Prifysgol Aberystwyth yn arwain ymgais record byd i greu apiau Android
16 Mehefin 2015
Bu 62 o bobl yn dysgu adeiladau apiau Android ym Mhrifysgol Aberystwyth ar ddydd Sadwrn 13 Mehefin fel rhan o ymgais record byd Guinness am y nifer mwyaf o bobl yn dysgu ysgrifennu côd.
Roedd Prifysgol Aberystwyth yn un o 30 lleoliad oedd cynnal yr ymgais i dorri'r record am y nifer mwyaf o bobl yn dysgu sut i godio ap Android ar yr un pryd. Cymerodd dros 1000 o bobl ran yn yr ymgais i dorri'r record ar draws y Deyrnas Gyfunol.
Trefnwyd yr ap-a-thon gan BCSWomen, rhan o BCS, Sefydliad Siartredig Technoleg Gwybodaeth. Roedd gan Aberystwyth rôl arweiniol yn y trefniadau – lluniwyd y gweithdy gan y ddarlithwraig mewn Cyfrifiadureg o Dr Hannah Dee, a fu’n rhedeg sesiynau fideo ar-lein cyn y digwyddiad i hyfforddi'r hyfforddwyr ym mhob un o'r lleoliadau eraill.
Yn ogystal â thorri’r record, roedd y trefnwyr hefyd am annog pobl ifanc, yn enwedig merched, i ystyried gyrfa ym maes TG. Ar hyn o bryd, dim ond 16% o bobl broffesiynol ym maes TG sy’n ferched, ffigur sydd wedi gostwng yn sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf.
Roedd pob sesiwn ap-a-thon yn cael ei harwain gan diwtor benywaidd a fu’n dysgu’r cyfranogwyr sut i adeiladu apiau Android drwy ddefnyddio MIT AppInventor.
Arweiniwyd y sesiwn yn Aberystwyth gan Dr Hannah Dee, gyda chymorth oddi wrth staff eraill yn y Brifysgol a Choleg Ceredigion. Roedd y sesiynau yn gyfuniad o sgyrsiau, gweithgareddau a chodio ymarferol.
Hannah hefyd yw Cyswllt a Chydlynydd Academaidd BCSWomen.
Meddai Hannah: "Y gobaith yw, trwy gael 1,093 o bobl yn dysgu sut i wneud apiau Android sy’n hwyl, byddwn wedi llwyddo i newid syniadau pobl ynglŷn â rhaglenni drwy ddangos iddynt y gall fod yn greadigol ac yn hwyl. Hefyd, drwy gael merched yn arwain y gweithdai ar draws y DG, efallai y byddwn hyd yn oed yn llwyddo i newid meddyliau am sut mae rhaglenwyr yn edrych. Mae'n ymddangos fel ei fod yn gweithio - cwrddais ag un o’r mamau yn yr archfarchnad ar ddydd Sul ac mae'n debyg bod ei merch, sydd o oedran cynradd, wedi codi’r bore hwnnw ac wedi mynd ati’n syth i weithio ar ei apiau!"
Trefnwyd a chynhaliwyd y digwyddiad gan wirfoddolwyr. Dywedodd Gillian Arnold, Cadeirydd BCSWomen: “Rydym wrth ein boddau gyda’r ymdrech Ap-a-thon Record Byd Guinness. Mae cydlynu rhywbeth fel hyn yn dipyn o gamp - mae angen misoedd o gynllunio a chydlynu; gwnaeth llawer ohonom y gwaith tra hefyd yn gwneud ein gwaith arferol. Gallwn fod yn falch iawn o’n hymgais i dorri record byd a’r holl waith caled a phenderfyniad aelodau BCSWomen a’r holl wirfoddolwyr yn y gwahanol leoliadau.”
Ychwanegodd Gillian: “Mae'n hanfodol ein bod yn cefnogi merched sy'n dymuno ymuno â'r proffesiwn TG; mae’r prinder merched sy'n ymuno â'r diwydiant yn fygythiad gwirioneddol i fusnes yn y DG. Dim ond 16% o weithwyr proffesiynol TG sy’n ferched. Drwy gael merch yn arwain y sesiynau Ap-a-thon, ein gobaith yw ein bod wedi ysbrydoli llawer o fenywod ifanc, a dangos iddynt ac i’w rhieni bod gyrfaoedd ym maes TG yn rhai cyffrous a gwerth chweil.”
AU5715