Bridio malwod yn y labordy yn newid eu hymddygiad

Mae dilyn llwybrau llysnafedd yn ymddygiad cyffredin mewn llawer o fathau o falwod môr a dŵr croyw

Mae dilyn llwybrau llysnafedd yn ymddygiad cyffredin mewn llawer o fathau o falwod môr a dŵr croyw

14 Ionawr 2015

Mae gwaith ymchwil a wnaed gan y Dr Sarah Dalesman (Cymrawd Gyrfa Gynnar Ymddiriedolaeth Leverhulme ym Mhrifysgol Aberystwyth) a James Liddon (Prifysgol Caerwysg) a gyhoeddwyd heddiw yn Journal of Molluscan Studies wedi darganfod bod magu malwod mewn labordy yn gallu achosi newidiadau arwyddocaol yn eu hymddygiad.

Archwiliodd yr astudiaeth ymddygiad malwod o safbwynt dilyn llwybrau llysnafedd, sef ymddygiad sydd i'w weld mewn llawer o rywogaethau o falwod môr a dŵr croyw ac a ddefnyddir gan y malwod yn aml i ddod o hyd i falwod eraill.

Esboniodd y prif awdur,  James Liddon, “Cawsom fod malwod mawr y pyllau (Lymnaea stagnalis) yn dilyn y llwybrau llysnafedd a adawyd gan falwod eraill wrth iddynt symud. Yr hyn a'n synnodd ni'n fawr oedd bod yr ymddygiad hwnnw wedi'i newid yn y malwod a fagwyd yn y labordy o'u cymharu â malwod gwyllt. Ni ddigwyddodd y gwahaniaeth rhwng y malwod gwyllt a'r malwod a fagwyd yn y labordy nes iddynt gael eu hynysu rhag malwod eraill am wythnos cyn inni gynnal y prawf arnynt.”

Dywedodd y prif ymchwilydd yn yr astudiaeth, y Dr. Dalesman: “Roeddem wedi rhagweld y byddai ynysu'r malwod oddi wrth ei gilydd yn eu gwneud nhw'n fwy awyddus i ddod o hyd i falwod eraill ac yn cryfhau'r ymddygiad dilyn llwybrau.

Ond yr hyn a gawsom mewn gwirionedd yn y malwod a fagwyd yn y labordy oedd bod eu hymddygiad dilyn llwybrau wedi lleihau ar ôl iddynt gael eu hynysu, ond bod yr ymddygiad hwnnw heb ei newid o gwbl yn y malwod gwyllt ar ôl iddynt gael eu hynysu.”

Dychmygwch pe baech wedi arfer â byw ymhlith llond tŷ o bobl ac wedyn eich bod yn gorfod byw ar eich pen eich hunan am gyfnod estynedig. Ar ôl ychydig mae'n bosib y teimlwch yn unig ac fe fyddai'n effeithio ar eich ymddygiad. Ond pe baech wedi arfer â byw ar eich pen eich hun efallai y byddech yn ymdopi'n well â chael eich ynysu am ychydig. Dywedodd y Dr. Dalesman: “Credwn fod rhywbeth tebyg efallai'n digwydd yn y malwod. Mae malwod y labordy wedi arfer â byw'n agos ag unigolion eraill ac wedi arfer â chyswllt cymdeithasol cyson, ac felly mae cael eu hynysu yn peri mwy o straen iddynt.

Dim ond yn achlysurol y bydd malwod gwyllt yn dod ar draws unigolion eraill yn eu cynefin naturiol, felly mae diffyg cyswllt cymdeithasol yn llai o broblem iddynt." Mae gwaith blaenorol wedi dangos bod diffyg cyswllt cymdeithasol yn peri straen i falwod a fagwyd yn y labordy, gan effeithio ar eu gallu i greu cof.

Gwyddom fod cadw anifeiliaid allan o'u cynefin naturiol yn effeithio ar ymddygiadau pwysig mewn, er enghraifft, mamaliaid a physgod sy'n ymwneud ag osgoi ysglyfaethwyr a dod o hyd i gymar, ond yn anaml yr ystyrir yr effaith ar infertebratau. Mae'r astudiaeth hon yn amlygu pwysigrwydd ystyried sut mae bridio infertebratau allan o'r gwyllt yn newid yr amgylchedd o'u cymharu ag unigolion o'r un rhywogaethau yn y gwyllt, ac mae hynny'n gallu cael cryn effaith ar eu hymddygiad.

Mae Athrofa y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ( IBERS ) yn ganolfan ymchwil a dysgu a gydnabyddir yn rhyngwladol sydd yn darparu sylfaen unigryw ar gyfer ymchwil mewn ymateb i heriau byd-eang megis diogelwch bwyd, bio-ynni a chynaliadwyedd, ac effeithiau newid hinsawdd. Mae gwyddonwyr IBERS yn cynnal ymchwil sylfaenol, strategol a chymhwysol o genynnau a moleciwlau i organebau a'r amgylchedd.

Mae IBERS yn derbyn cyllid ymchwil strategol o £10.5m gan Gyngor Ymchwil y Gwyddorau Biotechnoleg a Biolegol (BBSRC) i gefnogi ymchwil a yrrir gan genhadaeth tymor hir, ac mae'n aelod o Sefydliad Cenedlaethol y Biowyddorau. Mae IBERS yn elwa hefyd o gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru, DEFRA a'r Undeb Ewropeaidd.

AU1715