Myfyrwraig IBERS yn ennill gwobr genedlaethol am beirianneg ecolegol
Ally Evans yn gweithio ar Greigiau’r Coleg o flaen yr Hen Goleg, Prifysgol Aberystwyth
13 Mawrth 2015
Mae Ally Evans, myfyrwraig ôl-raddedig yn IBERS yn un o dri enillydd Gwobrau Cenedlaethol Myfyrwyr 2014 y P1 Marine Foundation. Mae'r Sefydliad yn anelu i ddiogelu ac adfer yr amgylchedd morol ac arfordirol drwy godi ymwybyddiaeth drwy addysg a phartneriaethau effeithiol.
Enillodd Ally Evans y Wobr am ei phrosiect arloesol 'ReefCrete: peirianneg ecolegol o gynefinoedd morol artiffisial'. Mae prosiect Ally yn canolbwyntio ar ddatblygu 'cynnyrch' peirianneg ecolegol, y gellir eu hymgorffori mewn datblygiadau morol newydd a phresennol, gan ddefnyddio deunydd concrid cynaliadwy amgen.
Lansiwyd Y Gwobrau gan P1 Marine Foundation yn 2012 i wobrwyo myfyrwyr mewn addysg uwch sydd yn cynhyrchu gwaith rhagorol a fydd yn helpu i ddiogelu a gwarchod yr amgylchedd morol.
“Roedd cais ôl-raddedig Ally yn ardderchog gyda ffocws dull amlddisgyblaethol ac ymarferol clir i'r prosiect”, Meddai Sabrina Taseer, rheolwr prosiectau a datblygu gyda P1 Marine Foundation.
Rydym wrth ein bodd bod ein Gwobrau Cenedlaethol Myfyrwyr yn rhoi amlygrwydd i brosiectau cyffrous a gwerthfawr o'r math hwn sy'n mynd y tu hwnt i ymchwil a dadansoddi er mwyn datblygu atebion i broblemau amgylcheddol.”
Cafodd prosiect arobryn Ally ei gydnabod gan y panel beirniaid am ei effaith gadarnhaol a chynaliadwy, ac am ddarparu ateb ymarferol i rai o'r bygythiadau sy'n wynebu ein harfordiroedd a'n moroedd.
Mae Ally yn cwblhau PhD gyda Dr Pippa Moore o fewn grŵp ymchwil Ecoleg Forol yn IBERS ar hyn o bryd, ac mae'n gweithio ar y prosiect hwn gyda Harry Dennis, a raddiodd yn ddiweddar gyda BSc mewn Bioleg Môr a Dŵr Croyw o IBERS.
Gyda'i gilydd, maent yn treialu cynnyrch 'peirianneg ecolegol' newydd y gellir eu hymgorffori mewn datblygiadau adeiladu morol (ee amddiffynfeydd môr, creigresi artiffisial) i'w gwneud yn gynefinoedd gwell ar gyfer bioamrywiaeth forol.
Dywedodd Ally: "Mae’r datblygiadau cynyddol ar hyd ein harfordiroedd ac yn y môr yn effeithio’n sylweddol ar yr amgylchedd morol.
Rydym yn gwybod nad yw cynefinoedd artiffisial yn cymryd lle’r cynefinoedd naturiol y maent yn eu disodli yn effeithiol, ond rydym hefyd yn gwybod fod modd eu gwella trwy gynnwys nodweddion adeiladu cynefinol ychwanegol ar gyfer bywyd morol. Ar hyn o bryd, mae llawer o waith ymchwil yn y maes hwn yn defnyddio concrid i wneud y gwelliannau hyn, sydd ag ôl troed carbon sylweddol.
Mae ReefCrete yn ddeunydd newydd sy’n cynnwys ffibrau naturiol a deunyddiau wedi'u hailgylchu, yr ydym yn treialu ar gyfer ei ddefnyddio yn yr amgylchedd morol. Nid yw’n defnyddio llawer o garbon, mae'n ailgylchu deunyddiau gwastraff megis cregyn malwod môr o ffatri bwyd môr Cei Newydd, ac mae ein canlyniadau cynnar yn awgrymu ei fod yn perfformio'n dda fel cynefin i fywyd mor.”
Mae'r prosiect yn dal ar ei gyfnod peilot, ac wedi derbyn cefnogaeth gan Ecocem Iwerddon, cynhyrchwyr sment arbenigol annibynnol a ddarparodd deunyddiau crai ar gyfer y treialon.
Bydd y wobr ariannol o £500 yn caniatau i Ally ddatblygu'r gwaith ymchwil dros y misoedd nesaf, pan mae'n gobeithio sefydlu cydweithrediadau ychwanegol gyda pheirianwyr a datblygwyr ar gyfer cam nesaf y broses.
Ar ennill y wobr, dywedodd: "Rydym wrth ein boddau o fod wedi'n cydnabod am y gwaith hwn, yn enwedig gan ei fod yn dal i fod mewn cyfnod datblygu cynnar. Mae wedi ein hargyhoeddi a rhoi i ni’r adnoddau i'w ddatblygu ymhellach, ac rydym yn gobeithio gwneud cais am gyllid grant mwy yn ddiweddarach eleni.”
Bydd y Gwobrau yn cael eu cyflwyno yn Llundain ym mis Mai, a bydd y seremoni yn gyfle i Ally arddangos ei phrosiect i gynulleidfa o academyddion, busnesau a chyrff anllywodraethol.
Panel Beirniaid
Cafodd ceisiadau gan fyfyrwyr o brifysgolion a cholegau ar hyd a lled y wlad eu barnu gan banel oedd yn cynnwys Kirsty Schneeberger MBE, ymgynghorydd yn y Swyddfa Ysgrifennydd Gweithredol yn UNFCCC, a Dr Trevor Dixon, arbenigwr ar Lygredd Morol ar Bwyllgor Ymgynghorol Deddf Amddiffyn y Môr. O Brifysgol Heriot Watt ddaeth y ddau enillydd arall.
IBERS
Mae Athrofa y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) yn ganolfan ymchwil a dysgu a gydnabyddir yn rhyngwladol sydd yn darparu sylfaen unigryw ar gyfer ymchwil mewn ymateb i heriau byd-eang megis diogelwch bwyd, bio-ynni a chynaliadwyedd, ac effeithiau newid hinsawdd. Mae gwyddonwyr IBERS yn cynnal ymchwil sylfaenol, strategol a chymhwysol o genynnau a moleciwlau i organebau a'r amgylchedd.
Mae IBERS yn derbyn cyllid ymchwil strategol o £10.5m gan Gyngor Ymchwil y Gwyddorau Biotechnoleg a Biolegol (BBSRC) i gefnogi ymchwil a yrrir gan genhadaeth tymor hir, ac mae'n aelod o Sefydliad Cenedlaethol y Biowyddorau. Mae IBERS yn elwa hefyd o gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru, DEFRA a'r Undeb Ewropeaidd.
AU10515