Penodi Cyfarwyddwr Cyllid newydd

Daniel Benham

Daniel Benham

20 Chwefror 2015

Penodwyd Daniel Benham, cyn Brif Swyddog Ariannol gyda Sefydliad y Fagloriaeth Ryngwladol, yn Gyfarwyddwr Cyllid i Brifysgol Aberystwyth.

Yn raddedig o Goleg Imperial Llundain lle’r astudiodd Microbioleg, ymunodd Daniel Benham â Sefydliad y Fagloriaeth Ryngwladol yn 2006.

Cyn hyn cafodd bu’n gweithio am 15 mlynedd mewn busnes gyda Schick Wilkinson Sword (Energizer, Pfizer a Warner Lambert) a Oral B (Gillette).

Yn ystod y cyfnod hwn bu'n dal nifer o swyddi cyfarwyddwr fel Cyfarwyddwr Cyllid Byd-eang (Cynllunio Strategol) i Schick Wilkinson Sword, Cyfarwyddwr Cyllid y DG i Wilkinson Sword a Rheolwr Cyllid y DG i Oral B. Hyfforddodd a gweithiodd fel archwilydd uwch gyda Grant Thornton o 1987-1990.

Mae’r Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth wedi croesawu’r penodiad: “Mae’n bleser gen i gyhoeddi penodiad Daniel Benham fel Cyfarwyddwr Cyllid i Brifysgol Aberystwyth.

“Daw Daniel â phrofiad eang o weithio mewn diwydiant ac addysg a fydd yn amhrisiadwy wrth i Brifysgol Aberystwyth ddechrau ar y cam nesaf yn ei ddatblygiad gyda gwelliant parhaus a buddsoddiad yn y profiad myfyrwyr; adeiladu Campws Arloesi a Menter £40.5m yng Ngogerddan; ac ailddatblygu'r Hen Goleg, cartref ysbrydol o Addysg Uwch yng Nghymru.

“Yr wyf yn edrych ymlaen at groesawu Daniel a chydweithio gydag ef, fel y mae cydweithwyr ar Dîm Gweithredol y Brifysgol ac o gwmpas y Brifysgol.”

Wrth siarad am ei benodiad, dywedodd Daniel Benham: “Yn 2006, ar ôl 15 mlynedd yn gweithio mewn diwydiant, camais i ffwrdd o yrfa gwbl fasnachol er mwyn dechrau gwneud mwy o wahaniaeth. Roeddwn yn uniaethu’n gryf gyda chenhadaeth y Fagloriaeth Ryngwladol i gyfrannu at greu byd gwell a mwy heddychlon drwy addysg. Rwyf bellach yn edrych ymlaen at barhau â'r gwaith hwn ac i ddatblygu ymhellach fy ngyrfa gyda Phrifysgol Aberystwyth, sefydliad sy’n awyddus i adeiladu ar ei enw da yn y byd addysg mewn amgylchedd gystadleuol a byd-eang sy'n newid yn barhaus.”

Mae Daniel, syn athro cymwys ac yn Gyfrifydd Siartredig, wedi byw a gweithio yn rhyngwladol yn UDA, y Swistir a Singapore am 12 mlynedd. Bydd yn dechrau ar ei swydd newydd ar ddydd Llun 9 Mawrth, 2015.

AU7215