£1.3m i astudio cyfiawnder a cham-drin yr henoed

Chwith i’r Dde: Yr Athro Alan Clarke, Sarah Wydall a’r Athro John Williams

Chwith i’r Dde: Yr Athro Alan Clarke, Sarah Wydall a’r Athro John Williams

15 Mehefin 2015

A hithau’n Ddiwrnod Ymwybyddiaeth Cam-drin yr Henoed, ac fel rhan o brosiect ymchwil gwerth £1.3m ar gyfiawnder a cham-drin yr henoed, mae arbeningwyr o Brifysgol Aberystwyth yn archwilio ystod o ffactorau a all ddylanwadu ar a yw dioddefwyr hŷn yn dewis defnyddio prosesau cyfiawnder troseddol neu sifil. 

Amcangyfrifir bod mwy na 500,000 o bobl hŷn yn cael eu cam-drin yn y Deyrnas Gyfunol a gall hyn gynnwys cam-drin corfforol, seicolegol, ariannol, rhywiol ac esgeulustod.

Mae'r gwaith yn rhan o Ganolfan Astudio Heneiddio, Cam-drin ac Esgeuluso, un o ganolfannau ymchwil Adran y Gyfraith a Throseddeg.

Er bod y ffaith ein bod yn byw yn hirach yn un i’w chroesawu, un canlyniad i boblogaeth sy'n heneiddio yw y gall pobl hŷn ddioddef cam-drin gan bobl y maent yn ymddiried ynddynt. O fewn y Deyrnas Gyfunol, cafwyd cryn sylw yn y cyfryngau i gam-drin pobl hŷn mewn ysbytai, cartrefi gofal a lleoliadau sefydliadol eraill.

Fodd bynnag, mae pobl hŷn yn cael eu cam-drin yn eu cartrefi eu hunain. Gall hyn fod yn ariannol, yn gorfforol, yn emosiynol neu’n rhywiol. Gall troseddwyr fod yn aelodau o'r teulu, pobl sydd i fod i ddarparu gofal, neu ffrindiau honedig.

Yn aml mae effaith cam-drin ar y person hŷn yn arwyddocaol ac yn arwain at ynysu cymdeithasol, diet gwael, tlodi tanwydd a dyled. Mae'r rhain yn ychwanegol at y risg o niwed corfforol oherwydd trais neu esgeulustod.

Pryder yr ymchwilwyr yw nad yw llawer o bob hŷn sy’n cael eu cam-drin yn gallu cael cyfiawnder. Prin yw’r erlyniadau a gweithredu o dan y gyfraith sifil. Er taw erlyn yw’r peth iawn i’w wneud mewn rhai achosion, gall hefyd fod yn amhriodol ac efallai gwneud y sefyllfa’n waeth i’r person hŷn.

Mae dynameg cam-drin yr henoed yn gymhleth. Efallai na fydd person hŷn sy'n cael ei gam-drin yn ariannol gan ŵyr neu wyres, am eu gweld yn cael eu herlyn - byddai hynny'n gosod straen ar y teulu a gallai arwain at anawsterdau o fewn y teulu ac amddifadu’r  person hŷn o gefnogaeth y teulu ehangach.

Dywedodd Yr Athro John Williams, Pennaeth Adran y Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth; “Mae ymchwil yr ydym eisoes wedi ei wneud yn dangos bod dioddefwyr cam-drin yr henoed eisiau dau beth. Yn gyntaf, maent eisiau i’r cam-drin ddod i ben. Yn ail, maent eisiau cyfiawnder. Mae ystyr cyfiawnder yn aml yn ansicr. Nid yw o reidrwydd yn golygu achos troseddol. Mae angen opsiynau cyfiawnder eraill sy'n sicrhau bod y cam-drin yn dod i ben ac yn rhoi i’r person hŷn yr ymdeimlad o gyfiawnder. Bydd y prosiect yn datblygu opsiynau amgen o gyfiawnder drwy weithio gyda phobl hŷn sydd yn dioddef cam-drin.”

Dywedodd Sarah Wydall, Darlithydd mewn Troseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth; “Mae'r prosiect hwn yn mynd i'r afael â methiant y gweithdrefnau presennol i sicrhau cyfiawnder i’r dioddefwyr a rhoi sicrwydd iddynt na fydd y cam-drin yn parhau. Mae hwn yn ddull hynod flaengar, yn arbennig gyfranogiad y dioddefwyr ac integreiddio ymchwil ac arfer. Er y bydd wedi ei leoli yng Nghymru, bydd canfyddiadau'r prosiect o arwyddocâd rhyngwladol.”

Mae hwn yn brosiect pedair blynedd ac mae wedi derbyn cefnogaeth elusennau cenedlaethol, awdurdodau lleol a Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru.

AU20115