Argyfwng Ebola: Academyddion o Aberystwyth yn cefnogi Sefydliad Iechyd y Byd

Yr Athro Colin McInnes, Cyfarwyddwr Canolfan Iechyd a Chysylltiadau Rhyngwladol

Yr Athro Colin McInnes, Cyfarwyddwr Canolfan Iechyd a Chysylltiadau Rhyngwladol

09 Ionawr 2015

Mae tri aelod academaidd o staff Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth wedi galw am fwy o arian i Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn sgil yr argyfwng Ebola yng ngorllewin Affrica.

Mae’r Athro Colin McInnes, Cyfarwyddwr y Ganolfan ar gyfer Iechyd a Chysylltiadau Rhyngwladol, Dr Christian Enemark, Darllenydd mewn Iechyd Byd-eang a Gwleidyddiaeth Ryngwladol, a’r myfyriwr PhD Clare Wenham yn gyd-lofnodwyr ar lythyr agored ar yr argyfwng Ebola sy’n cael ei gyhoeddu yn The Lancet ddydd Sadwrn 10 Ionawr.

Llofnodwyd y llythyr gan 95 aelod o'r gymuned ysgolheigaidd ym maes iechyd byd-eang, ac mae’n galw ar y gwladwriaethau sy’n aelodau WHO i ymrwymo o’r newydd i gryfhau’r modd y mae’r byd yn rhybuddio ac yn ymateb i achosion drwy fuddsoddiad cynaliadwy yn adrannau a phersonél WHO.

Maent yn dadlau y dylai arianwyr wrthsefyll y demtasiwn i ddefnyddio achos eithafol Ebola i gyfiawnhau erydu WHO ymhellach a dargyfeirio cyfraniadau gwirfoddol i sefydliadau eraill er bod ysgrifenyddiaeth WHO wedi cyfaddef bod camgymeriadau wedi’u gwneud yn ystod ei hymateb cychwynnol i'r achosion o Ebola yn 2014.

Maent hefyd yn dadlau dros gynnal Rhwydwaith Rhybuddio ac Ymateb i Achosion Byd-eang WHO yn hytrach na dilyn cynnig i sefydlu asiantaeth "ymatebwr cyntaf" newydd o dan adain y Cenhedloedd Unedig.

Mae'r llythyr yn dod i'r casgliad; “Gall WHO ddarparu arweinyddiaeth fyd-eang ym maes iechyd sy’n seiliedig ar wybodaeth dechnegol ac sy’n gynrychioliadol. Mae'r sefydliad yn parhau i fod yn elfen sylfaenol o lywodraethiant iechyd byd-eang, ac mae’n darparu gwasanaeth anhepgor fel yr asiantaeth dechnegol arweiniol ym maes iechyd byd-eang. Er bod camgymeriadau wedi cael eu gwneud, yn hytrach na datgymalu WHO ymhellach rydym yn galw ar yr holl aelod-wladwriaethau a'r gymuned ryngwladol i roi iddo’r adnoddau angenrheidiol er mwyn gwasanaethu ei aelodau a'r poblogaethau mae’n eu cynrychioli.”

Mewn sylw ar wahân ar yr argyfwng Ebola, mae’r Athro McInnes yn dadlau bod angen i bobl ddeall nid yn unig sut y cychwynnodd yr achosion hyn Ebola, ond pam i’r haint ledaenu  a datblygu’n argyfwng, os ydym am atal argyfyngau fel hyn yn y dyfodol.

“Ddiwedd y llynedd, rhyddhaodd Sefydliad Iechyd y Byd ffigurau newydd a oedd yn dangos bod 7,905 o bobl wedi marw o ebola a 20,206 wedi’u heintio yn yr argyfwng presennol. Roedd bron pob un o’r achosion hyn yng Ngorllewin Affrica, yn Guinea, Liberia a Sierra Leone. Efallai mai’r esboniad mwyaf cyffredin yw prinder adnoddau iechyd cyhoeddus yn y rhanbarth. Yn benodol, mae’r tair gwlad y mae ebola wedi effeithio fwyaf arnynt hefyd ymhlith rhai o’r gwledydd tlotaf ar y blaned ac mae i’w ddisgwyl felly fod eu systemau iechyd cyhoeddus yn wan.”

Er yw bod mwy o gymorth nag erioed o’r blaen wedi ei roi i Affrica ers dechrau’r mileniwm newydd, gan gynnwys cynlluniau rhyngwladol megis y Gronfa Fyd-eang i Ymladd AIDS, Twbercwlosis a Malaria, mae’r Athro McInnes yn dadlau bod canolbwyntio ar glefydau proffil uchel megis HIV wedi golygu bod clefydau eraill wedi cael eu hesgeuluso.

"Mae mwy o arian wedi arwain at gynnydd yn y nifer o asiantaethau a mentrau, gan arwain at ddyblygu ymdrech, dryslwch dulliau ac agendâu sy'n cystadlu, a thueddiad i ganolbwyntio ar ymateb brys yn hytrach na mesurau ataliol i adeiladu seilwaith iechyd cyhoeddus. Ar ben hynny mae'r atyniad i chwilio am atebion ffarmacolegol - cyffuriau neu frechlynnau newydd - yn cael blaenoriaeth yn rhy aml dros ddatblygu mentrau iechyd cyhoeddus sylfaenol”, meddai.

Mae'r Athro McInnes hefyd yn dadlau bod yr argyfwng Ebola yn datgelu tuedd arall sy’n destun consyrn - y diddordeb mewn achosion o glefydau egsotig (yn enwedig pan bod perygl, pa mor fychan bynnag, y gallent gyrraedd gwledydd datblygedig) yn hytrach na chyflyrau endemig mwy cyffredin.

"Mae’n drasiedi bod 7,905 o bobl wedi marw o Ebola, ond yn ystod yr un cyfnod mae WHO yn amcangyfrif bod 750,000 o blant o dan bum mlwydd oed wedi marw o ddolur rhydd, slawch y mae’n hawdd ei atal trwy ddarparu dŵr yfed glân, gwell glanweithdra a rhoi sebon i bobl i olchi eu dwylo.

“Ond does neb yn brysio i anfon milwyr i helpu’r bobl hyn, a does dim ymateb rhyngwladol, dim cronfa cymorth mewn argyfwng, dim ymgyrchu gan enwogion a dim rhuban ar labed fy siaced. Ac eleni, a ninnau’n gobeithio y bydd ebola’n cilio, bydd 750,000 yn rhagor o blant yn marw o’r un afiechyd yn union. Felly beth yw’r argyfwng mewn gwirionedd?”

AU0115