Datblygu Dewisiadau am Gyfiawnder gyda Phobl Hŷn yng Nghymru
Amcangyfrifir bod mwyn na 39,000 o bobl hŷn yng Nghymru yn dioddef camdriniaeth bob blwyddyn
02 Hydref 2015
Mae ymchwilwyr o Adran y Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth yn galw ar bobl sy’n gweithio gyda, neu’n cynorthwyo pobl hŷn yn Sir Gaerfyrddin i gyfrannu at astudiaeth bwysig i gamdriniaeth o bobl hŷn.
Fel rhan o astudiaeth £1.3m sydd wedi ariannu gan y Loteri Fawr, mae tîm yn cynnal cynhadledd undydd ar ddydd Iau 22ain Hydref yng Nghanolfan Halliwell, Caerfyrddin, sy’n arddel y teitl: Datblygu Dewisiadau am Gyfiawnder gyda Phobl Hŷn yng Nghymru.
Estynir gwahoddiad i unrhyw un sydd â diddordeb mewn materion yn ymwneud â cham-drin pobl hŷn i fynychu’r gynhadledd, a fydd yn cynnwys cyfraniadau gan Sarah Rochira, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, ac Eleri Butler, Prifweithredwr Cymorth i Ferched Cymru.
Cynhelir yr astudiaeth, sy’n cael ei hadnabod wrth yr enw ‘Dewis’, gan y Ganolfan ar gyfer Astudio Heneiddio, Cam-drin ac Esgeuluso, yn Adran y Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Datblygwyd 'Dewis' er mwyn codi ymwybyddiaeth am gamdriniaeth pobl hŷn yn eu cartrefi eu hunain, a dylunio a phrofi dull hollol newydd sy'n seiliedig ar egwyddorion adferol.
Mae gweithwyr cyfiawnder wedi'u hyfforddi a hwylusydd yn gweithio gyda phobl hŷn sydd wedi cael eu cam-drin yn y modd hwn, i edrych ar yr ystod o ddewisiadau (sifil, troseddol ac adferol), er mwyn sicrhau eu bod nhw a'u teuluoedd yn derbyn yr holl wybodaeth am yr amrywiaeth o gyfleoedd sydd ar gael iddynt.
Mae’r astudiaeth yn canolbwyntio ar ddwy ardal beilot yn y DG, Sir Gaerfyrddin a Chaerdydd, ac yn gweithio mewn partneriaeth gyda phobl hŷn, cymunedau, pobl broffesiynol a gwirfoddolwyr sydd wedi’u hyfforddi.
Yn ôl Astudiaeth Prevalence 2007 (Adran Iechyd a Comic Relief), mae miloedd o bobl hŷn y cael eu cam-drin yng Nghymru bob dydd, gyda mwy na 39,000 o bobl bob blwyddyn yng Nghymru – cyfradd uwch na gweddill y DG – yn dioddef camdriniaeth.
Dywedodd yr Athro Alan Clarke, Prif Ymchwilydd Dewis: “Mae nifer sylweddol o bobl hŷn yn dioddef camdriniaeth ac esgeulustod yn eu cartrefi eu hunain a gallant fod wedi’u hynysu oddi wrth bobl a allai eu cynorthwyo. Mae angen i ni sicrhau bod y rhai sy’n dioddef camdriniaeth yn cael y cymorth a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt. Mae ein prosiect wedi ei gynllunio i weithio gyda phobl hŷn i archwilio’r ffyrdd gorau y gall defnyddwyr gwasanaeth gael mynediad i gyfiawnder drwy'r llysoedd neu drwy gyfrwng dulliau adferol.”
“Rydym am weithio gyda chymunedau lleol yn Sir Gaerfyrddin i roi llais iddynt a’u cynnwys wrth ddatblygu a gwerthuso ffyrdd newydd o hyrwyddo cyfiawnder a lles i bobl hŷn.”
Y gynhadledd
Cynhelir y gynhadledd ar ddydd Iau 22 Hydref, 2015 yng Nghanolfan Halliwell, Caerfyrddin. Gan fod llefydd yn gyfyngedig, os hoffech chi fynychu'r gynhadledd, cysylltwch gyda Jeremy Newman dros y ffôn 01970 622516 neu e-bostiwch choice@aber.ac.uk erbyn 12 Hydref 2015. Byddwn yn cadarnhau a oes gennych le erbyn 16 Hydref.
