Agor Canolfan Milfeddygaeth Cymru
Agoriad Canoflan Milfeddygaeth Cymru: Chwith i’r Dde, Yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, Yr Athro Christianne Glossop, Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd Llywodraeth Cymru, Rebecca Evans AC , a Mr Phil Thomas, Cyfarwyddwr, Iechyd Da.
29 Mehefin 2015
Cafodd Canolfan Milfeddygaeth Cymru ei hagor yn swyddogol heddiw, ddydd Llun 29 Mehefin gan Ddirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd Llywodraeth Cymru, Rebecca Evans AC.
Wedi ei lleoli ar hen safle Canolfan Ymchwil Filfeddygol yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA), sefydlwyd Canolfan Milfeddygaeth Cymru gan Iechyd Da, consortiwm o bractisiau milfeddygol annibynnol wedi eu lleoli yng Nghymru ynghyd â Welsh Lamb and Beef Producers Ltd, a Phrifysgol Aberystwyth.
Bydd yr Athro Christianne Glossop, Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, a Mr Phil Thomas, Cyfarwyddwr Iechyd Da gyda’r Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, Rebecca Evans AC, i nodi’r achlysug.
Yn ddiweddar penodwyd Iechyd Da gan APHA fel trydydd parti i ddarparu archwiliadau post-mortem arbenigol o afiechydon newydd a rhai sy’n ailymddangos mewn anifeiliaid fferm. Mae’r gwasanaeth wedi bod yn weithredol ers Ebrill 2015.
Drwy adeiladu ar yr archwiliadau post-mortem o anifeiliaid fferm, bwriad Iechyd Da yw ehangu’r amrediad o wasanaethau mae’n eu cynnig i gynnwys anifeiliaid anwes a rhywogaethau gwyllt, yn ogystal â datblygu ystod o wasanaethau labordy diagnostig i gefnogi rhaglenni dileu afiechydon a chefnogi ymarferwyr maes mewn diagnosis afiechydon.
Dywedodd Dirprwy Weinidog: "Rwy'n falch o agor y Ganolfan Wyddoniaeth Filfeddygol Cymru, a fydd yn cryfhau yn sylweddol ac yn gwella cyfraniad pwysig y proffesiwn milfeddygol i fywyd gwledig yng Nghymru ac yn codi safonau iechyd a lles anifeiliaid. Bydd hefyd yn rhoi hwb i'r economi wledig drwy sicrhau swyddi technegol ar gyfer yr ardal, o fudd i'r economi ehangach drwy gefnogi ein cymunedau ffermio, ac yn gaffaeliad i'r Deyrnas Gyfunol drwy gyfrannu data gwerthfawr i'r rhwydwaith gwyliadwriaeth.
Dywedodd Christine Glossop, Prif Swyddog Milfeddygol Cymru: “Bydd y Ganolfan yn chwarae rhan arwyddocaol yn amddiffyn anifeiliaid yng Nghymru ac yn gwneud cyfraniad pwysig i ddiwydiant ffermio llwyddiannus a gwydn, gan adlewyrchu rôl hanfodol y proffesiwn milfeddygol yng Nghymru.”
Dywedodd yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Rydym yn falch iawn bod Prifysgol Aberystwyth wedi gweithio mewn partneriaeth gyda diwydiant a practisiau preifat i sicrhau darpariaeth filfeddygol i amaethyddiaeth yng Nghymru. Mae’r Brifysgol yn datblygu ei gallu ym maes iechyd anifeiliaid a dynol, sydd yn gysylltiedig â’n gwaith ymchwil a dysgu arloesol ym maes amaethyddiaeth a chynhyrchu bwyd. Mae Canolfan Milfeddygaeth Cymru yn esiampl o bartneriaeth integredig mewn meysydd sydd yn hanfodol i economi cefn gwlad Cymru. Mae hefyd yn gam allweddol tuag at ein huchelgais o ddatblygu Ysgol Filfeddygaeth i Gymru yn Aberystwyth.”
