Cerddorfa robotig Aberystwyth yn perfformio yn Y Sefydliad Brenhinol

Ian Izett (chwith) a Dave Price o’r Adran Gyfrifiadureg, crewyr cerddorfa robotig Aberystwyth

Ian Izett (chwith) a Dave Price o’r Adran Gyfrifiadureg, crewyr cerddorfa robotig Aberystwyth

19 Rhagfyr 2014

Gwahoddwyd ‘cerddorfa robotig’ a adeiladwyd gan staff yn Adran Gyfrifiadureg Prifysgol Aberystwyth i gymryd rhan yn Narlithoedd Nadolig y Sefydliad Brenhinol eleni.

Bydd y ‘gerddorfa’ yn ymddangos yn finale’r darlithoedd a fydd yn cael ei dangos ar BBC Four am 8 or gloch yr hwyr ar Nos Galan, 31 Rhagfyr.

Ar hyn o bryd mae gan y gerddorfa dri offeryn: organ bib sy'n cynnwys cydrannau sgrap o sugnwr llwch a gwahanol gydrannau plymio; glockenspiel plentyn sydd wedi ei addasu i chwarae yn awtomatig, ac allweddell electronig.

Ymunodd yr organ bib a'r glockenspiel â llu o offerynnau robotig eraill a phedwar cerddor dynol, ond mae union fanylion yr hyn a berfformwyd eto i'w datgelu.

Treuliodd Dave Price, Cymrawd Addysgu a Swyddog Cyfrifiaduron yn yr Adran Gyfrifiadureg, dridiau yn y Sefydliad Brenhinol yn gweithio ar y cynhyrchiad ac yn cocsio’i greadigaeth robotig i roi ei berfformiad gorau.

Dywedodd Dave; “Gweithiodd y robot yn berffaith heb golli’r un curiad yn ystod yr ymarferion. Mae wedi bod yn bleser gwirioneddol cael cymryd rhan yng nghynhyrchiad y Darlithoedd Nadolig ac i weithio am ychydig ddyddiau yn y Sefydliad Brenhinol sydd yn llawn hanes gwyddonol: dylai hyn fod yn uchafbwynt gwirioneddol i dymor y Nadolig.”

Decrheuwyd Darlithoedd Nadolig y Sefydliad Brenhinol gan Michael Faraday yn 1825.

Yn y darlithoedd eleni ‘Sparks will fly: How to hack your home’, bydd yr Athro Danielle George yn archwilio sut y gall eich dychymyg ac ychydig o dincro’r unfed ganrif ar hugain newid y byd.

Bydd y darlithoedd yn cael eu darlledu ar BBC Four am 8pm ar 29, 30 a 31 Rhagfyr.

Os am wybod mwy am Ddarlithoedd Cyhoeddus y Sefydliad Brenhinol ewch i http://www.rigb.org/christmas-lectures/sparks-will-fly neu ar twitter @Ri_Science #xmaslectures

Gwanawd y gerddorfa ddynol a roboteg y DDARLITH NADOLIG ‘A new revolution’ yn bosibl diolch i gydweithredu gwych arbenigwyr roboted a pheirianneg a cherddorion o bob cwr o'r Deyrnas Gyfunol a hyd yn oed Sbaen.

Grŵp Ymchwil Gwybodeg Cerdd Prifysgol Dinas Llundain gyflawnodd rôl yr arweinydd drwy ddarparu rheolaeth ganolog y gerddorfa roboteg.

Cyfrannodd Canolfan Systemau Newrol a Roboteg Prifysgol Plymouth yr allweddellau robotig.

Cyfrannodd Prifysgol Aberystwyth organ bib sy'n cynnwys darnau sgrap o sygnwr llwch a chydrannau amrywiol plymio a glockenspiel plentyn wedi ei addasu i gael ei chwarae yn awtomatig ac allweddell electronig.

Cyfrannodd Grŵp Systemau Gweld, Emosiwn a Gwybyddiaeth Synthetig Prifysgol Pompeu Fabra o Barcelona, Sbaen y chwaraewr Theremin iCub robotig.

Cyfrannodd Canolfan Roboteg Ymchwil Kings yn Llundain y robot drwm.

Cyfrannodd Ysgol Peirianneg Electronig a Chyfrifiadureg Phrifysgol Queen Mary Llundain y robot drymio Mortimer.

Cyfrannodd Canolfan Genedlaethol Systemau Robotic Arloesol Prifysgol Leeds y gitar fas robotig a bu’n cydweithio gyda National Instruments i ddarparu gitâr drydan.

Cyfrannodd Canolfan FARSCOPE EPSRC ar gyfer Hyfforddiant Doethurol ym Mhrifysgol Bryste UAV i chwarae’r symbal.

Ac yn olaf, ond nid y lleiaf, y cerddorion dynol oedd Robert Ames, Galya Bisengalieva, Chris Graves a Kate Hainsworth o Gerddorfa Gyfoes Llundain a fu’n chwarae’r fiola, ffidil, soddgrwth a’r corn Ffrengig.

AU54014