Academydd o Aberystwyth i drafod llyfr newydd ar Radio 4
21 Awst 2015
Bydd academydd o Aberystwyth yn ymddangos ar Radio 4 yfory yn trafod ei lyfr newydd.
Cafodd yr Athro Warren sy’n Gyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu Athrofa’r Gwyddorau Biolegol Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ei gyfweld ar gyfer rhaglen Today yr wythnos hon a bydd yn cael ei ddarlledu ar BBC Radio 4 dydd Sadwrn 22 Awst.
Mae’i lyfr The Nature of Crops – How we came to eat the plants we do a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn edrych ar y rhesymau pam ein bod ond yn bwyta prin 1% o'r 40,000 o blanhigion sydd ar gael tra bod y potensial yn llawer mwy.
Bu’r Athro Warren gynt yn gweithio fel bridiwr coco yn gweithio ar fanc siocled y byd ym Mhrifysgol India'r Gorllewin yn Trinidad. Mae ganddo ddiddordeb academaidd mewn bywyd rhywiol planhigion ac mae’n ymddiddori ym mhob peth bwytadwy.
Meddai, “Bywydau rhywiol eithaf diflas sydd i’r rhan fwyaf o'r cnydau yr ydym yn eu bwyta, ond gall hynny fod yn newyddion da iawn gan fod y rhain yn haws i’w meithrin a’i datblygu y tu allan i'w milltir sgwâr. Ar draws canrifoedd lawer rydym wedi dewis a dofi planhigion ar gyfer bwyd, yn aml pan eu bod yn wenwynig yn eu ffurf brodorol. Er enghraifft, mae cnau almon gwyllt yn cynnwys cyanid marwol, a dim ond trwy i’n hynafiaid brofi a methu y llwyddwyd i ddewis a meithrin almon nad yw yn wenwynig."
Mae’r llyfr hefyd yn llawn darluniau gwreiddiol o’i waith ef ei hun ac yn arwain y darllenydd ar daith trwy ein hanes gyda phlanhigion sy’n cael eu tyfu’n gnydau. Mae’r gyfrol yn dilyn themâu cyson mewn dofi planhigion, ac yn nodi hanes a bioleg dros 50 o gnydau, gan gynnwys grawnfwydydd, sbeisys, codlysiau, ffrwythau a chnydau arian parod fel siocled, tybaco a rwber.
Ychwanegodd, “Cyflwynir y llyfr i holl athrawon a bridwyr planhigion y byd, sydd rhyngddynt yn bwydo ein meddyliau â’n boliau. Mae'r ddau broffesiwn yn cael eu camddeall a heb eu gwerthfawrogi yn aml. Mewn gwirionedd maent yn cael eu cymell gan y dymuniad anhunanol i wneud y byd yn lle gwell.”
Gellir gwrando eto ar y cyfweliad yma.