Myfyrwraig o IBERS i weithio gydag orang-wtaniaid
Montana Hull yng Ngwarchodfa Natur Rasa Ria gyda cheidwad lleol, ar daith ddiweddar i Borneo Malaysia.
21 Hydref 2015
Mae myfyrwraig raddedig o Aberystwyth, Montana Hull, wedi gwireddi ei breuddwyd o weithio gydag orang-wtaniaid trwy sicrhau lle ar un o interniaethau hynod boblogaidd Orangutan Foundation International (OFI) yn Borneo, Indonesia.
Mae Montana newydd gwblhau BSc ac MSc yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS), Prifysgol Aberystwyth. Bydd Montana yn gweithio i OFI, sefydliad nid er elw sy’n canolbwyntio ar ddiogelu orang-wtaniaid gwyllt a’r fforestydd glaw sy’n gynefin iddynt.
Bydd Montana yn gweithio yng nghanolfan ymchwil a chadwraeth y Sefydliad ym Morneo, Indonesia am flwyddyn, a bydd ei swydd newydd yn bennaf yn cynnwys casglu a phrosesu data ar orang-wtaniaid.
Graddiodd Montana gyda gradd BSc mewn Sŵoleg ac mae newydd gwblhau MSc mewn Rheoli’r Amgylchedd yn IBERS. Daeth yn ymwybodol o’r Sefydliad trwy ei hastudiaethau a’u diddordeb mewn sŵoleg a chadwraeth.
Dr Hazel Davey, Uwch Ddarlithydd mewn Bioleg a Chyfarwyddwr Uwchraddedigion a Addysgir yn IBERS oedd arolygydd traethawd estynedig Montana ar gyfer ei MSc. Dywedodd “Byddai llawer o bobl yn fodlon talu am y profiad o edrych ar ôl orang-wtaniaid, ond mae swydd Montana yn gyflogedig ac mae’n cynnwys llety, bwyd a thocynnau awyr. Mae’n gyfle ardderchog a byddai llawer o’n myfyrwyr a’n hymgeiswyr yn ystyried y swydd yn ddelfrydol.”
Yn ogystal â gofalu am orang-wtaniaid amddifad yng nghanolfan ofal y Sefydliad, bydd Montana yn gweithio fel ail Gynorthwyydd Personol i Dr Biruté Galdikas, un o sylfaenwyr OFI a phrimatolegydd adnabyddus sy’n arbenigwr ar orang-wtaniaid. Eglurodd Montana ei bod wedi ymddiddori mewn primatiaid erioed a bod cyfarfod â Dr Galdikas yn gynharach eleni a chael cynnig cyfle i weithio gyda hi yn gwireddu breuddwyd oes.
Mae’r Sefydliad yn cynnwys trigolion y pentrefi cyfagos yn ei waith er mwyn cyfyngu ar ffermio olew palmwydd sy’n arwain yn gynyddol at ddinistrio cynefinoedd yn yr ardal. Bydd Montana felly’n byw gyda theulu o Indonesia trwy gydol ei arhosiad. Mae’n gobeithio y bydd y profiad yn ei galluogi i ymdrwytho’n llwyr yn niwylliant y wlad ac mae’n bwriadu dysgu cymaint â phosib am iaith a diwylliant Indonesia.
Eglurodd Montana "Rwyf wedi bod eisiau cael swydd yn ymwneud a diogelu orang-wtaniaid ers blynyddoedd. Trwy ennill lle ar yr interniaeth hwn yn syth ar ôl gadael y brifysgol rwy’n gwireddu breuddwyd. Rwy’n teimlo’n hynod gyffrous am y cyfle ardderchog hwn ac rwy’n teimlo bod fy holl waith caled wedi talu ar ei ganfed! Mae wedi dangos i mi fod modd dilyn eich breuddwydion dim ond i chi fynd ati o ddifrif."
Bydd Montana yn gadael am Borneo ym mis Tachwedd i gychwyn contract blwyddyn gyda thri intern arall.
IBERS
Cydnabyddir yr Athrofa Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) yn rhyngwladol fel canolfan ymchwil ac addysgu sy’n cynnig sylfaen unigryw ar gyfer ymchwil mewn ymateb i heriau byd-eang fel diogelwch bwyd, bioynni a chynaladwyedd, ac effeithiau newid yn yr hinsawdd. Mae gwyddonwyr IBERS yn cynnal ymchwil sylfaenol, strategol a chymhwysol mewn bioleg o lefel genynnau a moleciwlau eraill, i effaith newid hinsawdd.
Mae IBERS yn derbyn £10.5m o gyllid ymchwil strategol gan y BBSRC i gefnogi ymchwil tymor hir sy’n cael ei arwain gan genhadaeth, ac mae’n aelod o’r Athrofeydd Biowyddoniaeth Cenedlaethol. Mae IBERS hefyd yn derbyn cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru, DEFRA a’r Undeb Ewropeaidd.