Addysgu a arweinir gan ymchwil yn golygu gwelliant yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr

11 Awst 2015

Mae adrannau academaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth a arweinir gan ymchwil ac sy’n adnabyddus yn rhyngwladol yn dangos canlyniadau bodlonrwydd myfyrwyr rhagorol yn ôl yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (NSS) 2015 a gyhoeddir heddiw, Dydd Mercher 12 o Awst.

Atgyfnerthir enw da Prifysgol Aberystwyth yn y gwyddorau ffisegol, sydd eisoes yn hysbys trwy’r gwaith ymchwil ar y gofod a rhewlifeg, gan ganlyniadau rhagorol mewn rhaglenni Ffiseg a Daearyddiaeth gyda boddhad cyffredinol o 100% a 97% fel ei gilydd.

Mae rhaglenni adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol arloesol y Brifysgol yn sgorio rhwng 90% am foddhad a 97% am ansawdd yr addysgu.

Yn Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig, mae cyrsiau bioleg a arweinir gan ymchwil, Bioleg, Geneteg, Ymddygiad Anifeiliaid,  Gwyddor Anifeiliaid a Sŵoleg - bob  un yn sgorio rhwng 91% a 100% ar gyfer ansawdd yr addysgu, wrth ddangos gwelliant sylweddol am adborth myfyrwyr.

Mae rhaglenni eraill a wnaeth yn arbennig o dda yn cynnwys y rhaglen alwedigaethol Astudiaethau Plentyndod gyda 94%  o foddhad cyffredinol, a’r rhaglen Rheolaeth Twristiaeth unigryw, gyda 92%. Cyflawnodd rhaglenni Ieithoedd Ewropeaidd y Brifysgol, gyda'u pwyslais cryf ar ddysgu yn y wlad, a chyflogadwyedd 90% o foddhad cyffredinol.

Ar y cyfan, mae Arolwg NSS 2015 yn dangos bod y Brifysgol wedi gwneud cynnydd rhagorol mewn meysydd allweddol a nodwyd yn flaenorol ar gyfer gwella gan fyfyrwyr.

Mae boddhad gydag Asesu ac Adborth i fyny 5 pwynt canran a Threfniadaeth a Rheoli i fyny 4 o'i gymharu â 2014.

Mae boddhad gydag Adnoddau Dysgu yn parhau i godi am yr ail flwyddyn yn olynol, i 84% (80% yn 2013). Yn yr un modd, boddhad â'r Gefnogaeth Academaidd, Datblygiad Personol ac Undeb y Myfyrwyr.

Ymatebodd 86% o fyfyrwyr Aberystwyth eu bod yn fodlon ar yr addysgu ar eu cwrs a dywedodd 83% eu bod yn fodlon ar eu profiad myfyrwyr Aberystwyth yn gyffredinol.

Meddai’r Athro John Grattan, Dirprwy Is-Ganghellor dros Brofiad Myfyrwyr a Rhyngwladol: "Rydym wrth ein bodd gyda chanlyniadau’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr eleni sy'n dangos yn glir ein bod wedi ymateb i'r hyn y mae ein myfyrwyr wedi bod yn dweud wrthym. Mae ymroddiad ac ymrwymiad ein staff addysgu yn cael eu hadlewyrchu yn y canlyniadau a gyflawnwyd, gyda 9 adran academaidd a 19 o raglenni gradd yn perfformio'n well na’r sector ar gyfer rhagoriaeth addysgu, a cheir rhai perfformiadau gwirioneddol eithriadol ar gyrsiau unigol.

"Mae'n arbennig o braf gweld boddhad â'r adnoddau dysgu yn parhau i gynyddu. Yr haf hwn gwelir cwblhau rhaglen fuddsoddi tair blynedd gwerth  £8.1m i uwchraddio cyfleusterau addysgu a dysgu ar Benglais a Llanbadarn, ac mae'n dda gweld y cyfleusterau newydd yn cael effaith gadarnhaol ar brofiad dysgu ein myfyrwyr.

"Mae un peth yn glir; ni fyddwn yn llaesu dwylo. Yn ystod y flwyddyn nesaf, mewn partneriaeth â'n myfyrwyr, byddwn yn parhau i weithio i wella ein haddysgu ac ansawdd yr adborth mae ein myfyrwyr yn derbyn ac yn adeiladu ar y cynnydd rhagorol a wnaed gennym eleni.

"Ynghyd â'r asesiad diweddaraf o ansawdd ymchwil a ffigurau cyflogadwyedd rhagorol, mae Prifysgol Aberystwyth yn prysur adfer ei enw da fel un o'r llefydd gorau yn y byd i fod yn fyfyriwr."

Mae canlyniadau diweddaraf yr Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol yn adeiladu ar berfformiad y Brifysgol yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014 (REF2014) a ffigurau cyflogadwyedd sydd wedi gwella'n sylweddol a ryddhawyd gan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) ym mis Gorffennaf.

Mae 95% o'r gweithgarwch ymchwil a gyflwynwyd ar gyfer REF2014 o safon a gydnabyddir yn rhyngwladol neu'n uwch, gydag ymchwil sydd gyda'r gorau yn y byd (4 *) ym mhob 17 o’r Unedau Asesu a gyflwynwyd.

Mae Aberystwyth yn ail allan o 126 o sefydliadau addysg uwch ar gyfer gwelliant mewn Perfformiad Cyflogaeth yn ystod y flwyddyn (i fyny 6 pwynt canran), ac yn drydydd allan o 120 Sefydliad Addysg Uwch ar gyfer gwelliant yn y niferoedd sy'n mynd i waith ar lefel broffesiynol neu astudiaeth bellach ar lefel graddedigion yn ystod y flwyddyn ( i fyny 9% pwynt).

Ar hyn o bryd mae Prifysgol Aberystwyth yn buddsoddi dros £100m mewn cyfleusterau newydd. Bydd cam diweddaraf o'r preswylfeydd newydd i fyfyrwyr ar Fferm Penglais gwerth £45m yn agor ym mis Medi, yn cynnig llety o safon sydd gyda’r gorau mewn unrhyw brifysgol yn y Deyrnas Gyfunol, a bydd buddsoddiad gwerth £ 8.1m i uwchraddio cyfleusterau dysgu ac addysgu yn cael ei gwblhau mewn pryd ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd, gan ddarparu'r dechnoleg amlgyfrwng ddiweddaraf mewn ystafelloedd seminar a darlithfeydd.

Mae gwaith ar fin dechrau ar gampws Arloesi a Menter newydd gwerth £40.5m yng Ngogerddan hefyd, ac mae cynlluniau cyffrous yn cael eu llunio i drawsnewid yr Hen Goleg gyda buddsoddiad o hyd at £20m.

AU25715