweddau ar seliau ddweud wrthym sut roedd pethau’n edrych mewn gwirionedd, a rhoi cipolwg o hiwmor, duwioldeb a balchder y teulu. Roeddent hefyd yn galluogi dynion a menywod a oedd fel arall yn anllythrennog i 'ysgrifennu' eu henw.
“Mae'r gwrthrychau bychain bob amser wedi bod o arwyddocâd mawr, ac maent yn gapsiwlau amser cyfoethog sy'n gallu agor ffenestri cyffrous i fywydau’r gorffennol. Mae archwilio'r printiau llaw sydd wedi eu gadael yn y cwyr – boed hynny’n ddamweiniol ac yn fwriadol - ynghyd ag argraffiadau o'r matricsau sêl yn cynnig cyfleoedd pwysig pellach i ddyfnhau ein dealltwriaeth o’n cyndadau canoloesol ".
AU0416