Comisiynydd y Gymraeg: rheoleiddio, rhyddid a risg
Yr Athro Diarmait Mac Giolla Chríost
10 Ebrill 2015
Mae Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth yn falch o gyhoeddi y bydd yr Athro Diarmait Mac Giolla Chríost, o Brifysgol Caerdydd yn cyflwyno'i seminar gyhoeddus nesaf ar ddydd Mawrth 21 Ebrill 2015.
Bydd y ddarlith, ‘Comisiynydd y Gymraeg: rheoleiddio, rhyddid a risg’, yn dadansoddi gwaith y Comisiynydd a chaiff ei chynnal am 6 o’r gloch yr hwyr yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol.
Mae'r Athro Mac Giolla Chríost yn aelod o Uned Ymchwil ar Iaith, Polisi a Chynllunio yn Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd. Mae’n frodor o Iwerddon ac yn awdurdod ar leiafrifoedd ieithyddol a chynllunio ieithyddol. Mae ei ddiddordebau ymchwil eraill yn cwmpasu nifer o feysydd, gan gynnwys natur y berthynas rhwng iaith a gwrthdaro, o bersbectif cymharol, Ewropeaidd, ac, yn ogystal, iaith yng nghyd-destun y ddinas, a hynny o bersbectif cymharol a rhyngwladol.
Mae ganddo nifer o gyhoeddiadau ym meysydd y Gwyddorau Cymdeithasol, Daearyddiaeth a Chymdeithaseg Iaith. Mae'n Gymrawd o’r Gymdeithas Ddaearyddiaeth Frenhinol ac yn Gymrawd o'r Gymdeithas Hanesyddol Frenhinol.
AU11615