Cynfyfyrwyr Aber yn cipio prif wobrau’r Eisteddfod hyd yn hyn

Manon Rhys yn cipio'r Goron Llun: Aled Llywelyn/Eisteddfod Genedlaethol Cymru

Manon Rhys yn cipio'r Goron Llun: Aled Llywelyn/Eisteddfod Genedlaethol Cymru

05 Awst 2015

Mae dwy gynfyfrwraig o Brifysgol Aberystwyth wedi ennill dwy o brif wobrau’r Eisteddfod hyd yn hyn.  

Graddiodd Manon Rhys yn y Gymraeg yn Aberystwyth a hi yw enillydd Coron Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau eleni.

Dan y ffugenw Jac, enillodd y goron am gasgliad o gerddi heb fod mewn cynghanedd gyflawn hyd at 250 o linellau ar y thema 'Breuddwyd'.

Y beirniaid eleni oedd Cyril Jones,Nesta Wyn Jones a Gerwyn Williams.

Wrth drafod y gwaith buddugol, dywedodd Cyril Jones: "Casgliad sy'n anesmwytho'r darllenydd yw hwn, gan ei fod yn archwilio'r tir neb rhwng breuddwyd a hunllef. Mae hyd yn oed arddull y cerddi'n cyfleu hynny gan fod pump ohonynt wedi'u hatalnodi a'r naw arall yn ddiatalnod a'u cywair yn pendilio rhwng darnau mwy ffurfiol a thafodiaith de orllewin Cymru.

Mae Coron yr Eisteddfod Genedlaethol yn un o ddwy brif wobrau'r Eisteddfod am farddoniaeth.

Graddiodd Mari Lisa mewn Cymraeg a Drama, cyn mynd ymlaen i ennill gradd MPhil am ei hymchwil i garolau plygain Maldwyn. Hi yw enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen eleni.

Y beirniaid oedd Robat Arwyn, Angharad Price a Dewi Prysor. Wrth draddodi o’r llwyfan, meddai Robat Arwyn, "Dim ond canmoliaeth sydd gan y tri ohona ni i'r gwaith sy'n nofel ddirgelwch, sy'n atgoffa rhywun o'r Da Vinci Code gan Dan Brown. Mae'n nofel sy'n ein tywys ar antur ar draws Cymru wrth i'r dirgelwch ein harwain yn ôl trwy'r canrifoedd er mwyn datrys digwyddiadau dychrynllyd y presennol.

Un o brif wobrau’r Eisteddfod yw Gwobr Goffa Daniel Owen. Rhoddir gwobr o £5000 am nofel yn Gymraeg sydd heb ei chyhoeddi o'r blaen. Mae'r wobr er cof am y nofelydd Cymraeg  Daniel Owen, a fu farw yn 1895.

AU25915