Cyngor y Brifysgol yn cymeradwyo cynnig ar Bantycelyn

Pantycelyn

Pantycelyn

22 Mehefin 2015

Heddiw mae Prifysgol Aberystwyth wedi ailddatgan ei hymrwymiad parhaus tuag at yr iaith a’r diwylliant Cymraeg a darpariaeth llety cyfrwng Cymraeg.

Mae Cyngor y Brifysgol wedi cymeradwyo cynnig, sydd wedi ei gytuno ag UMCA ac Undeb y Myfyrwyr sy’n cynnig ffordd ymlaen ar gyfer llety dynodedig Cymraeg a dyfodol Pantycelyn yn Aberystwyth.

Mae’r Brifysgol wedi ailddatgan ei dymuniad i ddarparu llety o’r radd flaenaf ar gyfer myfyrwyr, gan gynnwys myfyrwyr cyfrwng Cymraeg. Yn ogystal, mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu dewis o lety, gan gynnwys cysondeb dewis tra bod Neuadd Pantycelyn yn cael ei hailddatblygu.

Mae’r cynnig yn sicrhau darpariaeth llety cyfrwng Cymraeg yn Fferm Penglais a Phenbryn o fis Medi 2015, tra bod Neuadd Pantycelyn ar gau er mwyn ei hadnewyddu, ac yn sicrhau parhad defnydd gofod cymdeithasol ym Mhantycelyn gan glybiau a chymdeithasau cyfrwng Cymraeg ac UMCA, ac adleoli Gwasanaethau’r Gymraeg i Bantycelyn.

Bydd y Brifysgol yn llunio cynlluniau manwl i ddarparu llety cyfrwng Cymraeg o’r radd flaenaf ac addas i’r dyfodol, ac yna’n edrych ar sut mae modd eu cymhwyso i Bantycelyn.  Bydd hyn yn cymryd i ystyriaeth Strategaeth Ystadau ddiwygiedig y Brifysgol; y galw am lety cyfrwng Cymraeg; y newidiadau strwythurol sydd eu hangen ar Bantycelyn fel adeilad Rhestredig, a'r tebygrwydd y caiff y caniatadau angenrheidiol eu rhoi; blaenoriaethau'r Brifysgol; a'r cyllid y bydd ei angen.

Mae’r cynnig, felly, yn darparu proses er mwyn gweithredu bwriad y Brifysgol i ailagor Pantycelyn fel llety dynodedig cyfrwng Cymraeg o fewn pedair blynedd.   

Mae’r cynnig sydd wedi ei gymeradwyo gan Gyngor Prifysgol Aberystwyth fel a ganlyn:

Dechrau:
Mae'r Cyngor yn tanlinellu ei ymrwymiad i'r iaith Gymraeg a'r diwylliant Cymraeg ac i ddarparu llety Cymraeg penodedig o fewn y Brifysgol.

Mae'r Cyngor yn gwahodd y Tîm Gweithredu i ddarparu llety Cymraeg ym Mhenbryn o fis Medi 2015 ymlaen a fydd yn cynnwys digon o le ar gyfer gweithgareddau cymunedol a diwylliannol i siaradwyr Cymraeg ac i ddysgwyr ar draws y Brifysgol.

Mae'r Cyngor, gan gydnabod na ellir darparu llety ym Mhantycelyn o'r mis yma ymlaen, yn croesawu ac yn cymeradwyo argymhelliad y Tîm Gweithredu i symud rhai gwasanaethau penodol i mewn i Bantycelyn, er mwyn darparu gweithgareddau Cymraeg. Cadarnheir hefyd y caiff UMCA a siaradwyr Cymraeg a dysgwyr ddefnyddio'r adeilad.

Mae'r Cyngor yn gwahodd y Tîm Gweithredu i ddatblygu briff dylunio er mwyn darparu llety a gofod cymdeithasol cyfrwng Cymraeg o'r radd flaenaf, gan gadw mewn cof y galw am lety Cymraeg nawr ac yn y dyfodol. Byddai'r Cyngor yn dymuno bod y briff ar gyfer y llety a'r gofod cymdeithasol hwn, a fydd yn addas am 40 mlynedd, ar gael erbyn 30 Ebrill 2016. Mae hefyd yn mynnu yr ymgynghorir yn llawn ag UMCA a'r myfyrwyr, yn ogystal â'r staff a'r gymuned ehangach, er mwyn diffinio cwmpas y llety cyfrwng Cymraeg rhagorol yma.

Caiff y briff dylunio hwn wedyn ei gymhwyso i Bantycelyn.

Bydd y Cyngor yn disgwyl i'r cais hwn ystyried y canlynol: Strategaeth Ystadau ddiwygiedig y Brifysgol; y galw am lety Cymraeg; y newidiadau strwythurol sydd eu hangen ar Bantycelyn, sy'n adeilad Rhestredig a'r tebygrwydd y caiff y caniatadau angenrheidiol eu rhoi; blaenoriaethau'r Brifysgol; a'r cyllid y bydd ei angen.

Bydd y gwaith hwn wedi manteisio ar gyngor MPAG.

Cyflwynir adroddiad terfynol i'r Cyngor, a fydd yn ystyried y materion hyn, ynghyd â dyluniad clir, wedi'i gostio, ar gyfer llety Cymraeg ym Mhantycelyn, gan gynnwys strategaeth gyllido.

Ein bwriad, felly, yw ailagor Pantycelyn o fewn 4 blynedd er mwyn darparu llety a gofod cymdeithasol Cymraeg o'r radd flaenaf, a fydd yn addas i'r dyfodol.