Un o hoff adeiladau Aber yn cymryd rhan yn Nrysau Agored 2015
24 Awst 2015
Mae Prifysgol Aberystwyth yn falch o wahodd pobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd i ddarganfod mwy am yr Hen Goleg fel rhan o Ddrysau Agored 2015 ar ddydd Sadwrn, 12fed o Fedi.
Yn rhan o raglen Dyddiau Treftadaeth Ewropeaidd, a gynhelir mewn 50 o wledydd led led Ewrop, Drysau Agored yw'r digwyddiad gwirfoddol mwyaf yn y sector treftadaeth yng Nghymru.
Mae'r Hen Goleg yn adeilad rhestredig Gradd I sy’n wynebu'r môr yn Aberystwyth. Gyda thyrrau castellog a gargoiliau ar y parapetau, yr adeilad eiconig hwn yw man geni ysgolheictod yng Nghymru ac mae’n un o adeiladau mwyaf nodweddiadol y Deyrnas Gyfunol o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Fe'i codwyd yn wreiddiol fel gwesty gan y contractwr rheilffordd Thomas Savin , ac fe’i prynwyd gan Bwyllgor Prifysgol Cymru am £10,000 yn1867, rhan fechan o'r swm y costiodd i’w adeiladu. Cyrhaeddodd y myfyrwyr cyntaf gyrraedd yn Hydref 1872.
Mae’r Brifysgol bellach yn bwriadu trawsnewid yr adeilad i fod yn ganolfan integredig ar gyfer treftadaeth, diwylliant, dysg a chyfnewid gwybodaeth yng nghalon ardal ddiwylliannol yng nghanol hanesyddol y dre. Bydd yn darparu cyfleoedd unigryw a buddiannau i’r Brifysgol, y gymuned leol, Canolbarth Cymru a gweddill y wlad.
Mae’r cynlluniau ar gyfer adfywiad yr Hen Goleg yn cynnwys amgueddfa, oriel gelf, siop a chaffi. Bwriedir i denantiaethau artistiaid, digwyddiadau a llogi ystafelloedd ar gyfer grwpiau cymunedol fod yn rhan bwysig o fywyd newydd yr Hen Goleg. Mae'r cynlluniau yn ymestyn y tu hwnt i'r Hen Goleg ei hun ac yn cynnwys datblygiadau ar gyfer Ystafelloedd y Cynulliad ac adeiladau cyfagos arall.
Gallai cyfanswm y prosiect olygu buddsoddiad o filiynau o bunnoedd fesul cam dros y blynyddoedd hyd at agoriad swyddogol yn ystod pen-blwydd yn 150 oed y Brifysgol yn 2022.
Meddai Dr Rhodri Llwyd Morgan, Dirprwy Is-Ganghellor, “Rydyn ni’n falch iawn ein bod yn rhan o Ddrysau Agored 2015. Dyma gyfle arbennig i ddarganfod a mwynhau’r straeon tu ôl i’r Hen Goleg. Bydd cyfle i ymuno â sgyrsiau i ddysgu mwy am hanes yr adeilad a darganfod mwy am y cynigion cyffrous ar gyfer adfywio'r adeilad. Bydd cyfle hefyd i fwynhau detholiad o waith Mary Lloyd Jones, ein hartist preswyl sy’n un o artistiaid mwyaf enwog a nodedig Cymru."
Ceir mwy o fanylion am y digwyddiad yma.