Llwyddiant Ymryson Cendlaethol i Aberystwyth

Enillwyr Jake Moses a Josh Lovell. Llun gan CJ Photography.

Enillwyr Jake Moses a Josh Lovell. Llun gan CJ Photography.

30 Mawrth 2015

Dyfarnwyd Cymdeithas Ymryson Prifysgol Aberystwyth yn enillwyr Cystadleuaeth Ymryson Cenedlaethol Cymru LexisNexis 2015.

Cynhaliwyd y gystadleuaeth dros benwythnos y 28 -29 Mawrth ym Mangor, gyda myfyrwyr o Ysgolion y Gyfraith yng Nghymru yn ymryson am y teitl mawreddog o bencampwyr cenedlaethol.

Yn cynrychioli Aberystwyth yn yr Ymryson roedd Jake Moses, myfyriwr o’r flwyddyn gyntaf, a Josh Lovell, myfyriwr o'r drydedd flwyddyn, yn Adran y Gyfraith a Throseddeg. Cymerodd Jake rôl yr Uwch Gwnsler, tra roedd Josh yn Gwnsler Iau ar gyfer y tîm.

Yn dilyn llwyddiant yn ystod y tair rownd gychwynnol o ymryson cystadleuol, roedd Prifysgol Aberystwyth yn wynebu tîm o'r Brifysgol Agored yn y rownd derfynol. Y pwnc ar gyfer yr ymryson oedd Cyfrifoldeb lleihaëdig a Gwallgofrwydd.

Beirniadwyd pob rownd o'r ymryson gan weithwyr proffesiynol cyfreithiol annibynnol, gyda'r Anrhydeddus Mr Ustus (Syr) Roderick Evans QC, cyn Farnwr Llywyddol ar gyfer Cymru yn llwyddu’r panel beirniadu ar gyfer y rownd derfynol.

Wrth sôn am eu llwyddiant, dywedodd Josh Lovell:

"Roedd yn ddigwyddiad gwych, ac ni fyddem wedi ennill heb gefnogaeth y Gymdeithas Ymryson. Mae'r Gymdeithas heb os, yn bluen yn het yr Adran."

Wrth longyfarch y tîm, dywedodd yr Athro John Williams, Pennaeth Adran y Gyfraith a Throseddeg:

"Rwy'n falch iawn o lwyddiant Adran y Gyfraith a’r Gymdeithas Ymryson Troseddeg yng nghystadleuaeth Ymryson LexisNexis Cymru. Dyma fuddugoliaeth arall yn yr hyn sydd wedi bod yn flwyddyn lwyddiannus iawn i'r holl fyfyrwyr sy'n ymwneud ag ymryson. Mae'r Adran yn hynod falch o'r Gymdeithas. Mae ei haelodau yn gweithio'n galed i hyrwyddo gwerth Ymryson i'r holl fyfyrwyr. Er enghraifft, eleni cyflwynodd y Gymdeithas gystadleuaeth ymryson i fyfyrwyr blwyddyn gyntaf - un myfyriwr ar bymtheg o’r flwyddyn gyntaf yn cymryd rhan ac yn mwynhau. Mae’r treialon ffug a drefnir gan y Gymdeithas yn ffefryn mawr ar ein diwrnodau ymweld adrannol. Mae’r Gymdeithas yn chwarae rhan bwysig ym mywyd yr Adran.

"Mae'n briodol bod y tlws LexisNexis yn canfod ei ffordd yn ôl i Aberystwyth. Fis nesaf byddwn yn agor ein Llys Ymryson newydd yn Adeilad Morgan Elystan. Heb os, bydd lle teilwng iawn i’r tlws. Dyma ysbrydoliaeth i genedlaethau o ymrysonwyr  y dyfodol. "

Mae Cymdeithas Ymryson Prifysgol Aberystwyth yn agored i bob myfyriwr o Adran y Gyfraith a Throseddeg. Mae'r gymdeithas yn rhoi cyfle i aelodau i ddatblygu eu sgiliau ymryson drwy gyfres o weithdai hyfforddi a chystadlaethau Ymryson.

Yn ogystal â chymryd rhan mewn cystadlaethau Ymryson ar draws y Deyrnas Gyfunol, mae Cymdeithas Ymryson Aberystwyth hefyd yn trefnu ei chystadleuaeth ymryson mewnol ei hun. Bydd y gystadleuaeth derfyno eleni yn cael ei chynnal ym mis Ebrill a’i beirniadu gan Syr David Lloyd Jones, Cadeirydd Comisiwn y Gyfraith a Barnwr y Llys Apêl.