‘The Politics of Spirit: Bringing the Arts to bear on the world at large’

Damian Gorman

Damian Gorman

14 Ebrill 2015

Cynhelir yr ail ddarlith gyhoeddus flynyddol ar gyfer yr Athrofa Llenyddiaeth, Ieithoedd a Chelfyddydau Creadigol (ILLCA) gan Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn Theatr y Werin ar ddydd Llun 20 Ebrill, 2015 am 7.00pm.

Cyflwynir ‘The Politics of Spirit: Bringing the Arts to bear on the world at large’ gan y bardd  a’r dramodydd o Ogledd Iwerddon Damian Gorman sydd wedi cael ei ddisgrifio fel “cyfrinach orau Iwerddon”.

Mae gwaith Damian Gorman wedi ennill nifer o wobrau dros y 25 mlynedd diwethaf, o Wobr Gwell Iwerddon i MBE; o Delyn Aur i BAFTA. Cafodd  ei raglen ddogfen farddonol ar gyfer BBC 2 Devices of Detachment -yn archwilio rôl y rheiny nad oedd yn ymladd yn y Trafferthion - ei chanmol yn y wasg genedlaethol fel “campwaith teledu”, ac mae ei gyfres ddiweddar arloesol o gerddi ar-lein Considerations wedi ei disgrifio gan Neil Astley fel  gwaith  “pwerus, trugarog, teimladwy – yr hyn oll y dylai barddoniaeth fideo ei fod.”

Mewn byd sy’n gofyn gormod yn aml, o naratifau yn brwydro yn erbyn ei gilydd, ni ellir cymryd yn ganiataol bod celfyddyd greadigol yn bwysig. Gall ymddangos yn rhy simsan, goddefgar a mewnblyg. Ond a yw'n wir, neu fwy-gwir-na-pheidio? A oes gan y celfyddydau lawer i'w gynnig yn y byd yn gyffredinol?

Mae’r awdur Damian Gorman wedi cymryd y syniadau hyn ac yn eu profi yn ei waith, yn enwedig yn ei gartref yng Ngogledd Iwerddon ac mewn ardaloedd arall o wrthdaro. Yn y sgwrs hon bydd yn archwilio celf fel rhywbeth i unioni’r cam, yn enwedig mewn ardaloedd lle mae ei waith yn addas ar ei gyfer.

Meddai Sarah Prescott, Cyfarwyddwr ILLCA, “Rwyf wrth fy modd bod Damian Gorman wedi cytuno i draddodi ail ddarlith flynyddol ILLCA, ac ar bwnc holl bwysig i bawb sy’n ymwneud â llenyddiaeth a’r celfyddydau creadigol. Eisoes mae Damian wedi bod yn gweithio gyda myfyrwyr ar draws yr Athrofa ac mae’n arwain cynllun cymunedol ar y cyd ILLCA/Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, ‘Diwrnod yn Aberystwyth’.

Mae'r digwyddiad hwn yn agored i bawb ac yn rhad ac am ddim. Does dim angen cadw lle o flaen llaw.

Athrofa Llenyddiaeth, Ieithoedd a'r Celfyddydau Creadigol (ILLCA)

Sefydlwyd Athrofa Llenyddiaeth, Ieithoedd a'r Celfyddydau Creadigol (ILLCA) yn 2014, gan gyfuno adrannau academaidd a chanolfannau o ragoriaeth ddiwylliannol. Mae proffil ymchwil a dysgu ILLCA i'w gael mewn pum adran wahanol ond cysylltiedig: yr Ysgol Gelf, Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol, Ieithoedd Ewropeaidd, Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, Astudiaethau Cymraeg a Cheltaidd.  Mae ILLCA hefyd yn gartref i Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth a Chanolfan Gerdd y Brifysgol.

Mae ILLCA hefyd wedi adeiladu ar ymdrechion ysgolheigaidd cydweithredol ei hadrannau academaidd a'i sefyllfa unigryw drwy sefydlu dwy ganolfan ymchwil rhyngwladol: y Ganolfan Gyfieithu a Chanolfan Diwylliannau Lleoedd.

Mae natur unigryw ILLCA yn deillio o'r synergedd unigryw rhwng rhagoriaeth ymchwil, dysgu a arweinir gan ymchwil ac ymarfer creadigol sy'n arwain y byd. Trwy bartneriaeth waith agos â Chanolfan y Celfyddydau a chydweithredu â phartneriaid eraill yn y diwydiant, mae adrannau ILLCA mewn sefyllfa unigryw sydd yn ei rhoi hi ymhlith y gorau ym Mhrydain o ran cysylltiadau â byd diwydiant a chyflogadwyedd ei graddedigion.

AU11515