Agor enwebiadau ar gyfer Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr
![Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr](/cy/news/archive/2015/03/SLTA-Logo-(Medium)-web.jpg)
Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr
06 Mawrth 2015
Mae'r Gwobrau Dysgu Dan arweiniad Myfyrwyr yn ôl!
Mae hi’n amser o’r flwyddyn pan fydd myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth yn cael y cyfle i enwebu a chydnabod gwaith staff a myfyrwyr y Brifysgol.
Bellach yn eu pedwaredd flwyddyn, mae'r Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr (SLTAs) yn rhoi cyfle i fyfyrwyr enwebu aelodau staff a Chynrychiolwyr Myfyrwyr sydd wedi ymrwymo i ddarparu a gwella profiad y myfyrwyr.
Bydd y Gwobrau yn cael eu cyflwyno mewn seremoni fawreddog a gynhelir gan Undeb y Myfyrwyr ac a gefnogir gan y Brifysgol ar nos Wener 24ain Ebrill.
Mae dau gategori newydd eleni; 'Goruchwyliwr y Flwyddyn', ar gyfer tiwtoriaid traethawd hir rhagorol neu'r rhai sydd wedi rhoi cymorth ar brosiect blwyddyn olaf, a chategori 'Cyfraniad Eithriadol i Fywyd y Brifysgol', ar gyfer pobl sydd wedi mynd tu hwnt i’r gofyn er mwyn gwneud gwahaniaeth i fywyd Prifysgol.
Meddai Grace Burton, Swyddog Addysg Undeb Myfyrwyr Aberystwyth: “Rydym yn awyddus i glywed am yr holl ddarlithwyr a thiwtoriaid ysbrydoledig, staff an-academaidd gwych a chynrychiolwyr myfyrwyr rhagorol sydd o gwmpas y Brifysgol.
“Y llynedd, cawsom 400 o enwebiadau anhygoel ac rydym eisoes ar y trywydd iawn i guro hynny eleni.
“Mewn gwirionedd, mae'r noson wobrwyo yn un o'r digwyddiadau mwyaf cyffrous yng nghalendr y Brifysgol ac allai’m aros i gael llond lle o fyfyrwyr yn dathlu gyda ni.”
Ychwanegodd yr Athro John Grattan, Dirprwy Is-Ganghellor dros Brofiad Myfyrwyr a Rhyngwladol: "Mae hon yn fenter ragorol ar ran Undeb y Myfyrwyr. Mae Prifysgol Aberystwyth yn ymfalchïo yn ansawdd ei staff, a pha ffordd well o gydnabod hynny na rhoi cyfle i fyfyrwyr leisio eu barn ar pwy sy'n eu hysbrydoli ac sy’n gwneud eu profiad Prifysgol yn Aberystwyth mor arbennig.
“Mae hi hefyd yn braf i weld y gwobrau yn ehangu am y tro cyntaf i gydnabod y rheiny sy'n gwneud cyfraniad rhagorol i fywyd y Brifysgol, yn ogystal â chanmol y goruchwylwyr sy'n helpu myfyrwyr yn eu prosiectau blwyddyn olaf.”
Mae’r enwebiadau ar agor ar-lein yn y categorïau canlynol, tan yr 20fed o Fawrth, 2015.
- Gwobr Addysgu Rhagorol
- Cyfraniad Eithriadol i Fywyd y Brifysgol
- Staff Cymorth y Flwyddyn
- Gwobr am Ragoriaeth mewn Addysg Gymraeg
- Gwobr Athro Ôl-raddedig
- Aelod Staff Newydd y Flwyddyn
- Tiwtor Personol y Flwyddyn
- Goruchwyliwr y Flwyddyn
- Cynrychiolydd Myfyriwr y Flwyddyn
Adran y Flwyddyn
Gall enwebiadau gael eu cyflwyno ar-lein yma.
AU9315