Gwirfoddoli
Os oes gennych ddiddordeb mewn clywed mwy am y gwaith ymchwil neu os hoffech chi gael gwybod mwy am y cyfleoedd gwirfoddoli, gyda hyfforddiant ar gael lle bo'n briodol, cysylltwch â'r tîm gan ddefnyddio'r manylion uchod. Am y wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect dilynwch ni ar Twitter @choiceolderppl.
Beth yw camdriniaeth pobl hŷn?
Gall unrhyw berson hŷn ddioddef camdriniaeth yn eu cartrefi eu hunain. Yn 2012 canfu'r gwerthusiad o'r Prosiect Peilot 'Mynediad at Gyfiawnder' a gynhaliwyd gan yr Athro Alan Clarke, yr Athro John Williams, Sarah Wydall a Rebecca Zerk er mae menywod yn aml sydd fwyaf tebygol o fod wedi dioddef, gall dynion hefyd ddioddef. Nid unigolyn sy'n cael eu targedu bob amser, weithiau gall cyplau fod yn ddioddefwyr a gall fod mwy nag un camdriniwr mewn unrhyw un achos.
Gall cam-drin gymryd nifer o wahanol ffurfiau gan gynnwys; yn emosiynol, corfforol, ariannol neu rywiol. Gall camdriniaeth ac esgeulustod hefyd gael eu gweld fel math o gamdriniaeth. Gall hyn olygu 'esgeulustod gweithredol', lle mae aelod o'r teulu yn fwriadol yn gwrthod gofal neu 'esgeulustod goddefol', lle nad yw’r gofalwr anffurfiol yn gwybod sut i ddarparu gofal digonol.
Mewn rhai achosion o gam-drin, gall y niwed a achoswyd fod yn ganlyniad i unigolyn yn ymateb i amgylchiadau newydd yn ddiweddarach mewn bywyd, megis cael trafferth ymdopi gyda gofal dyddiol o rywun annwyl.
Enghraifft 1
Mae Mair a Gladys o Gilycwm wedi bod mewn perthynas agos am 20 mlynedd. Mae Gladys wedi bod yn dioddef o ddementia am nifer o flynyddoedd a Mary yn treulio mwy a mwy o amser yn gofalu amdani ac nid yw’n gallu cymdeithasu cymaint ag roedd hi'n arfer gwneud. Mae Mary yn rhwystredig gan y sefyllfa hon ac yn dangos ymddygiad ymosodol tuag at Gladys. Pan fydd Mary yn mynd i bingo unwaith yr wythnos mae hi'n cloi Gladys yn ei hystafell. Mae Mary yn dweud ei bod yn gwneud hyn er mwyn ei hatal rhag niweidio ei hun. Mae Mary yn gwybod ei bod hi angen help i ofalu am Gladys, ond mae’n ofni y bydd yn cael eu hanfon i gartref gofal.
Weithiau gellir normaleiddio camdriniaeth neu yn wir gael ei esgusodi gan y sawl a gam-driniwyd, gallant weld eu hunain, yn anghywir felly, mewn rhyw ffordd neu’i gilydd yn gyfrifol am y sefyllfa. Er enghraifft, lle mae salwch tymor hir yn digwydd, efallai y bydd y dioddefwr yn teimlo eu bod wedi dod yn faich ar aelodau eraill o'r teulu a gall hyn arwain at newid yn natur ac ansawdd bywyd teuluol. Fodd bynnag, fel yn achos o gam-drin yn y cartref, ceir enghreifftiau o gam-drin pobl lle mae un person yn fwriadol yn defnyddio dulliau i reoli sawl agwedd ar fywyd person arall - sy'n fath o gam-drin.
Enghraifft 2
Mae Mr a Mrs Jones o Landeilo wedi bod yn briod am 42 o flynyddoedd. Ymddeolodd Mr Jones o'r fyddin ac mae'n byw yn barhaol yn y cartref gyda'i wraig. Ers i’w gŵr ymddeol, mae Mrs Jones yn teimlo wedi’i llethu â'r gofynion a disgwyliadau yn y cartref. Mae'n cael ei beirniadu yn gyson a’i bychanu o flaen eu ffrindiau sydd yn achosi embaras iddi. Os yw Mrs Jones yn dweud wrtho sut mae hi'n teimlo, mae e’n ymosod yn eiriol arni ac weithiau mae Mrs Jones yn cael ei dychryn. Cyn i Mr Jones ymddeol, roedd eu perthynas yn un gadarnhaol. Nid yw Mrs Jones yn awyddus i ddweud wrth eu plant, teulu neu ffrindiau am ei ymddygiad am nad yw hi am i bobl feddwl yn ddrwg amdano. Mae Mrs Jones yn teimlo bod ei gŵr yn ei chael hi'n anodd i ddod i delerau â pheidio bod yn gweithio, a gallai fod ar fin didoddef o iselder.
