£750,000 i archwilio sut y mae awduron ffuglen wyddonol a darllenwyr yn rhagweld y dyfodol
Yr Athro Iwan Morus a coil anwythiad oedd yn cael eu defnyddio or 1830au. Rhwng o ddeutu 1890 a 1920 roeddent yn cael eu defnyddio i gynhyrchu foltedd uchel er mwyn creu tonnau electromagnetaidd h.y. radio
30 Ionawr 2015
Mae’r Athro Iwan Morus o Adran Hanes a Hanes Cymru, Prifysgol Aberystwyth, ynghyd ag ymchwilwyr o brifysgolion Efrog a Newcastle, wedi derbyn £750,000 er mwyn astudio sut y gwnaeth awduron a darllenwyr ffuglen wyddonol yn yr 20fed ganrif ragweld y dyfodol drwy ddatblygiadau gwyddonol newydd.
Arianwyd yr astudiaeth, Unsettling Science: expertise, narrative and future histories, gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC).
Bydd y prosiect tair blynedd yn ymchwilio'r berthynas rhwng gwyddoniaeth, ffuglen a diwylliant poblogaidd drwy gydol yr 20fed ganrif dechnolegol hir (1887-2007), gan ganolbwyntio ar sut y cafodd dyfeisiadau newydd ym maes gwyddoniaeth, technoleg a meddygaeth eu defnyddio gan awduron, llunwyr polisi a’r cyhoedd yn gyffredinol i ragweld a meddwl am y dyfodol.
Bydd Dr Amanda Rees o Brifysgol Efrog, sy’n arwain y gwaith ymchwil, a Dr Lisa Garforth o Brifysgol Newcastle yn cydweithio gyda’r Athro Morus ar y prosiect.
Bydd pob ymchwilydd yn gweithio ar wahanol gyfnodau i archwilio sut y gwnaeth datblygiadau gwyddonol newydd gyflyru dealltwriaethau diwylliannol o’r presennol a delweddau o’r dyfodol - y cyfnod Fictoraidd hwyr, y cyfnod ar ôl yr ail ryfel byd ac ar droad yr 21ain ganrif.
Bydd yr Athro Morus yn arwain ar ymchwil i dechnolegau a pherfformiadau a ddefnyddiwyd i ddychmygu dyfodol ar droad yr 20fed ganrif a’r diwylliant ‘dyfodolaeth’ a ffynnodd mewn llyfrau a chylchgronau ffuglen a ffeithiol yn ystod y cyfnod Fictoraidd ac Edwardaidd hwyr.
Dywedodd yr Athro Morus; “Byddaf yn edrych ar optimistiaeth a chyffro’r cyfnod o ddatblygiadau arloesol mewn ffiseg a diwylliannau arbrofol yn ystod y cyfnod Fictoraidd hwyr ac Edwardaidd cynnar.
“Y nod cyffredinol yw dangos sut y mae gwyddoniaeth wedi bod yn ffynhonnell o newid cymdeithasol cythryblus wrth i wybodaeth newydd agor posibiliadau newydd a gobeithion, ond hefyd ofnau newydd, gwrthdaro a chanlyniadau anfwriadol.
“Ar yr un pryd, byddwn yn archwilio sut y mae ffuglen a diwylliant yn ehangach wedi ansefydlogi sicrwydd gwyddonol drwy wneud gwyddoniaeth yn ffynhonnell o adloniant, rhyfeddod a phleser, a galluogi darllenwyr a’r cyhoedd i herio gwybodaeth arbenigol drwy ofyn cwestiynau anodd am oblygiadau moesegol, cymdeithasol a gwleidyddol ar gyfer y dyfodol.”
Fel rhan o'r ymchwil, bydd yr Athro Morus hefyd yn galw ar unrhyw un sydd â diddordeb yn yr astudiaeth hon i gymryd rhan drwy wefan ryngweithiol a grwpiau darllen ffuglen wyddonol, a fydd yn galluogi unigolion i wneud sylw a chynnig beirniadaeth o’r broses a chanlyniadau'r ymchwil.
Bydd rhagor o wybodaeth am y rhain ar gael yn yr Hydref, pan fydd y gwaith ymchwil yn dechrau.
Mae’r Athro Iwan Morus yn Athro Hanes yn Adran Hanes a Hanes Cymru Prifysgol Aberystwyth.
Mae’n hanesydd gwyddoniaeth, technoleg a meddygaeth y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Mae wedi cyhoeddi’n eang yn y meysydd yma ac wedi goruchwylio prosiectau ymchwil yn llwyddiannus megis Gwyddoniaeth a Diwylliant Yng Nghymru’r Ddeunawfed Ganrif a gyllidwyd gan Fwrdd Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Cymru.
Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC)
Mae Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau yn cyllido ymchwilwyr annibynnol o safon byd mewn ystod eang o bynciau: hanes yr henfyd, dawns fodern, archeoleg, cynnwys digidol, athroniaeth, llenyddiaeth Saesneg, dylunio, y celfyddydau creadigol a pherfformio, a llawer mwy. Yn ystod y flwyddyn ariannol bresenol bydd yr AHRC yn gwario oddeutu £98m i ariannu ymchwil a hyfforddiant ôl-raddedig mewn cydweithrediad â nifer o bartneriaid. Mae ansawdd ac ystod yr ymchwil a gefnogir gan y buddsoddiad hwn o arian cyhoeddus, nid yn unig yn darparu buddion cymdeithasol a diwylliannol, ond hefyd yn cyfrannu at lwyddiant economaidd y Deyrnas Gyfunol. www.ahrc.ac.uk
AU4415