Dewch i weld clip yr haul ym Mhrifysgol Aberystwyth
Yr Hen Arsyllfa ger Longyearbyen, Svalbard, lle bydd gwyddonwyr o Aberystwyth yn astudio’r clip haul. Credit: Prifysgol Aberystwyth / Nathalia Alzate
18 Mawrth 2015
Mae gwahoddiad i aelodau’r cyhoedd ymuno â myfyrwyr a staff ym Mhrifysgol Aberystwyth i wylio clip yr haul fore dydd Gwener yma, yr 20fed o Fawrth.
Bydd cyfres o delesgopau wedi eu gosod yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth er mwyn gwilio’r clip a bydd gwyddonwyr a staff technegol o Grŵp Ffiseg y System Solar Adran Ffiseg y Brifysgol wrth law i sôn am yr haul a’u gwaith ymchwil.
Yn Aberystwyth bydd y lleuad yn cuddio 90% o’r haul. Bydd y clip yn dechrau am 8.24 y bore, yn cyrraedd ei uchafbwynt am 9.29 y bore ac wedi gorffen yn llwyr erbyn 10.38 y bore.
Bydd lluniau o’r clip hefyd yn cael eu dangos ar sgriniau yng Nghanolfan y Celfyddydau, rhag ofn iddi fod yn gymylog, a bydd Caffi Canolfan y Celfyddydau yn cynnig dêl brecwast arbennig.
Bydd aelodau staff hefyd wrth law i gynghori ar sut i wylio’r clip yn ddiogel.
Yn ôl Dr Huw Morgan, Ddarllenydd yng Ngrŵp Ffiseg System Solar ac gŵr sydd wedi gwylio pedwr clip llwyr o’r haul, rhaid cymryd gofal arbenning wrth wylio’r clip.
“Mae’n holl bwysig nad yw pobl yn edrych yn uniongyrchol tuag at yr haul gan y gall ymbelydredd Uwch Fioled yr haul losgi retina’r llygad gan achosi drwg parhaol neu ddallineb. Gall hyn ddigwydd hyd yn oed os yw rhywun yn edrych yn uniongyrchol ar yr haul am ychydig eiliadau yn unig.
“Gwnewch yn siwr eich bod yn defnyddio sbectol arbennig neu gogls weldiwr, neu gallwch wneud taflunydd twll pin, neu ymuno â ni yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth wrth gwrs, i wylio’r clip drwy delesgopau sydd wedi eu haddasu yn arbennig.”
Mae dau aelod o Grŵp Ffiseg y System Solar, Joe Hutton a Nathalia Alzate, wedi ymuno a thîm rhyngwladol o wyddonwyr o’r Unol Daleithiau, y Weriniaeth Tsiec a'r Almaen i astudio’r clip ar ynysoedd Svalbard, Norwy.
Byddant yn defnyddio hyd at 14 o gamerâu wedi eu haddasu'n arbennig i dynnu lluniau o’r haul ar amleddau gwahanol yn ystod clip yr haul er mwyn dal delweddau o olau sy’n cael ei ryddhau gan y plasma sydd yn nghorona’r haul.
Y ffordd orau o wylio’r corona yw yn ystod clip llwyr o’r haul. Bydd y lluniau yn cael eu defnyddio i fesur tymheredd y corona.
Mae’n hysbys taw 6000oC yw tymheredd yr haul. Fodd bynnag, mae tymheredd y corona lawer yn uwch, tua 1,000,000oC, gyda rhai mannau yn cyrraedd hyd at 2,000,000oC.
Bydd data a delweddau gaiff eu casglu yn ystod clip yr haul yn cael eu defnyddio i ddatblygu modelau mathemategol i geisio deall y gwahaniaeth hwn yn y tymheredd.
Bydd trydydd myfyriwr PhD o’r Grŵp Ffiseg y System Solar, Duraid Al-Shakarchi, ar fwrdd awyren arsyllu Llu Awyr Iwerddon a fydd yn hedfan ar hyd llwybr y clip llawn yng Ngogledd yr Iwerdydd. Bydd yn defnyddio system gryno dri chamera sydd wedi ei hadeiladu’n bwrpasol at y gwaith er mwyn tynnu lluniau drwy gromen dryloyw ar yr awyren.
Mae’r tîm ar Svalbard yn cael ei arwain gan yr Athro Shadia Habbal, Athro Ffiseg Solar ym Mhrifysgol Hawaii a chyn-Athro yn yr Adran Ffiseg ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Addaswyd hen arsyllfa ar Svalbard er mwyn cofnodi’r clip a bydd tri myfyriwr israddedig o Aberystwyth, sydd ar hyn o bryd yn treulio semester yng Nghanolfan y Brifysgol yn Svalbard (UNIS) fel rhan o'u gradd Ffiseg y Planedau a'r Gofod, yn ymuno gyda’r tîm yno.
Mae’r astudiaeth yn cael ei hariannu gan Sefydliad Gwyddoniaeth Cenedlaethol yr Unol Daleithiau, America a NASA.
AU8315