Hystings Etholiad Cyffredinol 2015

chwith i'r dde: Gethin James (UKIP), Mark Williams (Democratiaid Rhyddfrydol), Sara Gibson (Cadeirydd), Huw Thomas (Llafur), Daniel Thompson (Plaid Werdd) a Mike Parker (Plaid Cymru).

chwith i'r dde: Gethin James (UKIP), Mark Williams (Democratiaid Rhyddfrydol), Sara Gibson (Cadeirydd), Huw Thomas (Llafur), Daniel Thompson (Plaid Werdd) a Mike Parker (Plaid Cymru).

17 Ebrill 2015

Bu ymgeiswyr Etholiad Cyffredinol Ceredigion yn trafod polisïau ac ateb cwestiynau o flaen cynulleidfa lawn mewn sesiwn hystings a gynhaliwyd gan Brifysgol Aberystwyth ar nos Iau (16 Ebrill, 2015).

Wedi’i threfnu gan Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru y Brifysgol, a’r Sefydliad Materion Cymreig, a’i chadeirio gan Sara Gibson, BBC Cymru Wales, daeth pump o'r ymgeiswyr gobeithiol ynghyd ym Mhrif Neuadd yr adeilad Gwleidyddiaeth Rhyngwladol ar Gampws Penglais. Nid oedd ymgeisydd y Blaid Geidwadol, Henrietta Hensher yn bresennol oherwydd materion personol.

Yn dilyn cyfle i glywed addewidion etholiadol pob ymgeisydd, cafodd aelodau o'r gynulleidfa y cyfle i holi pob cynrychiolydd plaid ar faterion a oedd yn amrywio o gynaliadwyedd a'r amgylchedd i'r economi leol.