Gwobr Times Higher i wasanaeth llyfrgell
30 Mehefin 2015
Mae partneriaeth sy’n cynnwys gwasanaethau llyfrgell Prifysgol Aberystwyth yn dathlu llwyddiant yng Ngwobrau Arweinyddiaeth a Rheolaeth Addysg Uwch Times Higher Education 2015.
Mae Gwobrau Arweinyddiaeth a Rheolaeth Addysg Uwch y Times Higher Education yn cydnabod rhagoriaeth mewn rheolaeth ac arweiniad ymysg sefydliadau addysg uwch yn y Deyrnas Gyfunol.
Mae Fforwm Llyfrgelloedd Addysg Uwch Cymru (WHELF) – sydd yn cynnwys Llyfrgell Genedlaethol Cymru, pob hun o’r 10 sefydliad addysg uwch yng Nghymru a llyfrgelloedd Cymreig y Gwasanaeth Iechyd Gwladol – yn bartneriaeth a sefydlwyd er mwyn darparu system rheoli llyfrgell ar gyfer yr holl wlad.
Hwn yw’r prosiect cyntaf o’i fath yn y DG a chafodd gefnogaeth trwy gyllid gan CyMAL (Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Cymru) a Jisc (Joint Information Systems Committee).
Disgrifiwyd y system gan feirniaid y Gwobrau fel “prosiect uchelgeisiol” ac roeddent yn llawn edmygedd o botensial y cynllun i ehangu mynediad i adnoddau, wrth leihau costau caffael ac isadeiledd.
Bydd y system reoli llyfrgell newydd yn cael ei chyflwyno’r raddol ar draws y wlad, a bydd Prifysgol Aberystwyth yn dechrau ei defnyddio ar yr 20fed o Orffennaf 2015. Bydd y system yn weithredol ar draws holl sefydliadau WHELF a llyfrgelloedd y GIG Cymreig (trwy Brifysgol Caerdydd) erbyn diwedd 2016.
Dywedodd Ms Julie Hart, Pennaeth Gwasanaethau Llyfrgell Prifysgol Aberystwyth: “Bydd y gwasanaeth i ddefnyddwyr yn gwella yn sgìl gwelliant i swyddogaethau’r system, ynghyd â chynnydd i effeithlonrwydd y system a symleiddio gwasanaethau. Unwaith y bydd y system wedi ei chyflwyno yn ei chyfanrwydd, bydd llawer o gyfleoedd am gydweithio pellach.”
Croesawyd y datblygiad gan Ken Skates AC, Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth Llywodraeth Cymru. Dywedodd: “Bydd cydweithio ar system rheoli llyfrgell yn darparu buddiannau sylweddol i fyfyrwyr, darlithwyr a staff llyfrgell, ynghyd ag arbedion ariannol. Rwyf wrth fy modd bod yr esiampl ragorol yma o gydweithio rhwng sefydliadau Cymreig wedi derbyn sylw rhyngwladol, ac rwy’n falch bod Llywodraeth Cymru wedi medru cefnogi’r fenter.
AU21515