IBERS yn denu ysgolheigion PhD Newton Bhabha
Sabiha Khatoon ac Aiswarya Girija
19 Awst 2015
Mae'r Swyddfa Ryngwladol ar y cyd âg Athrofa y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig wedi bod yn llwyddiannus wrth recriwtio dau ysgolhaig PhD Newton Bhabha, yr unig Brifysgol yng Nghymru i wneud hynny o dan gynllun hwn.
Mae Sabiha Khatoon, o Brifysgol Fwslimaidd Aligarh ac Aiswarya Girija, o Ganolfan Gandhi Rajiv dros Fiotechnoleg, ymhlith 26 o enillwyr medalau aur a ddewiswyd o blith cannoedd o ymgeiswyr i gynnal rhan o’u gwaith ymchwil mewn sefydliad yn y Deyrnas Gyfunol. Maen nhw’n treulio’r misoedd nesaf gyda'r tîm yn IBERS ac yn dychwelyd i India i barhau gyda’ u hymchwil ym mis Tachwedd.
Gweiniddir Cronfa Bhabha Newton gan Gyngor British India gyda’r amcan o ddwyn ynghyd y sectorau ymchwil gwyddonol ac arloesi yn India a’r Deyrnas Gyfunol i ddod o hyd i atebion ar y cyd i'r heriau sy'n wynebu India ym maes datblygu economaidd a lles cymdeithasol.
Mae'r cynllun yn rhan o Gronfa Newton gwerth £37 miliwn yn y Deyrnas Gyfunol i gefnogi partneriaethau gwyddoniaeth ac arloesedd rhwng y Deyrnas Gyfunol a phwerau sy'n dod i'r amlwg. Mae myfyrwyr ar y Rhaglen Lleoliadau PhD Newton Bhabha yn treulio cyfnod o astudio (3 i 6 mis) mewn Sefydliadau Addysg Uwch yn India a’r Deyrnas Gyfunol.
Meddai’r Athro Chris Thomas, Dirprwy Is-Ganghellor dros Ymchwil: "Rydym yn falch iawn o groesawu'r ysgolheigion PhD Bhabha Newton Sabiha Khatoon ac Aiswarya Girija. Mae IBERS yn ganolfan ymchwil ac addysgu a gydnabyddir yn rhyngwladol, gan roi sail unigryw ar gyfer ymchwil mewn ymateb i'r heriau byd-eang: megis diogelwch bwyd, bio-ynni a chynaliadwyedd, ac effeithiau newid yn yr hinsawdd. Gyda 360 aelod o staff, yw'r IBERS yw’r Athrofa fwyaf yn y Brifysgol, ac yn ymroddedig i ymchwil a phartneriaeth rhyngwladol, yn enwedig gydag India."
Gan ymateb i newidiadau yn nhueddiadau recriwtio myfyrwyr rhyngwladolyn gyffredinol, mae’r Swyddfa Ryngwladol yn rhoi pwyslais sylweddol ar hyrwyddo cryfderau ymchwil y Brifysgol yn rhyngwladol, llawer ohono drwy weithgarwch partneriaeth y brifysgol.
Mae'r Swyddfa Ryngwladol ac IBERS bellach edrych ymlaen at greu cynllun pwrpasol, i feithrin y cysylltiadau yn India ymhellach gyda'r nod o ffurfio cydweithrediadau a arweinir gan ymchwil gyda rhai o'r sefydliadau Indiaidd elitaidd o dan y cynllun hwn.