Diwrnod Beicio i’r Gwaith, dydd Iau 3 Medi
Chwith i’r Dde: Aelodau staff Canolfan Chwaraeon Prifysgol Aberystwyth Darren Hathaway, Rich Martin, Tia Woodward, Jeff Saycell, Neil Coleridge a Lauren March fu’n cymryd rhan yn Ddiwrnod Beicio i’r Gwaith 2014.
28 Awst 2015
Mae aelodau staff Prifysgol Aberystwyth yn cael eu cymell i feicio i'r gwaith ar ddydd Iau 3 Medi i nodi Diwrnod Beicio i’r Gwaith.
Mae'r Brifysgol yn hyrwyddo Beicio Diwrnod i'r Gwaith fel rhan o'i rhaglen Iechyd a Lles yn y Gwaith a bydd pawb sy’n cymryd rhan yn cael diod am ddim yn un o gaffis y Brifysgol.
Mae Diwrnod Beicio i'r Gwaith hefyd yn cynnig gwasanaeth rhad ac am ddim mewn siop feics lleol i feiciau staff sydd angen ychydig o sylw.
Ac ar gyfer y rhai a hoffai fuddsoddi mewn beic newydd, mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig Cynllun Seiclo lle y gall aelodau o staff prydlesu beic, gyda'r bwriad o brynu ar gyfradd is ar ôl 18 mis.
Mae telerau taliadau’r Cynllun Seiclo newydd gael eu hymestyn dros gyfnod o 18 mis o’r 12mis gwreiddiol, gan leihau’r taliadau misol a’i wneud yn fwy fforddiadwy.
Bydd cyfle hefyd i ddysgu mwy am y cyfleusterau seiclo sydd ar gael yn y Brifysgol ac yn yr ardal leol wrth i’r Brifysgol yn cynnal nifer o stondinau gwybodaeth ym Mhenbryn ar Gampws Penglais.
Dywedodd Jackie Sayce, cyd-drefnydd Diwrnod Beicio i’r Gwaith ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Mae beicio i'r gwaith yn ffordd wych o arbed arian ar gostau tanwydd a thrafnidiaeth yn ogystal â gwella eich iechyd a ffitrwydd. Felly allan a’r beic, gwisgwch eich helmed a neilltuwch amser yn eich dyddiadur am daith feic!
“Yn ogystal â manteision iechyd, economaidd ac amgylcheddol beicio i'r gwaith, rydym yn annog pawb i gyfrannu eu milltiroedd beicio ar y diwrnod i'r ymgyrch genedlaethol i gymell mwy o bobl i feicio, a thrwy hynny gael cyfle i ennill beic Claud Butler newydd sbon.”
Ychwanegodd cyd-drefnydd y diwrnod, Jeff Saycell o Ganolfan Chwaraeon y Brifysgol: "Mae Aberystwyth yn prysur sefydlu ei hun yn gyflym fel canolfan seiclo o bwys a bydd yn wych gweld staff yn cymryd rhan yn y fenter hon. Yr ydym wedi gweld cynnydd yn nifer y bobl sy'n mynychu ein dosbarthiadau Sbinio ardderchog yn ddiweddar, ac yn mynychu’r gampfa i ddefnyddio ein Watt Bikes, sy’n wych ar gyfer ymarfer ac wedi eu cymeradwyo gan British Cycling”.
AU28215