Y radd gyntaf erioed yn y DU mewn Biowyddor Ceffylau a Milfeddygol yn Aberystwyth

14 Mai 2015

Mae’r radd gyntaf erioed yn y DG mewn Biowyddor Ceffylau a Milfeddygol newydd gael ei dilysu ym Mhrifysgol Aberystwyth, a bydd yn cofrestru ei myfyrwyr cyntaf ym mis Medi 2015.

Bydd y radd BSc dair blynedd newydd hon, a gyflwynir yn Athrofa Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig y Brifysgol (IBERS), yn edrych yn fanwl ar wyddor y ceffyl mewn modd fydd yn cyflwyno damcaniaeth wyddonol sylfaenol a meddygaeth filfeddygol yr anifail i fyfyrwyr.

Mae hyn yn cynnwys y modd y caiff y ceffyl ei fridio i sicrhau nodweddion uwchraddol, ei faeth, ei les a gofal ar gyfer sicrhau’r perfformiad gorau a’r modd y caiff ei reoli mewn perthynas ag atgenhedlu, ffisioleg ymarfer, ymddygiad a llesiant.

Nid yw’n darparu hyfforddiant cydnabyddedig i’r rheini sy’n dymuno ymarfer fel llawfeddygon milfeddygol, ond bydd yn sicrhau sylfaen gref i raddedigion ac yn eu paratoi ar gyfer amrywiaeth eang o gyfleoedd cyflogaeth ym meysydd gwyddor, lles, ymchwil a datblygiad anifeiliaid, cymorth ymgynghorol a thechnegol, rheoli menter ac addysg, iechyd anifeiliaid, goruchwylio milfeddygol a busnes milfeddygol yn y DG a thramor.

Bydd y cynllun gradd newydd yn adeiladu ar y ddarpariaeth bresennol mewn Gwyddor Ceffylau, Astudiaethau Ceffylau, Gwyddor Anifeiliaid ac Ymddygiad Anifeiliaid, gan dynnu ar rai modiwlau cyffredin o’r cynlluniau eraill hyn, ond bydd gan y cynllun hefyd ei fodiwlau craidd ei hun i’w wneud yn wahanol ac yn unigryw.

Caiff yr addysgu milfeddygol arbenigol ei daenu dros y tair blynedd gydag astudiaethau’n dwysau wrth fynd ymlaen, ac mae’n cynnwys modiwlau sy’n cwmpasu diagnosis a rheoli clefydau, egwyddorion gwyddor filfeddygol, ffarmacoleg a thocsicoleg filfeddygol, clefydau milfeddygol heintus (gan gynnwys parasitoleg) ac epidemioleg iechyd.

Meddai Tony O'Regan, Cydlynydd Cynllun Gradd Biowyddor Ceffylau a Milfeddygol:

“Prifysgol Aberystwyth yw un o’r darparwyr rhaglenni ceffylau AU hynaf yn y DG ac rydym wrth ein bodd yn cynnig yr ychwanegiad arloesol hwn i’n portffolio graddau. Er nad yw wedi’i marchnata’n gryf eto, mae nifer o ymgeiswyr uchel eu safon gennym ni eisoes ac rydym  ni’n hyderus y byddwn yn denu myfyrwyr talentog o bedwar ban gyd, gan atgyfnerthu safle Aberystwyth fel prif ddarparwr rhaglenni Gwyddor Ceffylau yn y DG”