£2.4 miliwn ar gyfer ymchwil i doddi llen iâ
Wyneb tywyll yr iâ ger ymyl ddeheuol Llen Iâ’r Ynys Las
09 Mehefin 2015
Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn rhan o astudiaeth fawr newydd i’r ffactorau sy'n dylanwadu ar y modd mae Llen Iâ'r Ynys Las yn toddi.
Bydd Dr Tristram Irvine-Fynn o Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth yn cydweithio gydag ymchwilwyr ym mhrifysgolion Bryste, Leeds a Sheffield ar yr astudiaeth sydd wedi derbyn £2.4 miliwn gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol y Deyrnas Gyfunol (NERC).
Nid yw cynhesu byd-eang yn ar ei ben ei hun yn ddigon i gyfrif am y toddi cynyddol gyflym sy’n digwydd i len iâ’r Ynys Las. Mae ffactorau eraill yn achosi i wyneb y llen iâ i dywyllu, a chanlyniad hyn yw ei bod yn toddi yn gyflymach. Bydd y prosiect yn ymchwilio i sut mae microbau’n ffynnu ar eira sy’n toddi ac arwynebeddau iâ, ac yn tywyllu wyneb y llen rew o ganlyniad.
Mae bywyd yn bodoli lle bynnag y ceir dŵr hylifol ar wyneb y Ddaear, ac nid yw arwynebau llen iâ yn eithriad. Mae un diferyn o iâ wedi toddi yn cynnwys hyd at 10,000 o ficrobau. Dim ond yn ddiweddar y dangosodd microbiolegwyr bod y micro-organebau hyn yn medru tyfu a lluosi neu 'flodeuo' ar iâ sy’n toddi.
Dywedodd yr Athro Martyn Tranter, arweinydd y prosiect a Phrif Ymchwilydd tîm Bryste: “Ein nod yw deal beth sy’n rheoli twf a ffyniant y micro-organebau.”
Mae llawer o’r organebau bychain iawn hyn ar ia rhewlifoedd yn cynnwys cloroffyl gwyrdd, megis mewn planhigion, er mwyn dal golau'r haul a thyfu, tra bod rhai yn datblygu bloc-haul tywyll ei liw i’w diogelu rhag difrod gan haul ffyrnig 24 awr y dydd yr haf Arctig. Pan fydd y microbau hyn yn blodeuo yn ystod yr haf, gallant droi wyneb gwyn a glas golau'r llen iâ yn wyrdd-borffor neu’n ddu. Mae'r newid hwn mewn lliw yn achosi i wyneb y llen iâ i gynhesu a thoddi lawer yn gynt.
Gyda’i arbenigedd mewn “tywyllu biolegol” rhewlifoedd yr Arctig, bydd Dr Irvine-Fynn yn rhan o'r gwaith o fonitro newidiadau yn y nifer o ficrobau ar wyneb yr iâ yn ogystal ag amrywiadau mewn lliw, strwythur a thopograffeg yr iâ drwy gydol tymor toddi’r haf.
Dywedodd Dr Irvine-Fynn: “Mae newidiadau biolegol a ffisegol ar wyneb y rhew yn effeithio ar y modd y mae’n adlewyrchu golau, neu 'albedo', sydd bellach yn cael ei gydnabod fel ffactor allweddol mewn graddfa doddi Llen Iâ’r Ynys Las, o dan unrhyw hinsawdd yn y dyfodol. Mae deall y newidiadau hyn yn hollbwysig oherwydd eu heffaith ar gynhyrchu dŵr tawdd, sy'n cyfrannu at y cynnydd yn lefel y môr a ragwelir dros y degawdau nesaf.”
Dros y pum mlynedd nesaf, bydd y gwyddonwyr yn astudio'r microbau hyn ac yn gwerthuso sut mae eu dosbarthiad a’u tyfiant yn cyfuno â ffactorau eraill i dywyllu wyneb yr iâ a chynyddu graddfa doddi Llen Iâ’r Ynys Las.
Mae'r prosiect yn cynnwys tîm o wyddonwyr rhyngwladol o Ddenmarc, yr Iseldiroedd, yr Unol Daleithiau, Ffrainc, Gwlad Belg, Canada, y Weriniaeth Tsiec a Siapan.
Bydd Dr Irvine-Fynn yn gweithio ochr yn ochr ag ymchwilwyr o Brifysgol Sheffield, Labordy ‘Jet Propulsion’ NASA, KU Leuven Gwlad Belg, Prifysgol Dechnegol Denmarc ac Arolwg Daearegol Denmarc (GEUS) i ddatblygu modelau cyfrifiadurol newid sy’n efelychu’r ffordd y mae iâ yn adlewyrchu golau.
Mae'r gwaith yn adeiladu ar ganfyddiadau gwaith maes a wnaed eisoes ar Len Iâ'r Ynys Las gan bartneriaid yn GEUS fel rhan o Prosiect Dark Snowhttp://darksnow.org/.
Yn y pen draw bydd data o'r prosiect yn cael ei fwydo i mewn i fodel cyfrifiadurol sy’n efelychu toddi ar gyfer y llen iâ gyfan, a bydd hyn yn gymorth i wella rhagolygon o newidiadau tymor hir yng nghyfaint Llen Iâ’r Ynys Las a chynnydd posibl yn lefel y môr yn y dyfodol.
AU17515