Gwyddonwyr o Aberystwyth i astudio clip yr haul yn Svalbard
Yr ymchwilwyr olraddedig Joseph Hutton a Nathalia Alzate a fydd yn teithio i Svalbard i astudio clip yr haul, a Dr Huw Morgan, Ddarllenydd yng Ngrŵp Ffiseg System Solar Prifysgol Aberystwyth.
11 Mawrth 2015
Bydd gwyddonwyr o Brifysgol Aberystwyth yn teithio i Svalbard, Norwy ddiwedd yr wythnos hon i astudio’r clip llwyr o’r haul a fydd yn digwydd ar ddydd Gwener 20 Mawrth.
Mae’r ymchwilwyr Joe Hutton a Nathalia Alzate yn aelodau o Grŵp Ffiseg System SolarAdran FfisegPrifysgol Aberystwyth.
Ar Svalbard byddant yn ymuno â thîm rhyngwladol o wyddonwyr o'r Unol Daleithiau, y Weriniaeth Tsiec a'r Almaen i astudio atmosffer yr haul, y corona.
Bydd y tîm, sy’n cael ei adnabod fel y Sherpas Gwynt Solar, yn defnyddio hyd at 14 o gamerâu wedi eu haddasu'n arbennig i dynnu lluniau o’r haul ar amleddau gwahanol yn ystod clip yr haul er mwyn dal delweddau o’r plasma sy’n cael ei alldaflu o gorona’r haul.
Dim ond yn ystod clip llawn o’r haul y mae’r plasma yn weladwy. Bydd y lluniau yn cael eu defnyddio i fesur tymheredd y corona.
Tymheredd yr haul yw 6000oC. Fodd bynnag, mae tymheredd y corona lawer yn uwch, tua 1,000,000oC, gyda rhai mannau yn cyrraedd hyd at 2,000,000oC.
Bydd data a delweddau gaiff eu casglu yn ystod clip yr haul yn cael eu defnyddio i ddatblygu modelau mathemategol i geisio deall y gwahaniaeth hwn yn y tymheredd.
Mae Dr Huw Morgan yn Ddarllenydd yng Ngrŵp Ffiseg System Solar Prifysgol Aberystwyth. Rhwng 2006 a 2010 teithiodd i Anialwch y Sahara, Anialwch Gobi, ac Ynysoedd Marshall a Tahiti yn y Môr Tawel i gymryd mesuriadau yn ystod clipiau llwyr o’r haul. Ef sy’n goruchwylio gwaith Aberystwyth ar y clip diweddaraf.
Dywedodd Dr Morgan: “Mae’r gwahaniaeth rhwng tymheredd yr haul a thymheredd corona’r haul yn un o ddirgelion mawr seryddiaeth. Mae clip llawn o’r haul yn gyfle unigryw i wneud mesuriadau manwl iawn o gorona’r haul a chasglu data a fydd yn ein galluogi i ddeall y gwahaniaeth hwn yn well.”
“Mae Prifysgol Aberystwyth yn rhan o grŵp blaenllaw o wyddonwyr o safon byd sy'n canolbwyntio ar astudio'r haul. Mae deall yr hyn sy'n digwydd yng nghorona’r haul yn hanfodol i ddiogelu systemau cyfathrebu lloeren gan bod stormydd solar sy’n deillio o alldafliadau màs coronog yn gallu amharu’n ddifrifol arnynt.”
Bydd y tîm ar Svalbard yn cael ei arwain gan yr Athro Shadia Habbal, Athro Ffiseg Solar ym Mhrifysgol Hawaii a chyn-Athro yn yr Adran Ffiseg ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Addaswyd hen arsyllfa ar Svalbard er mwyn cofnodi’r clip a bydd tri myfyriwr israddedig o Aberystwyth, sydd ar hyn o bryd yn treulio semester yng Nghanolfan y Brifysgol yn Svalbard (UNIS) fel rhan o'u gradd Ffiseg y Planedau a'r Gofod, yn ymuno â’r Sherpas Gwynt Solar.
Bydd Clip yr Haul 2015 yn 100% dros Begwn y Gogledd a bydd yn cyd-fynd â'r diwrnod pan ddaw'r haul i'r golwg ar ôl 6 mis o nos begynol, cyd-ddigwyddiad y credir iddo ddigwydd unwaith bob 400,000 i 500,000 o flynyddoedd yn unig.
Mae’r astudiaeth yn cael ei hariannu gan Sefydliad Gwyddoniaeth Cenedlaethol yr Unol Daleithiau, America a NASA.
AU8315