Cyngor Bar India yn cymeradwyo graddau’r Gyfraith Prifysgol Aberystwyth
Aelodau Cyngor Bar India yn ystod ymweliad diweddar ag Aberystwyth.
28 Ionawr 2015
Mae cynlluniau gradd y Gyfraith Prifysgol Aberystwyth wedi cael eu cymeradwyo gan Gyngor Bar India.
Golyga’r cyhoeddiad hwn y bydd myfyrwyr sy'n astudio graddau LLM a LLB y Gyfraith ym Mhrifysgol Aberystwyth yn rhydd i ymarfer y Gyfraith yn India.
Sefydlwyd Adran y Gyfraith a Throseddeg yn Aberystwyth yn 1901 a hi yw'r hynaf yng Nghymru.
Mae'r Adran yn cynnig rhaglen gynhwysfawr o raddau israddedig yn y Gyfraith; Cyfraith Droseddol; Cyfraith Ewropeaidd; Cyfraith Busnes; Hawliau Dynol; Y Gyfraith gydag Ieithoedd; Troseddeg; Troseddeg gyda Seicoleg Gymhwysol; Y Gyfraith a Throseddeg; a Seicoleg a Throseddeg.
I fyfyrwyr ôl-radd mae’r Adran yn cynnig Graddau Ymchwil, graddau Meistr trwy Ymchwil a graddau Meistr a Addysgir. Mae hefyd yn cynnig graddau Meistr Dysgu o Bell sydd yn llwyddiannus ac yn boblogaidd iawn ac sy'n denu myfyrwyr o bob cwr o'r byd.
Dywedodd Yr Athro John Williams, Pennaeth Adran y Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth; “Rydym yn croesawu'n fawr gymeradwyaeth Cyngor Bar India i raddau’r Gyfraith yma ym Mhrifysgol Aberystwyth. Golyga’r gydnabyddiaeth hon bod cyfle gwych i fyfyrwyr o India i ddilyn graddau o ansawdd uchel a addysgir gan academyddion blaenllaw ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yn cyfuno hyn â rhagolygon rhagorol ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol.”
“Mae gan Adran y Gyfraith a Throseddeg enw nodedig fel canolfan ar gyfer astudio’r Gyfraith ymysg myfyrwyr rhyngwladol gyda llawer yn astudio yma o Malaysia, Affrica, y Dwyrain Canol, UDA, Canada, Ewrop, a Tsieina. Rydym yn edrych ymlaen at groesawu myfyrwyr o India.”
Dywedodd Ruth Owen Lewis, Cyfarwyddwr Swyddfa Rhyngwladol Prifysgol Aberystwyth; “Mae ein strategaeth Ryngwladol yn rhoi pwyslais mawr ar bartneriaethau, ac mae derbyn cydnabyddiaeth Cyngor Bar India yn cefnogi ein bwriad i sefydlu partneriaethau cadarn a chydweithio gydag ysgolion y Gyfraith yn India. Roeddem yn falch iawn o groesawu uwch-ddirprwyaeth o Gyngor Bar India i Adran y Gyfraith a Throseddeg, adran sydd â hanes gwych o addysgu ac ymchwil. Bydd y gydnabyddiaeth hon yn ein galluogi i hyrwyddo’n fwy effeithiol ein graddau Cyfraith rhagorol yn India, sy'n farchnad bwysig iawn i Brifysgol Aberystwyth.”
Mae rhaglenni’r Gyfraith sy’n cael eu cynnig ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cynnwys ysgoloriaethau cystadleuol i fyfyrwyr o India a gwahoddir ceisiadau ar gyfer dechrau ym Medi 2015.
Bydd cynrychiolwyr o Brifysgol Aberystwyth yn teithio i India ym mis Chwefror 2015 i gwrdd â Chyngor y Bar India ac i drafod cydweithio pellach gydag Ysgolion y Gyfraith yn India.
Mae rhestr lawn o gyrsiau’r Gyfraith sydd ar gael yn Aberystwyth i'w gweld ar-lein: http://courses.aber.ac.uk/browser/law-and-criminology/.
AU3615