Dathlu llwyddiant dysgu am oes

Ron Lewis, Caerfyrddin, enillydd Gwobr Myfyriwr Dysgu Gydol Oes y Flwyddyn yn derbyn gwobr gan yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth yn y Seremoni Wobrwyo a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Aberystwyth ar 21 Hydref 2015.

Ron Lewis, Caerfyrddin, enillydd Gwobr Myfyriwr Dysgu Gydol Oes y Flwyddyn yn derbyn gwobr gan yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth yn y Seremoni Wobrwyo a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Aberystwyth ar 21 Hydref 2015.

22 Hydref 2015

Dathlwyd llwyddiant dysgu gydol oes unigolion a grwpiau mewn seremoni arbennig ym Mhrifysgol Aberystwyth ddydd Mercher 21 Hydref 2015.

Cyflwynwyd y gwobrau gan Is-Ganghellor Prifysfgol Aberystwyth, yr Athro April McMahon.

Medd yr Athro McMahon: ‘Mae hi’n bleser mawr dathlu llwyddiant myfyrwyr Dysgu Gydol Oes a Chymraeg i Oedolion. Fel dysgwr Cymraeg fy hun,  rwy’n arbennig o awyddus i gydnabod yr ymdrechion a wna ein myfyrwyr i ddysgu a defnyddio’r iaith, a’r gefnogaeth y mae cydweithwyr yn ei rhoi iddyn nhw. Fodd bynnag, mae hi’n arbennig iawn i weld gwaith a gwobrwyo llwyddiannau ar draws ystod mor eang o bynciau.’

Dyfarnwyd y gwobrau canlynol:

Gwobr Cymraeg yn y Teulu

Manylion: Gwobr ar gyfer dysgwyr Cymraeg o Ganolbarth Cymru sydd wedi cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg o fewn y teulu.

Enillydd: Stephanie Windsor-Lewis

Cantores opera yw Stephanie, ac mae hi’n byw ym Mhennal, ger Machynlleth. Mae hi’n dysgu Cymraeg yn Aberystwyth ers blwyddyn yn unig. Jack Robin yw enw mab bach Stephanie, ac mae hi’n mwynhau siarad Cymraeg gydeg ef. Mae hi’n darllen llyfrau Cymraeg iddo hefyd, a chanu hwiangerddi iddo. Mae hi wedi gosod her iddi hi ei hun i ganu darn Cymraeg mewn cyngerdd ym mis Rhagfyr.

Gwobr Cymraeg yn y Gweithle

Manylion: Gwobr i gyflogwyr sy’n cefnogi eu staff i ddysgu Cymraeg ar gyrsiau Cymraeg i Oedolion yng Nghanolbarth Cymru.

Enillydd: Tai Canolbarth Cymru, y Drenewydd, Powys

Mae dau o gyfarwyddwyr Tai Canolbarth Cymru yn mynychu dosbarthiadau nos i ddysgu Cymraeg; mae 15 o staff yn mynychu cyrsiau misol yn y gweithle, ac mae dau yn mynychu dosbarthiadau dechreuwyr. Mae’r cyflogwr yn cefnogi dysgwyr i fynychu’r cyrsiau yn rhad ac am ddim, a rhoi amser gwaith i fynychu’r cyrsiau. Mae un o aelodau bwrdd Tai Canolbarth Cymru yn bencampwr y Gymraeg, ac mae’r bwrdd yn cefnogi ac yn cydnabod yr holl ymdrechion i ddysgu a defnyddio’r iaith. O ganlyniad mae’r Gymdeithas yn gallu cynnig gwell gwasanaeth i gwsmeriaid sy’n siarad Cymraeg, ac mae gan staff fwy o hyder wrth ymwneud â’r cyhoedd.

Gwobr Grŵp Cymraeg y Flwyddyn

Manylion: Diben y wobr hon yw dathlu llwyddiant grŵp sydd wedi dod â siaradwyr a dysgwyr ynghyd mewn gweithgareddau i ddefnyddio a hyrwyddo’r Gymraeg.

