Tîmoedd o Aberystwyth yn cystadlu yn Her Seiber 9/12 i Fyfyrwyr yn Genefa
Aelodau o’r timoedd o Brifysgol Aberystwyth sydd yn cymryd rhan yn Her Seiber 9/12 i Fyfyrwyr yn Genefa yr wythnos hon, gyda Dr Madeline Carr o’r Adran Gwleidyddiaeth Rhyngwladol.
23 Ebrill 2015
Mae dau dîm o fyfyrwyr Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi teithio i Genefa'r wythnos hon, i gystadlu yn Her Seiber 9/12 i Fyfyrwyr.
Mae'r tîm Meistr ôl-raddedig yn cynnwys Grant Alger, Maihanna Murphy, Ian Goertz ac Andrew Gilbert.
Yn y tîm israddedigion y mae Alain Bouwman, Chris Dennett, Nickolas Bruetsch a Sam Smales.
Cynhelir Her Seiber 9/12 i Fyfyrwyr gan Gyngor yr Iwerydd a Chanolfan Polisi Diogelwch Genefa.
Y gystadleuaeth yw'r gêm argyfwng polisi seiber gyntaf i’w chynnal yn Ewrop.
Digwyddiad argyfwng ffug yw gêm argyfwng, sy’n profi myfyrwyr ar sut y byddent yn ymateb i ddigwyddiadau pe baent yn digwydd mewn gwirionedd.
Mae'r timau'n cystadlu dros ddau ddiwrnod, dydd Mercher 22 a dydd Iau 23 Ebrill, wrth i’r argyfwng ddwysáu.
Cynlluniwyd Her Seiber 9/12 i Fyfyrwyr er mwyn cynnig gwell dealltwriaeth o’r heriau polisi sy'n gysylltiedig â gwrthdaro seiber i fyfyrwyr.
Bydd timau yn cael eu barnu ar ansawdd eu hymatebion polisi, prosesau penderfynu a’u cyflwyniad llafar i banel o feirniaid.
Ymhlith y beirniaid mae Pennaeth Seiber-ddiogelwch Undeb Telathrebu’r Cenhedloedd Unedig, Ysgrifennydd Cyffredinol Cynorthwyol ar gyfer Egin Heriau Diogelwch (NATO) a Phennaeth Cymunedol Llywodraeth TGCh Fforwm Economaidd y Byd.
Tra’n Genefa, bydd y ddau dîm yn cael cyfle i wrando ar anerchiad gan Lywydd Estonia, Toomas Ilves. Mae gan Estonia brofiad uniongyrchol o ymosodiad seiber ar raddfa fawr.
Dywedodd y darlithydd Gwleidyddiaeth Ryngwladol, Dr Madeline Carr: “Mae hwn yn gyfle gwych i'n myfyrwyr Gwleidyddiaeth Seiber i brofi eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth yn erbyn cystadleuwyr o bob cwr o’r byd. Ond mae hefyd yn gyfle anhygoel i wneud ffrindiau sy’n debygol iawn o fod yn gweithio mewn sector debyg, ac i rwydweithio gyda rhai o bobl fwyaf dylanwadol yn y byd ym mholisi Diogelwch Seiber.”