Llyfr newydd ar pam ein bod yn bwyta’r planhigion a wnawn

The Nature of Crops

The Nature of Crops

08 Ebrill 2015

Mae'r afocado yn newid rhyw dros nos, a thegeirianau yw moch brwnt y byd planhigion, ac er bod 20,000 o wahanol fathau o degeirian, dim ond un math yr ydym yn ei fwyta - y pod fanila!

Dyma rai o'r ffeithiau diddorol sy’n cael eu datgelu mewn llyfr newydd gan Yr Athro John Warren, The Nature of Crops – How we came to eat the plants we do i'w gyhoeddi gan CABI ar y 24ain o Ebrill.

Yr Athro Warren yw Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu Sefydliad y Gwyddorau Biolegol Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth a bu gynt yn gweithio fel bridiwr coco yn gweithio ar fanc siocled y byd ym Mhrifysgol India'r Gorllewin yn Trinidad. Mae ganddo ddiddordeb academaidd mewn bywyd rhywiol planhigion ac mae’n ymddiddori ym mhob peth bwytadwy.

Dywedodd yr Athro Warren: “Mae gwenith, reis, tatws a casafa i gyd yn gnydau a gafodd eu dofi amser maith yn ôl. Os am fyd gwell rydw i’n gryf o’r farn y dylem barhau i ddofi cnydau newydd fel yr ydym yn wneud yn IBERS. Tan yn ddiweddar nid oedd rhygwellt yn ddof – dros gyfnod o bron i ganrif mae bridwyr planhigion yn Aberystwyth wedi ei droi yn gnwd ac o bosibl i’r rhywogaeth planhigion mwyaf cyffredin ar y Ddaear.”

Mae'r llyfr yn edrych ar y rhesymau pam ein bod ond yn bwyta prin 1% o'r 40,000 o blanhigion sydd ar gael tra bod y potensial yn llawer mwy. Bywydau rhywiol eithaf diflas sydd i’r rhan fwyaf o'r cnydau yr ydym yn eu bwyta, ond gall hynny fod yn newyddion da iawn gan fod y rhain yn haws i’w meithrin a’i datblygu y tu allan i'w milltir sgwâr.”

Mae'r llyfr yn arwain y darllenydd ar daith trwy ein hanes gyda phlanhigion sy’n cael eu tyfu’n gnydau. Mae’r gyfrol yn dilyn themâu cyson mewn dofi planhigion, ac yn nodi hanes a bioleg dros 50 o gnydau, gan gynnwys grawnfwydydd, sbeisys, codlysiau, ffrwythau a chnydau arian parod fel siocled, tybaco a rwber.

Mae’r botanegydd Yr Athro John Warren yn amlinellu straeon y planhigion yr ydym yn eu bwyta ac mae’r llyfr yn llawn darluniau gwreiddiol o’i waith ef ei hun.

“Ar draws canrifoedd lawer rydym wedi dewis a dofi planhigion ar gyfer bwyd, yn aml pan eu bod yn wenwynig yn eu ffurf brodorol. Er enghraifft, mae cnau almon gwyllt yn cynnwys cyanid marwol, a dim ond trwy i’n hynafiaid brofi a methu y llwyddwyd i ddewis a meithrin almon nad yw yn wenwynig.

“Cyflwynir y llyfr i holl athrawon a bridwyr planhigion y byd, sydd rhyngddynt yn bwydo ein meddyliau â’n boliau. Mae'r ddau broffesiwn yn cael eu camddeall a heb eu gwerthfawrogi yn aml. Mewn gwirionedd maent yn cael eu cymell gan y dymuniad anhunanol i wneud y byd yn lle gwell.”

IBERS
Mae Athrofa y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) yn ganolfan ymchwil a dysgu a gydnabyddir yn rhyngwladol sydd yn darparu sylfaen unigryw ar gyfer ymchwil mewn ymateb i heriau byd-eang megis diogelwch bwyd, bio-ynni a chynaliadwyedd, ac effeithiau newid hinsawdd. Mae gwyddonwyr IBERS yn cynnal ymchwil sylfaenol, strategol a chymhwysol o enynnau a moleciwlau i organebau a'r amgylchedd.

Mae IBERS yn derbyn cyllid ymchwil strategol o £10.5m gan Gyngor Ymchwil y Gwyddorau Biotechnoleg a Biolegol (BBSRC) i gefnogi ymchwil a yrrir gan genhadaeth tymor hir, ac mae'n aelod o Sefydliad Cenedlaethol y Biowyddorau. Mae IBERS yn elwa hefyd o gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru, DEFRA a'r Undeb Ewropeaidd.

AU12615