Yn aml mae cam-drin pobl ynghudd o’r gymuned leol, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, gan nad yw llawer o bobl yn dymuno dweud bod aelod o'r teulu, o bosibl priod, plentyn neu ŵyr neu wyres yn eu cam-drin, gan y gall hyn arwain at chwalu perthnasau teuluol ynghyd â ffrindiau a'r gymuned leol o bosibl yn dod yn ymwybodol o'u sefyllfa, a allai achosi embaras.
Enghraifft
Mae mab Mr Davies, Simon wedi gwahanu wrth ei wraig yn ddiweddar ac wedi cael ei ddiswyddo yn y gwaith. Mae Simon yn profi anawsterau ariannol ac mae wedi symud i mewn gyda'i dad yn Rhydaman. Mae Simon yn isel ei ysbryd ac yn ddibynnol ar alcohol. Mae Simon wedi bod yn cymryd £30 o bensiwn ei dad bob wythnos i helpu i ariannu ei dibyniaeth ar alcohol. Er bod Mr Davies wedi teimlo trueni dros sefyllfa Simon, yn y gorffennol, mae wedi herio ei fab am gymryd yr arian. Nid yw bellach yn gwneud hynny, oherwydd pan gafodd Simon ei herio, aeth yn aflonydd, yn ofidus ac yn sarhaus tuag ato. Mae Simon hefyd yn eithaf aml yn anghwrtais tuag at unrhyw ymwelwyr a ddaw i’r tŷ ac mae hyn wedi achosi pobl i roi'r gorau i ymweld ac felly mae Mr Davies yn teimlo'n unig.
Yn aml, pan fydd person hŷn yn cael ei gam-drin efallai na fyddant am geisio camau troseddol yn erbyn aelod o'r teulu sydd yn eu cam-drin. Gallai hyn fod oherwydd bod dioddefwyr mewn camgymeriad yn beio eu hunain mewn rhyw ffordd am y cam-drin a'r dioddefwr yn credu bod y sawl sy'n achosi'r niwed angen cymorth, ac nid o reidrwydd cosb.
Mae llawer o ddioddefwyr yn teimlo'n ynysig ac yn unig wrth ddelio â chamdriniaeth ac nid ydynt yn gwybod ble i fynd i ofyn am help. Mae ymchwil ddiweddar a gynhaliwyd gan Brifysgol Aberystwyth - 'Mynediad at Gyfiawnder', yn dangos mewn dwy ran o dair o achosion o gam-drin pobl, nid oedd unrhyw dystiolaeth bod opsiynau cyfiawnder wedi cael eu trafod gyda'r person hŷn.
Bydd Dewis yn codi ymwybyddiaeth o'r opsiynau troseddol a sifil sydd eisoes yn bodoli ar gyfer pobl hŷn sy'n dioddef camdriniaeth yn ogystal â thrafod yr opsiwn adferol newydd, i'w helpu i wneud penderfyniadau gwybodus.
Llinellau Cymorth
Os ydych chi neu rywun rydych yn ei adnabod y yn dioddef o gam-driniaeth pobl hyn, yna gallwch ffonio un o'r llinellau cymorth canlynol i gael cyngor a chymorth:
Llinell GyngorAge Concern Cymru 0800 223 444
Action on Elder Abuse 080 8808 8141
Llinell Gymorth Silver Line 0800 470 80 90
Hafan Cymru, Caerfyrddin 01267 221194
Age Cymru, Llanelli O1554 784080
Llinell Gymorth Cam-drin Domestig Cymru Gyfan 0808 80 10 800 Abulplin
Gwasanaethau Cam-drin Domestig Caerfyrddin 01267 234 725
Cymorth i Fenywod Dyffryn Aman 01268 597 474
Cymorth i Fenywod Llanelli 01554 741 212
AU32015