Gwyddonwyr yn gwahodd ffermwyr ifanc i gynorthwyo gyda gwaith ymchwil
Tîm ‘Prosiect llyngyr y rwmen a’r iau Cymru’ yn IBERS: Yr Athro Peter Brophy, Dr Hefin Williams a Rhys Aled Jones, Myfyriwr Ol-raddedig
01 Hydref 2015
Mae gwyddonwyr yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth yn gwahodd ffermwyr ifanc yng Nghymru i chwarae eu rhan mewn prosiectau ymchwil amaethyddol blaengar.
Nod y fenter newydd a chyffrous yw ennyn diddordeb pobl ifanc mewn ymchwil a allai fod o fudd iddynt ar lefel y fferm, tra'n cynorthwyo'r ymchwilwyr yn y Brifysgol i gynnal ymchwil o werth ehangach i'r diwydiant.
Dywedodd Darlithydd yn yr Amgylchedd Amaethyddol gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn IBERS Dr Hefin Williams: “Rydym yn lansio'r fenter hon yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol CFfI Cymru (Clybiau’r Ffermwyr Ifanc) yn Aberystwyth y penwythnos yma, gyda'r nod o weithio'n agos gyda ffermwyr ifanc i wella eu set sgiliau, a'u galluogi i ddeall, ac yna mabwysiadu rhai dulliau arloesol sy'n deillio o'n gwaith ymchwil, mewn amaethyddiaeth a’r diwydiannau perthynol.”
Galluogir y fenter newydd hon gan gyllid oddi wrth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ac ysgoloriaeth Dr Owen Price a bydd yn cychwyn gyda ‘Prosiect llyngyr y rwmen a’r iau Cymru.’
Mae llyngyr yr iau yn un o'r problemau mwyaf sy'n wynebu'r diwydiant da byw yn y DG, ar gost a amcangyfrifir yn £300 miliwn y flwyddyn, tra bod llyngyr y rwmen yn broblem sy'n dod i'r amlwg yn y DG a gwybodaeth am nifer yr achosion yng Nghymru yn brin iawn.
Mae gwyddonwyr IBERS yn chwilio am ffermydd i gymryd rhan yn yr astudiaeth drwy holiadur, prawf cyfrif wyau mewn tail ar gyfer da byw, ac asesiad yn rhad ac am ddim o gynefinoedd malwod mwd ar y fferm i nodi ardaloedd risg uchel heintiau ar gyfer da byw.
Dywedodd Ceri Davies, Cadeirydd Materion Gwledig CFfI Cymru: “Rydym yn falch o fod yn gweithio gyda gwyddonwyr yr Athrofa byd gydnabyddiedig ym Mhrifysgol Aberystwyth sy'n cynnig y cyfle i weithio gyda'n gilydd gan wneud defnydd da o'r gwaith ymchwil diweddaraf, i roi’r gallu i ni, fel y genhedlaeth nesaf o ffermwyr yng Nghymru, i ddelio â baich llyngyr yr iau a'r rwmen ar ein ffermydd.”