Ysgoloriaeth i ddysgwyr y Gymraeg o Batagonia

Grisel Roberts

Grisel Roberts

05 Awst 2015

Athrawes Saesneg o’r Arianin, sydd â gwreiddiau yng Nghymru ar ochr ei thad, yw enillydd yr ysgoloriaeth gyntaf i ddysgwyr Cymraeg o Batagonia i fynychu’r Cwrs Haf Cymraeg a gynhelir ym  Mhrifysgol Aberystwyth o 3-28, Awst 2015.

Mae Grisel Roberts, sy’n byw yn Esquel, gefeilldref i Aberystwyth, wedi dysgu Cymraeg ar gyrsiau ym Mhatagonia ers 1998, gydag athrawon o Gymru. Mae hi hefyd wedi helpu dysgwyr eraill ym Mhatagonia. ‘Dw i'n meddwl ei bod hi’n bwysig iawn ein bod ni'n dysgu ein hiaith leiafrifol, a chymryd gofal o’n treftadaeth ddiwylliannol,’ meddai Grisel . ‘Mae'r Gymraeg yn rhan o’n diwylliant ni.’

Wrth ddod i Brifysgol Aberystwyth am fis, ei huchelgais yw siarad Cymraeg yn rhugl a chywir, er mwyn siarad gyda phobl eraill a dysgu Cymraeg i bobl eraill hefyd. ‘Dw i'n dwlu ar ieithoedd, gramadeg a ieithyddiaeth,’ meddai Grisel.

Mae  Prifysgol Aberystwyth yn noddi’r ysgoloriaeth newydd hon i ddathlu 150 mlynedd ers sefydlu’r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia eleni, ac yn arbennig i ddathlu’r cysylltiad rhwng Aberystwyth ag Esquel yn nhalaith Chubut ym Mhatagonia.

Yn 2014, roedd 268 o oedolion yn dysgu Cymraeg ym Mhatagonia.

Mae tua 80 o ddysgwyr o Gymru a thu hwnt yn mynychu’r Cwrs Haf bob blwyddyn. Mae’r cwrs yn cynnig cyfle i ddysgwyr ar bob lefel, o ddechreuwyr i ddysgwyr profiadol, i wella eu sgiliau Cymraeg, a chymryd rhan mewn pob math o weithgareddau drwy gyfrwng y Gymraeg.

AU25815