Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr 2015
24 Ebrill 2015
Heno, nos Wener 24 Ebrill, cynhelir Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr blynyddol Prifysgol Aberystwyth.
Eleni derbyniwyd y nifer uchaf o enwebiadau erioed, gyda chyfanswm o 1,113 yn cael eu derbyn gan y trefnwyr.
Bydd un ar ddeg enillydd yn cael eu cyflwyno ar y noson, gydag unigolion sy’n derbyn canmoliaeth uchel hefyd ymhob categori.
• Gwobr Addysgu Neilltuol;
• Cyfraniad Eithriadol i Fywyd y Brifysgol;
• Staff Cymorth y Flwyddyn;
• Gwobr am Ragoriaeth mewn Addysg Cyfrwng Cymraeg;
• Gwobr Athro Ôl-raddedig;
• Aelod Staff Newydd y Flwyddyn;
• Tiwtor Personol y Flwyddyn;
• Goruchwyliwr y Flwyddyn;
• Cynrychiolydd Myfyriwr y Flwyddyn;
• Adran y Flwyddyn.
Bydd y canlyniadau yn cael eu trydar yn fyw heno o'r seremoni yn Medrus gan @Prifysgol_Aber. #SLTAs