'Oes dyfodol i ddarlledu yng Nghymru?'

Adeilad Parry-Williams, lle cynhelir y drafodaeth

Adeilad Parry-Williams, lle cynhelir y drafodaeth

16 Mawrth 2015

Bydd y Gymdeithas Deledu Frenhinol, Y Sefydliad Materion Cymreig, ac Adran Theatr, Ffilm a Theledu, Prifysgol Aberystwyth yn cynnal trafodaeth ar y pwnc 'Oes dyfodol i ddarlledu yng Nghymru?' ar nos Fawrth 17 Mawrth.

Cynhelir y drafodaethyn stiwdio R. Gerallt Jones Studio, adeilad Parry-Williams, cartref Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu’r Brifysgol a bydd yn dechrau am 6 yr hwyr.

Gydag adnewyddu'r Siartr, a diwedd y cytundeb presennol rhwng y BBC ac S4C, yn 2017, a ddylwn ni ystyried trefniant ariannu ar wahan i Gymru, gydag Ymddiriedolaeth Gymreig i'r BBC?

Sut fath o gyfryngau gallwn ni ddisgwyl yn ein gwlad fach, a beth yw'n hopsiynau yn y byd digidol newydd?  Ydyn ni'n potsian ar ymylon hen system fethiannus ynteu dylwn ni ddechrau dadl go iawn ynghylch pob elfen o'n cyfryngau – teledu, ffilm, arlein, radio a'r wasg?

Sut mae'r berthynas newydd rhwng y BBC ac S4C yn gweithio?  Sut dyliwn ni ddefnyddio'r arian cyhoeddus, gan gynnwys Ffi'r Drwydded, cyfraniad y DCMS a Llywodraeth Cymru, er mwyn cefnogi plwraliaeth, amrywiaeth ddiwylliannol a chynaladwyaeth economaidd?

Dewch i gael dweud eich dweud mewn trafodaeth ford gron yng nghwmni Peter Edwards o gwmni cynhyrchu annibynnol Barefoot Rascals, Yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones o Brifysgol Aberystwyth, Dr Greg Bevan o Gymdeithas yr Iaith, Karl Davies o Ymddiriedolaeth y BBC, Huw Rossiter Rheolwr Cyfathrebiadau ITV Cymru, Siwan Hywel Swyddog Partneriaethau S4C, Tim Hartley a Hywel Wiliam o’r Gymdeithas Deledu Frenhinol a chynrychiolwyr eraill o’r sector yng Nghymru.

“Rydym yn falch iawn o gael cynnal y drafodaeth hon ar gyfeiriad priodol i bolisi’r dyfodol yn y maes hwn yng Nghymru, ac ar gyfer Cymru, ar drothwy etholiad” meddai’r Athro Elin H G Jones. “Mae yma faterion pwysig iawn i’w hystyried, sydd nid yn unig yn effeithio ar ddiwylliant ac economi, ond hefyd ar ein gwead cymdeithasol, ein llywodraethiant a’n democratiaeth.

Ceir mwy am y digwyddiad yma

AU10615