Aberystwyth yn dathlu Wythnos Gofod y Byd 2015
Aelodau o dîm ExoMars Rover Prifysgol Aberystwyth, Dr Laurence Tyler, Dr Matt Gunn a Dr Rachel Cross, gydag eitemau o’r caledwedd a ddatblygwyd ym Mhrifysgol Aberystwyth ar gyfer taith Exo-Mars 2018
07 Hydref 2015
Mae Adran Ffiseg Prifysgol Aberystwyth yn gwahodd aelodau o'r gymuned leol, gan gynnwys myfyrwyr a staff, i ddarganfod mwy am ddatblygiadau cyffrous mewn ymchwil gofod sy’n digwydd ar garreg eu drws, fel rhan o Wythnos Gofod y Byd (4ydd – 10fed Hydref, 2015).
Sefydlwyd Wythnos Gofod y Byd gan Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig yn 1999. Hwn yw’r digwyddiad blynyddol mwyaf am y gofod a cheir gweithgareddau ar draws y byd i ddathlu, addysgu ac ysbrydoli’r cyhoedd yn gyffredinol a phlant am y gofod.
Yn unol â'r thema eleni, 'Darganfod', bydd Prifysgol Aberystwyth yn cymryd rhan yn y dathliad byd-eang drwy arddangos model wrth raddfa o wyneb y blaned Mawrth yn y Cwad, yr Hen Goleg, rhwng dydd Mercher 7 a dydd Gwener 9 Hydref (09.00 - 18.00).
Mae'r model o wyneb cyfan y blaned Mawrth hefyd yn cynnwys fersiwn wrth raddfa o geudwll Gale, yr ardal sy'n cael ei hastudio ar hyn o bryd gan ‘Curiosity’, crwydrwr labordy gwyddoniaeth Mawrth NASA.
Adeiladwyd y model gan ddefnyddio data o MOLA (Mars Orbital Laser Altimeter) gan ffisegwyr yn Adran Ffiseg Prifysgol Aberystwyth, a cafodd ei arddangos am y tro cyntaf yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Meifod yn gynharach eleni.
Ar ddydd Mercher 7 mis Hydref, cynhelir y digwyddiad 'Cwrdd â'r Arbenigwyr' rhwng 15.30-18.30 yn yr Hen Goleg, lle bydd ymchwilwyr a llysgenhadon myfyrwyr o’r Adran Ffiseg wrth law i ateb cwestiynau am y gofod a thrafod eu hymchwil.
Bydd ymwelwyr sy'n galw i mewn i’r Hen Goleg ar brynhawn Mercher yn cael cyfle i gymryd rhan mewn heriau rhyngweithiol, gan gynnwys rheoli glaniwyr bychain i deithio ar draws y blaned a’i harchwilio'r gan ddefnyddio meddalwedd rhyngweithiol. Bydd modelau o'r caledwedd sydd wedi ei gynhyrchu yn Aberystwyth ac a fydd yn hedfan i’r blaned Mawrth ar Daith ExoMars Rover yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd yn 2018, hefyd yn cael eu harddangos.
“Bydd ‘Cwrdd â'r Arbenigwyr' yn gyfle gwych i ddarganfod mwy am ddatblygiadau diweddar mewn peirianneg seryddiaeth a’r gofod”, esboniodd Rachel Cross, Cydymaith Ymchwil yn yr Adran Ffiseg ym Mhrifysgol Aberystwyth. “Mae hwn yn ddigwyddiad rhad ac am ddim ac mae croeso i bawb alw i mewn - rydym yn edrych ymlaen at eich gweld chi yno!”.
Mae gwyddonwyr o Brifysgol Aberystwyth wedi bod yn gweithio ar gynlluniau i archwilio'r gofod ers cryn amser. Datblygwyd a chalibrwyd braich roboteg taith Beagle2 yn 2003, y daethpwyd o hyd i'w gweddillion yn ddiweddar, yn Aberystwyth, ac roedd hwn yn sail i’r gwaith mae Aberystwyth yn ei wneud ar hyn o bryd ar daith ExoMars yn 2018.
Mae'r gwaith hwn hefyd yn sail i gyfleoedd astudio yn Athrofa Mathemateg, Ffiseg a Chyfrifiadureg Prifysgol Aberystwyth, gan gynnwys y radd BSc Gwyddor y Gofod a Roboteg sy'n cyfuno arbenigedd mewn ffiseg system solar a ffiseg y gofod, gyda roboteg y gofod a deallusrwydd artiffisial.
AU32215