Tyllu hen lynnoedd yn Affrica yn taflu goleuni newydd ar esblygiad dyn

Prosiect Tyllu Chew Bahir: Paratoi i dynnu rhan o’r craidd sydd ofewn y lawes fewnol o’r rod dyllu isaf © Verena Foerster, Prifysgol Potsdam

Prosiect Tyllu Chew Bahir: Paratoi i dynnu rhan o’r craidd sydd ofewn y lawes fewnol o’r rod dyllu isaf © Verena Foerster, Prifysgol Potsdam

26 Chwefror 2015

Sut y mae newidiadau hanesyddol yn yr hinsawdd wedi dylanwadu ar esblygiad a mudo dyn?

Dyma’r cwestiwn sydd wedi arwain ymchwilwyr o Brifysgol Aberystwyth i dyllu ddydd a nos, ac i ddyfnderoedd mawr, mewn llyn sydd wedi sychu yn nwyrain Affrica.

Bydd Prosiect Tyllu Bahir Chew, mewn rhan anghysbell o dde Ethiopia, yn darparu cofnod gwaddodol o newidiadau mewn glaw, tymheredd a llystyfiant sy'n ymestyn dros y 500,000 o flynyddoedd diweddaraf esblygiad dyn.

Mae Chew Bahir, un o gadwyn o fasnau llyn yn Nyffryn Hollt Mawr Affrica, yn agos at safleoedd canfod y ffosilau cynharaf o'n rhywogaethau, yr Homo sapiens dynol modern.

Wrth sôn am bwysigrwydd y prosiect, dywedodd yr Athro Henry Lamb o Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth: “Mae syniadau am sut y gallai newid yn yr hinsawdd fod wedi dylanwadu ar ymddangosiad a’r modd y gwasgarodd bodau dynol modern wedi parhau’n ddirgelwch i raddau helaeth. Byddwn nawr yn gallu cymharu data ffosilaidd ac archeolegol â chofnod manwl o amrywiadau yn yr hinsawdd. Bydd hyn yn ein galluogi i brofi’n fwy trylwyr y damcaniaethau hyn.”

Cwblhawyd y gwaith tyllu yn ddiweddar gan dîm rhyngwladol, a chyrhaeddwyd dyfnder terfynol o 278m, mewn dau dwll cyfagos.

Ar sail tyllu peilot blaenorol, dylai’r creiddiau hyn ddarparu cofnod gwaddodol o’r hanner miliwn o flynyddoedd diweddaraf, o leiaf. Bu rhaid dod â’r gwaith i ben ar ôl i 32 o rodenni tyllu gael eu torri a’u colli, gan gynnwys ebillion tyllu hanfodol.

Roedd yr amgylchiadau ar y fflatiau llaid y llyn hynafol yn llafurus. Bu rhaid i’r tîm o wyddonwyr a thyllwyr, o'r Almaen, Ethiopia, UDA a'r DG, ymgodymu â mosgitos, tryciau’n mynd yn sownd yn y mwd, gwres, glaw a stormydd llwch, ynghyd â'r holl anawsterau logistaidd o weithredu mewn amgylchedd anghysbell a heriol.

Mae'r creiddiau’n awr yn cael eu cofnodi yn LacCore, Canolfan Creiddiau Llynnol Genedlaethol yr Unol Daleithiau ym Mhrifysgol Minnesota.

Bydd y tîm yn ailymgynnull ym mis Ebrill i astudio'r creiddiau a dosbarthu samplau i'w dadansoddi gan arbenigwyr mewn labordai yn y Deyrnas Gyfunol a'r Almaen.

Y Tîm
Mae’r Athro Henry Lamb o Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth yn arwain tîm ymchwil cryf ar y prosiect sy’n cynnwys gwyddonwyr o brifysgolion Aberystwyth, Bangor, Lerpwl, Newcastle, Rhydychen a St Andrews, a’r Arolwg Daearegol Prydeinig.

Mae Prosiect Tyllu Chew Bahir yn rhan o gynllun Prosiect Tyllu Safleoedd Hominin a Phaleolynnoedd (HSPDP), ymdrech ymchwil ryngwladol sy’n canolbwyntio ar bum safle palaeoanthropologegol allweddol yn nwyrain Affrica. Ariannwyd y gwaith gan y Prosiect Tyllu Cyfandirol Rhyngwladol (ICDP), Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC), Cyngor Ymchwil yr Almaen (DFG), a’r Ymddiriedolaeth Wyddoniaeth Genedlaethol (NSF).

Y Prif Ymchwilwyr yw Henry Lamb (Aberystwyth), Frank Schäbitz (Cologne), Asfawossen Asrat (Addis Ababa), a Martin Trauth (Potsdam). Mae HSPDP yn cael ei arwain gan Andrew Cohen (Arizona).

AU5315