Safon Oesol: Printiau Stanley Anderson RA

Chwith i’r Dde: Yr Athro Robert Meyrick, yr Athro April McMahon a Dr Harry Heuser yn ystod dangosiad preifat o’r arddangosfa yn Academi Frenhinol y Celfyddydau.

Chwith i’r Dde: Yr Athro Robert Meyrick, yr Athro April McMahon a Dr Harry Heuser yn ystod dangosiad preifat o’r arddangosfa yn Academi Frenhinol y Celfyddydau.

09 Ebrill 2015

Y gwanwyn hwn mae Academi Frenhinol y Celfyddydau yn Llundain yn cyflwyno arddangosfa o brintiau gan Stanley Anderson RA (1884-1966) sydd wedi ei churadu gan yr Athro Robert Meyrick a Dr Harry Heuser o Ysgol Gelf, Prifysgol Aberystwyth. Mae'n un o gyfres o arddangosfeydd a chatalogau raisonné sy’n dathlu gwaith gwneuthurwyr printiau’r Academi Frenhinol.

Ac i gyd-fynd gyda lansio’r arddangosfa, cyhoeddodd yr Academi Frenhinol gatalog raisonné sy’n cynnwys darluniau llawn a nodiadau. Awduron y gyfrol yw Robert Meyrick a Harry Heuser, ac mae'n darparu asesiad manwl o holl weithiau Anderson.

Heddiw, mae Stanley Anderson yn fwyaf adnabyddus am ei gyfres o ysgythriadau sy’n coffau crefftau, galwedigaethau ac arferion ffermio ym Mhrydain. Mae'r portreadau, a luniwyd gyda cheinder a sylw at fanylder o alwedigaethau traddodiadol, yn gofnod gweledol o fywyd a gwaith yng nghefn gwlad Prydain yng nghanol yr ugeinfed ganrif. Drwy eu cyflwyno ar y cyd gyda gwaith sychbwynt cynharach, llai adnabyddus o fywyd trefol, mae’n ffurfio delwedd gyfansawdd o fyd-olwg yr artist.  Roedd Anderson yn ddrwgdybus o ddatblygiad, a cheisiodd frwydro yn erbyn yr hyn a welai fel bygythiad moderniaeth a’i effaith ar yr ysbryd dynol; dieithrio o fyd natur, colli parch tuag at waith corfforol a diffyg ymdeimlad o gymdeithas. Mae ei waith yn cael ei nodweddu gan drylwyredd, ffraethineb a thosturi.

Roedd gwreiddiau gyrfa gwneud printiau Anderson yn ddwfn yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac wedi ei meithrin yn ystod prentisiaeth saith mlynedd fel ysgythrwr masnachol, y tarfwyd arni gan y Rhyfel Mawr. Roedd printiau James Abbott McNeill Whistler yn ddylanwad cynnar ar ei waith. Gwrthododd Anderson y syniad o gelfyddyd fel ffordd o hunanfynegiant ac roedd yn amheus o fynnu gwreiddioldeb. Yn hytrach, credai taw ‘swydd’ yr artist oedd gwneud cyfiawnder â'r pwnc drwy feistroli cyfrwng a thechneg. ‘Ni all neb ohonom gyrraedd perffeithrwydd’, dywedodd Anderson unwaith, ‘ond ni ddylai hynny ein rhwystro rhag gwneud ymdrech ddiffuant i wneud hynny a mwynhau'r antur yn fawr’. Aeth yr antur ag Anderson i farchnadoedd awyr agored prysur Billingsgate a Covent Garden yn Llundain, i safleoedd adeiladu trefol a golygfeydd o ddymchwel, i Baris ar drothwy’r Rhyfel Mawr ac i ddinasoedd canoloesol Ffrainc, Sbaen, yr Almaen a Tsiecoslofacia. Taith gwneuthurwr printiau oedd hon, wedi ei hysgogi gan ffydd mewn safon oesol.

Ceir gweithiau Anderson mewn casgliadau cyhoeddus ym Mhrydain ac Ewrop, yn ogystal ag Awstralia, Seland Newydd, yr Unol Daleithiau a Chanada. Cynrychiolodd Brydain yn Biennale Fenis yn 1938, cafodd ei ethol yn aelod o’r Academi Frenhinol ym 1941, a deng mlynedd yn ddiweddarach dyfarnwyd iddo’r CBE am ei wasanaeth i'r grefft o ysgythru.

Sgwrs amser cinio

Ar ddydd llun 27 Ebrill bydd Robert Meyrick yn cynnal sgwrs amser cinio yn yr Academi Frenhinol pan fydd yn ailasesu gwaith a gyrfa Stanley Anderson RA, gŵr sydd bellach wedi cael ei wthio i’r cyrion. Mae hyn yn dilyn sgyrsiau amdano, a theithiau o’r arddangosfa gan Robert Meyrick a Harry Heuser a gynhaliwyd ar 3 Mawrth a 7 Ebrill.

Mae'r arddangosfa yn rhedeg tan 24 Mai, 2015 https://www.royalacademy.org.uk/exhibition/stanley-anderson.