Myfyrwyr rhyngwladol yn codi arian ar gyfer dioddefwyr daeargryn Nepal
Chwith i’r Dde: Y myfyrwyr rhyngwladol Anna Gautam, sydd o brifddinas Nepal Kathmandu, a Katharina Hopp o’r Almaen.
30 Ebrill 2015
Mae myfyrwraig ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi mynd ati i godi arian i gefnogi gwaith ailadeiladu yn Nepal, yn dilyn daeargryn trychinebus yr wythnos ddiwethaf.
Mae’r myfyrwyr blwyddyn olaf Anna Sharad Gautam, sydd o brifddinas Nepal Kathmandu, a Katharina Hopp o Oldenburg, ger Bremen yng ngogledd yr Almaen, yn astudio Gwleidyddiaeth Ryngwladol a'r Trydydd Byd yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol.
Yn rhinwedd eu swyddi fel Is-Lywydd a Llywydd Cymdeithas Myfyrwyr Rhyngwladol Aberystwyth, mae Anna a Katharina maent wedi trefnu barbeciw traeth ar nos Iau 30 Ebrill, arwerthiant cacennau ar gampws Penglais y Brifysgol ar ddydd Gwener 1 Mai, a noson ffilm yn Nhafarn y Cwps ar ddydd Llun 4 o Fai.
Bydd yr holl arian a godir gan Gronfa Ryngwladol Argyfwng Nepal Aberystwyth yn mynd tuag at Apêl Daeargryn Nepal y Groes Goch Brydeinig.
Yn union ar ôl y daeargryn, bu rhaid i rieni a chwaer Anna, sy’n byw yn Kathmandu, dreulio’r dyddiau cyntaf mewn lloches dros dro ac yn gwersylla yng ngardd eu cartref, gan eu bod yn poeni am ddifrod yn sgil ôl-gryniadau.
Wrth siarad am fod mor bell o gartref ar adeg mor anodd, dywedodd Anna: “Roeddwn i'n teimlo'n ddiymadferth wedi i’r newyddion am y daeargryn gyrraedd, ni allwn wneud mwy na gwylio'r newyddion. Nid oedd yn bosibl cysylltu gyda fy nheulu am y ddau ddiwrnod cyntaf, ond nawr rwy’n gwybod eu bod yn saff a gallaf siarad gyda nhw drwy’r rhyngrwyd.”
"Mae Nepal yn un o'r 20 o wledydd tlotaf y byd. O’r boblogaeth o 27 miliwn, mae 8 miliwn wedi eu heffeithio gan y daeargryn, ac mae 1.4m angen cymorth brys. Mae perygl hefyd o epidemig ac mae disgwyl galw’r monsŵn yn fuan.”
"Fy mwriad yw meddwl y tu hwnt i'r hyn sy’n digwydd nawr, a chodi arian i adeiladu gwell cartrefi, yn enwedig yn y pentrefi y tu allan i Kathmandu. Yr adeiladau hŷn yn Kathmandu a'r pentrefi cyfagos sydd wedi cwympo, tai sydd yn aml wedi eu hadeiladu o fwd.”
Mae’r Athro John Grattan, Dirprwy Is-Ganghellor dros Brofiad Myfyrwyr a Rhyngwladol wedi croesawu menter Anna a Katharina. Dywedodd: "Mae canlyniadau’r daeargryn diweddar yn Nepal yn wirioneddol drychinebus, felly mae'n galonogol iawn bod myfyrwyr y drydedd flwyddyn, Anna Gautum a Katharina Hopp, ynghyd â dau aelod arall o bwyllgor Cymdeithas Myfyrwyr Rhyngwladol Sophie Finnen a Kilian Weber, yn trefnu tri digwyddiad codi arian ar gyfer dioddefwyr daeargryn Nepal."
Bydd Anna a Katharina teithio i Kathmandu ar ddechrau mis Mehefin i ddechrau interniaeth dri mis gyda Saathi, sefydliad sy'n ymroddedig i fynd i'r afael â thrais yn y cartref yn erbyn menywod.
Bwriad Anna yw dychwelyd i Ewrop ar ddiwedd yr haf i astudio ar gyfer gradd Meistr mewn Astudiaethau Datblygu yn Genefa, a bydd Katharina yn astudio ar gyfer gradd Meistr mewn Astudiaethau Datblygu ym Mhrifysgol Lund, Sweden.
Mae rhagor o wybodaeth am waith Cymdeithas Myfyrwyr Rhyngwladol Prifysgol Aberystwyth ar gael yma.
Gellir cyfrannu at Gronfa Ryngwladol Argyfwng Nepal Aberystwyth yma. Bydd yr apêl yn parhau ar agor tan ddydd Llun 25 o Fai.
Mae rhagor o wybodaeth am yr Apêl Daeargryn Nepal y Groes Goch Brydeinig ar gael yma.
AU15815