Y Guardian yn enwi awdur sy'n raddedig o Aberystwyth fel un o 'Wynebau newydd ffuglen'

Kate Hamer

Kate Hamer

18 Chwefror 2015

Yn ôl The Guardian, Kate Hamer, a raddiodd mewn Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Aberystwyth, yw un o awduron newydd mwyaf addawol  2015, ac mae wedi ei chynnwys ar restr ‘New Face of Fiction’ y papur, sef rhestr o nofelwyr sydd wedi cyhoeddi am y tro cyntaf ac sy’n debygol o wneud ei marc.

Disgrifiwyd stori Kate, The Girl in the Red Coat, fel  ail adroddiad o hanes yr Hugan Fach Goch a ysbrydolwyd gan y ddelwedd o ferch fach, mewn côt coch, ar goll mewn coedwig.

Dywedodd Kate: "Roedd cael gwybod ym mod i’n un o 'wynebau newydd ffuglen 2015' y Guardian yn hynod gyffrous ac yn codi mymryn o fraw gan ei fod yn teimlo’n beth mor enfawr.”

Mae’r hanes am gipio sy’n ganolog i'r llyfr, yn destun ofn gwirioneddol i unrhyw riant yn ôl Kate, sy’n riant i ddau o blant wedi tyfu i fyny: “Mae pob rhiant yn poeni am hyn, yr wyf i’n sicr yn gwneud”, meddai.

Tra’n tyfu i fyny yn Sir Benfro, roedd yr awydd yno i wneud bywioliaeth drwy ysgrifennu on bu’n gweithio ym maes teledu am ddegawd yn cynhrychu rhaglenni dogfen cyn cychwyn ar radd Meistr mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Yn ôl Kate roedd yr “ymrwymiad” i ddangos ei gwaith i eraill, a chaniatáu i’w gwaith gael ei ddarllen a’i farnu , yn un o rannau mwyaf defnyddiol y cwrs ysgrifennu creadigol.

Disgrifiodd ei chyfnod yn Aberystwyth fel un a roddodd iddi’r “cyfle i arbrofi gydag, ac archwilio fy arddull ysgrifennu personol. Deuthum ar draws tiwtoriaid a oedd yn angerddol, yn agored i syniadau ac yn dalentog, dyma’n union yr hyn yr oedd ei angen yn y cyfnod hwn o’ng ngyrfa ysgrifennu. "

Cyhoeddir The Girl in the Red Coat ar y 5ed o Fawrth gan Faber, Pris £12.99.

AU5515