Enillydd: Siop Cynfelyn@Cletwr (Cwmni Cymunedol Cletwr) o Dre’r Ddôl, Ceredigion

Ers sefydlu cwrs byr i weithwyr y siop ar ddechrau 2014, mae Siop Cynfelyn@Cletwr wedi ymestyn y gweithgareddau Cymraeg er mwyn dod â dysgwyr a siaradwyr rhugl ynghyd i ddefnyddio’r Gymraeg. Mae nhw am i’r Gymraeg gael ei gweld a’i chlywed gan gwsmeriaid a phobl sy’n teithio heibio.  Mae nhw’n cynnal llawer o weithgareddau, yn cynnwys ‘Dal ati /Welsh chat’ – paned a sgwrs misol ar fore Sadwrn; Amser stori – bob yn ail b’nawn Iau – ar gyfer rhieini a phlant bach a babis, a Noson Ffilm yn Gymraeg – yn fisol ers Mehefin 2015. Mae nhw wedi gwylio Un Nos Ola Leuad, Solomon a Gaenor, a Hedd Wyn. Mae dysgwyr yn cymryd rhan yn naturiol, gydag chymorth is-deitlau.

Myfyriwr y flwyddyn Dysgu Gydol Oes

Enillydd: Ron Lewis, Caerfyrddin

Wedi ymddeol ar ôl gyrfa 42 mlynedd fel newyddiadurwr teledu, penderfynodd Ron droi ei olygon at ysgrifennu creadigol. Bu’n teithio’n wythnosol o Gaerfyrddin i Aberystwyth i ddilyn cyrsiau ysgrifennu creadigol. ‘Bu’n bleser i ryddhau fy ochr greadigol a chael fy ngollwng yn rhydd i ysgrifennu yn ddiymatal,’ medd Ron. ‘Mae’r tiwtoriaid wedi rhoi’r seiliau i mi gael fy nerbyn ar gwrs BA amser llawn yn Llambed, lle rwy’n edrych ymlaen at astudio’r llenyddiaeth a fethais bron i hanner canrif yn ôl, ac rwy’n gobeithio ennill sgiliau i gyhoeddi fel awdur ffuglen.’

Tiwtor y flwyddyn Dysgu Gydol Oes

Enillwyr: June Forster a Tereska Shepherd

Tiwtor celf yw June Forster, ac fe ddechreuodd ei siwrne i ddod yn artist yn 1996 pan fu hi’n mynychu cwrs darlunio gan Brifysgol Aberystwyth yn Ystrad Meurig. Wedi hynny dilynodd gwrs yng Ngholeg Ceredigion, ac yna ennill graddau BA ac MA yn Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth. ‘Dw i wedi dysgu llawer gan fy myfyrwyr dros y blynyddoedd,’ medd June. ‘Diolch iddyn nhw a haelioni fy nhiwtoriaid i fy hun, dw i wedi cael siwrne ddiddorol,  a llawn mwynhad a boddhad.’ Mae nifer o gyn-fyfyrwyr June wedi ffurfio grŵp peintio ‘The Solstice Painters’ er mwyn cynnal arddangosfeydd.

Mae Tereska Shepherd yn dysgu cyrsiau dyfrlliwio a darlunio hanes naturiol mewn lleoliadau mor wasgaredig â Chroesoswallt ac Aberteifi. Rhoddodd yr arholwr allanol ganmoliaeth uchel i’r cyswllt y mae hi’n ei wneud rhwng celf a’r gwyddorau. Mae ei myfyrwyr yn ei chanmol fel tiwtor ysbrydoledig. ‘Mae hi’n amlwg yn caru ei phwnc ac mae hi’n gyfeillgar, hael â’i gwybodaeth, ac yn rhoi anogaeth i bawb,’ meddai un o’i myfyrwyr. ‘Os yw dysgu yn ddawn, mae toreth o’r ddawn honno ganddi.’

AU34515