Darlith Goffa E H Carr

Yr Athro Justin Rosenberg

Yr Athro Justin Rosenberg

22 Hydref 2015

Yr Athro Justin Rosenberg, ffigwr blaenllaw ym maes Cysylltiadau Rhyngwladol yn y DG, fydd yn traddodi Darlith Goffa EH Carr yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth ddydd Iau 29 o Hydref.

Cynhelir y ddarlith gan yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ar y cyd â’r cyfnodolyn ‘International Relations’ a bydd yn cychwyn am 6 yr hwyr yn y Brif Neuadd yn Adeilad Gwleidyddiaeth Ryngwladol ac mae croeso i bawb.

Teitl darlith yr Athro Rosenburg fydd, ‘International Relations in the Prison of Political Science: is there a way out?’ a bydd yn defnyddio gwaith  ymchwil diweddaraf y darlithydd.

Mae’r Athro Rosenberg yn ffigwr blaenllaw ym maes Cysylltiadau Rhyngwladol yn y DU, a bu’n dysgu yn Ysgol Economaidd Llundain cyn symud i Brifysgol Sussex ddiwedd y 1990au. Mae ei waith yn adnabyddus am y beirniadaethau o ddulliau realaidd a rhyddfrydig o ymdrin â Chysylltiadau Rhyngwladol, ac am ei ddealltwriaeth o effaith y system ryngwladol ar ddamcaniaeth gymdeithasol a newid hanesyddol. Ei brif weithiau yw The Empire of Civil Society a The Follies of Globalisation Theory.

“Ers cryn amser Justin Rosenberg yw dehonglwr amlycaf y dull 'Marcsaidd Newydd' o feddwl am gysylltiadau rhyngwladol yn y DG. Mae ei ffocws penodol wedi bod ar feirniadu globaleiddio ac ar bwysigrwydd mabwysiadu persbectif cymdeithaseg hanesyddol ar 'y ryngwladol'. Mae'n ysgolhaig o fri rhyngwladol” meddai Athro Ken Booth, cyn Athro E H Carr a Phennaeth yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol.

AU34415