Myfyrwraig o Aberystwyth yn codi arian i elusen anifeiliaid yn Ynysoedd y Caiman
17 Awst 2015
Mae Melanie Moore, myfyrwraig o Ynysoedd y Caiman sydd yn astudio Gwyddor Anifeiliaid ym Mhrifysgol Aberystwyth, wedi bod yn codi arian ar gyfer y Cayman Islands Humane Society.
Cododd hi’r arian drwy gymryd rhan yn y cwrs rhwystr heriol Muddy Mountain ym Mhenrhyn-coch yn gynharach eleni.
Mae gan Melanie, sydd yn gobeithio hyfforddi fel milfeddyg ar ôl cwblhau eu hastudiaethau yn Aberystwyth, hanes hir o wasanaeth i’r Cayman Islands Humane Society. Mae’r elusen yn darparu cartrefi a gofal meddygol i anifeiliaid ac yn trin cŵn sydd yn dioddef o heartworm – llyngyr parasitig caiff ei ledaenu gan fosgitos.
Dywedodd Melanie ei bod yn falch gallu helpu’r elusen: “Dw i wedi bod yn ymwneud â’r elusen yn gyson ers blynyddoedd, yn gwirfoddoli a helpu mewn unrhyw ffordd y gallwn. Er fy mod yn astudio dramor, rwy’n credu ei fod yn bwysig i roi cymorth i elusennau gartref.”
Mae Melanie wedi cael sylw cenedlaethol yn Ynysoedd y Caiman, gydag erthygyl ym mhapur newydd y Cayman Compass yn sôn am ei chyfraniad fel gwirfoddolwr gyda’r Cayman Islands Humane Society.
Dros yr haf, mae Melanie yn cynnal gwaith ymchwil yn Ynysoedd y Caiman ar gyfer ei thraethawd hir sydd yn anelu at ddarganfod ffactorau newydd am heartworm mewn cŵn. Mae’r ymchwil yn rhan o brosiect ehangach gydag Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig yn Aberystwyth ar y cyd gyda Dr Alan Wheeler o Ganolfan Ymchwil Mosgito yn Grand Caiman.
Mae Melanie wedi gwirfoddoli’n frwd mewn practis milfeddygol a’r Adran Amaethyddiaeth yn Ynysoedd Y Caiman am nifer o flynyddoedd. Dr Bush o Island Veterinary Services, sydd wedi mentora Melanie am y chwe blynedd diwethaf: “Mae wedi bod yn rhan wych o’n clinig ac rydym wedi ei gweld yn datblygu i fod yn fenyw ifanc parod a deallus.”