Cyn-fyfyriwr yn ennill Gwobr Myfyriwr JIBS

John Taylor enillydd Gwobr Myfyriwr JIBS am ei brosiect rhagorol yn seiliedig ar ymchwil. Llun gan John Martin

John Taylor enillydd Gwobr Myfyriwr JIBS am ei brosiect rhagorol yn seiliedig ar ymchwil. Llun gan John Martin

02 Ebrill 2015

Yn ddiweddar, dyfarnwyd Gwobr Myfyriwr JIBS i’r cyn-fyfyriwr o Aberystwyth, John Taylor am ei brosiect rhagorol yn seiliedig ar ymchwil.

Yn gyn-fyfyriwr MSc Econ yn yr Adran Astudiaethau Gwybodaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth, enwebwyd traethawd hir John, sy’n dwyn y teitl,  "Arolwg o offer a thechnegau bibliometrig a'u defnydd o ragweld technoleg" ar gyfer y wobr flynyddol gan yr Adran.Disgrifiodd y panel beirniadu y gwaith fel traethawd "wedi'i ysgrifennu'n dda iawn, gydag amcanion clir a chyda adolygiad llenyddiaeth ardderchog. Roedd yn ffordd arloesol a diddorol o ddefnyddio bibliometreg mewn cyd-destun ymarferol."

Wrth sôn am ei lwyddiant, dywedodd yr Athro Andy Henley, Cyfarwyddwr yr Athrofa Rheolaeth y Gyfraith a Gwyddor Gwybodaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth,

"Rydym wrth ein bodd fod y wobr JIBS wedi mynd i John. Mae hi’n dipyn o gamp i ennill y wobr am y traethawd hir baglor neu meistr gorau ledled y Deyrnas Gyfunol ar gyfer gweithwyr gwybodaeth proffesiynol yn y sector addysg uwch. Mae'r wobr yn un haeddiannol am  gwaith caled a’r ymroddiad y dangosodd yn ystod ei astudiaethau a dymunwn y gorau iddo yn y dyfodol."

Mae JIBS yn cynrychioli defnyddwyr o gronfeydd data llyfryddiaethol a chynhyrchion cysylltiedig sydd ar gael i gymunedau’r Deyrnas Gyfunol, Addysg Uwch, Addysg Bellach a’r Cyngor Ymchwil drwy drwy drefniadau safle-drwydded genedlaethol.

Mae'r Adran Astudiaethau Gwybodaeth (DIS) ym Mhrifysgol Aberystwyth yn darparu ymchwil o'r radd flaenaf, addysg a hyfforddiant mewn astudiaethau gwybodaeth, archifau, llyfrgelloedd a threftadaeth - gan gynnwys dros 25 mlynedd yn cyflwyno rhaglenni dysgu o bell. Yn 2014, dathlodd yr Adran ei hanner canfed penblwydd yn darparu cyrsiau llawn amser ac mae ganddi alumni o gwmpas y byd.  Mae'n cynnig cymwysterau israddedig ac uwch-raddedig, yn ogystal ag ystod o Gyrsiau Byr ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus (DPP).

Gallwch ddarllen traethawd hir John yma, http://www.jibs.ac.uk/prize/taylorjohn2014.pdf