Yr Athro Emeritws R Geraint Gruffydd
Yr Athro Emeritws R Geraint Gruffydd
26 Mawrth 2015
Mae teyrngedau wedi eu talu i’r Athro Emeritws R Geraint Gruffydd a fu farw ar ddydd Mawrth 24 Mawrth yn 86 oed.
Ymunodd yr Athro Gruffydd ag Adran y Gymraeg Prifysgol Aberystwyth yn 1970 yn dilyn ei benodiad i Gadair Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg. Yn 1974 cafodd ei benodi’n Ddeon y Celfyddydau yma yn Aberystwyth ac yna yn 1979 cafodd ei benodi’n Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Roedd yn raddedig o Brifysgol Bangor a Choleg yr Iesu Rhydychen. Wedi iddo raddio bu’n Olygydd Cynorthwyol gyda Geiriadur Prifysgol Cymru am ddwy flynedd ac yna’n Ddarlithydd yn Adran y Gymraeg Prifysgol Bangor, tan iddo ymuno â Phrifysgol Aberystwyth yn 1970.
Yn 1985 cafodd ei benodi’n Gyfarwyddwr Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd , a wedi hynny gwasanaethodd fel Is-Lywydd Prifysgol Aberystwyth am gyfnod. Cafodd ei benodi yn Athro Emeritws yma yn Aberystwyth yn 1993, a’i urddo’n Gymrawd gan y Brifysgol yn 2004.
Yn dilyn y newyddion am ei farwolaeth, dywedodd Dr Bleddyn Huws, Uwch Ddarlithydd yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Aberystwyth: “Mae’n amheus a oedd unrhyw gyfnod yn hanes llenyddiaeth Gymraeg nad oedd yr Athro Emeritws R. Geraint Gruffydd yn hyddysg ynddo. Er mai gweithiau awduron rhyddiaith oes Elisabeth I oedd pwnc ei draethawd ymchwil DPhil yn Rhydychen – ac ar sail hynny y datblygodd yn un o’n hawdurdodau pennaf ar lenyddiaeth cyfnod y Dadeni – cyfrannodd yn helaeth hefyd i faes barddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol. Roedd yn awdurdod ar ganu Beirdd y Tywysogion a gwaith Dafydd ap Gwilym a’r Cywyddwyr. Roedd yn ysgolhaig Cymraeg cyfanddysg. Rhagorai fel beirniad llenyddol am fod ei wybodaeth am lenyddiaeth ym mhob canrif mor eang a chyfoethog, ac am fod ei gyneddfau beirniadol mor braff. Roedd yn werth darllen ysgrifau beirniadol Geraint petai ond er mwyn gwerthfawrogi ei arddull goeth ac edmygu ei feistrolaeth ar yr iaith.
Fel Pennaeth Adran a gweinyddwr a chyfarwyddwr ymchwil, roedd yn hynod foneddigaidd a chymwynasgar, yn ŵr bonheddig ym mhopeth a wnâi. Mae amryw byd o ysgolheigion Cymraeg a Cheltaidd heddiw mewn sawl gwlad yn dra dyledus iddo am ei gyfarwyddyd a’i gefnogaeth a’i arweiniad diogel a hael ar hyd y blynyddoedd. Estynnwn ein cydymdeimlad dwysaf â’i weddw Luned, a’i blant Siân, Rhun a Phyrs a’u teuluoedd.”
AU11115