Cynhadledd Addysgu a Dysgu
19 Awst 2015
Bydd Prifysgol Aberystwyth yn cynnal ei thrydedd Cynhadledd Dysgu ac Addysgu flynyddol rhwng 8-10 Medi; cynhadledd bwysig fydd yn canolbwyntio eleni ar ddathlu amrywiaeth rhagoriaeth addysgu.
Bydd Dathlu Amrywiaeth Rhagoriaeth Addysgu yn dwyn ynghyd academyddion a chydweithwyr cymorth arbenigol o bob rhan o'r Brifysgol i ystyried ystod amrywiol o bynciau, i gyd yn ymwneud â'r prif themau o asesu ac adborth; cyfoethogi dysgu gyda chyfryngau a gwrthrychau dysgu ar-lein ac ymgysylltu myfyrwyr yn y dysgu.
Bydd nifer o sesiynau, grwpiau trafod a siaradwyr diddorol yn ystod y tridiau. Bydd y pynciau'n cynnwys dulliau o ddysgu rhyngweithiol a chreadigol, adborth sain, e-gyflwyno, a materion yn ymwneud â'r cyfnod pontio o'r ysgol i'r brifysgol.
Y prif siaradwr fydd Alison James, Deon, Dysgu ac Addysgu ym Mhrifysgol y Celfyddydau Llundain. Mae Alison yn gyn-fyfyrwraig o Brifysgol Aberystwyth ac yn Gymrawd Addysgu Cenedlaethol, ac mae hi'n arbenigo mewn dulliau rhyngweithiol a chreadigol i ddysgu ac addysgu.
Gallwch gadw lle neu gael gwybod mwy am y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu yma.