Dywedodd Phil Thomas, Cyfarwyddwr Iechyd Da: “Mae agor Canolfan Milfeddygaeth Cymru yn cynrychioli cam pwysig i’r sector amaethyddol a phawb sydd yn gysylltiedig â lles anifeiliaid yng nghanolbarth Cymru. Amcangyfrifir bod gwyliadwriaeth filfeddygol, fel buddsoddiad, yn ad-dalu’r diwydiant a’r wlad 20 gwaith drosodd, ac mae heddiw yn cynrychioli parhad gwasanaeth ac adfywio cyfleuster a fyddai fel arall wedi diflannu o’r ardal yma.
“Mae Iechyd Da yn edrych ymlaen at ehangu ar y ddarpariaeth post-mortem sydd eisoes ar gael fel y gallwn ddarparu amrediad eang o wasanaethau, o gynnal cyrsiau hyfforddi i geidwaid anifeiliaid, i wersi dyraniad ar gyfer myfyrwyr, datblygiad proffesiynol parhaus ar gyfer milfeddygon, a chefnogi rhaglenni dileu afiechydon. Ein gweledigaeth yw sefydliad Un Iechyd sydd yn adnabod natur orgyffyrddol a chydgysylltiol y berthynas rhwng pobl, anifeiliaid fferm, bywyd gwyllt a’r amgylchedd o’n cwmpas.”
Dywedodd Richard Irvine, pennaeth uned Gwyliadwriaeth Sganio a Gwybodaeth Gwyliadwriaeth yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA). “Rwy’n edrych ymlaen at weld APHA yn gweithio mewn partneriaeth agos gyda Chanolfan Milfeddygaeth Cymru i ddarparu cymorth diagnostig arbenigol a gwybodaeth gwyliadwriaeth i bractisiau milfeddygaeth a ffermwyr yng Nghymru. Dim ond trwy weithio gyda’n gilydd y gallwn greu rhwydwaith gwyliadwriaeth afiechydon effeithiol, ac rwy’n annog ffermwyr a milfeddygon yng Nghymru i wneud defnydd o arbenigedd sylweddol Canolfan Milfeddygaeth Cymru ac APHA.”
Canolfan Milfeddygaeth Cymru
Mae’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion wedi penodi Iechyd Da, consortiwm o filfeddygfeydd annibynnol yng Nghymru, mewn cydweithrediad â Phrifysgol Aberystwyth a Welsh Lamb and Been Producers Ltd., yn ddarparwr trydydd parti ar gyfer cynnal archwiliadau post-mortem arbenigol o glefydau newydd a chlefydau sy’n ymddangos am yr eildro mewn anifeiliaid fferm.
Mae’r gwasanaeth newydd hwn wedi’i gynllunio er mwyn cefnogi busnesau milfeddygol yng Nghanolbarth a Gogledd Cymru, ond bydd hefyd yn cyfrannu at well rhwydwaith arolygu sganio drwy’r Deyrnas Gyfunol sy’n cynnwys yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion, y proffesiwn milfeddygol ehangach a’r diwydiant da byw.
Bydd Canolfan Milfeddygaeth Cymru yn gweithio o’r hen Ganolfan Archwilio Milfeddygol yn Aberystwyth, gan ddarparu archwiliadau post-mortem arbenigol ar gyfer da byw ar ffermydd i ddechrau. Fodd bynnag, dros amser ein nod fydd ehangu’r ystod o archwiliadau post-mortem i gynnwys anifeiliaid anwes a gwyllt, yn ogystal â datblygu rhychwant o wasanaethau diagnostig labordy i gefnogi rhaglenni ar gyfer dileu clefydau a chefnogi ymarferwyr yn y maes wrth iddynt adnabod clefydau ar gyfer eu cleientiaid.
Y cam cyntaf fydd darparu gwasanaeth archwiliadau post-mortem i filfeddygon yng Nghanolbarth Cymru, ac yna, yn dilyn ymgynghori â’r milfeddygfeydd perthnasol, ymestyn hynny i Ogledd Cymru trwy ddefnyddio gwasanaeth cludo cyrff.
Mae gwybodaeth bellach ar Ganolfan Milfeddygaeth Cymru ar gael ar-lein o http://www.wvsc.wales/cy/.
AU21215