Llwyddiant Springboard, Rhaglen Ddatblygu i Fenywod

Aelodau o garfan gyntaf rhaglen Springboard i raddio ym Mhrifysgol Aberystwyth

Aelodau o garfan gyntaf rhaglen Springboard i raddio ym Mhrifysgol Aberystwyth

16 Rhagfyr 2014

Dros y pedwar mis diwethaf, mae 20 o ferched o adrannau gwasanaethau academaidd a phroffesiynol Prifysgol Aberystwyth wedi cymryd rhan yn y Rhaglen Datblygu Menywod Springboard, cwrs datblygu arobryn i ferched a ddarperir drwy rwydwaith o hyfforddwyr trwyddedig.

Mae Springboard yn raglen uchel ei pharch yn y Deyrnas Gyfunol, ac wedi ei chynllunio ar gyfer menywod o bob cefndir, oed a chyfnodau yn eu bywydau sydd am wella eu byd yn y gwaith ac yn y cartref, gan adeiladu ar y sgiliau ymarferol a'r hyder i gymryd y camau hyn.

I rai menywod, gallai canlyniad cadarnhaol fod yn ddyrchafiad ac i eraill sy'n aros yn yr un swydd, mae'r manteision yn cynnwys agwedd fwy cadarnhaol ac ymdeimlad newydd o bwrpas.

Esboniodd yr Athro Kate Bullen, Cyfarwyddwr Moeseg a Chydraddoldeb y Brifysgol; "Dyma garfan gyntaf y rhaglen Springboard i raddio o Brifysgol Aberystwyth a'r nod yw cynnal rhagor ohonynt yn y dyfodol.

“Mae darparu hyfforddiant a chefnogaeth i fenywod yn nod allweddol yn ein cynlluniau gweithredu Athena SWAN a’r Siarter Cydraddoldeb Rhywiol.

“Mae Springboard, ynghyd â rhaglen Aurora’r Sefydliad Arweinyddiaeth ar gyfer Addysg Uwch, yn darparu cyfleoedd gwych i fenywod i bwyso a mesur eu gyrfaoedd, cynllunio'r hyn y maent am ei gyflawni ac yn adnabod a datblygu eu sgiliau a'u galluoedd.”

Un a gymerodd ran yn rhaglen Springboard oedd Catrin Griffiths, Swyddog Partneriaethau Rhyngwladol yn y Swyddfa Ryngwladol. Meddai; “Mae'r cwrs hwn yn daith o hunan-ddarganfyddiad ac yn ymwneud â grymuso unigolion.

“Rydym mewn sefyllfa lle gallwn wneud ein dewisiadau ein hunain, gwella ein hunain a chyrraedd ein amcanion personol a gyrfaol, ac mae’r cwrs yma yn eich cynorthwyo i wireddu eich potensial a gwerthfawrogi bod unrhyw beth yn bosibl.”

Derbyniodd Prifysgol Aberystwyth ei Gwobr Efydd Athena SWAN Charter gyntaf ym mis Medi 2014 sy'n cydnabod ymrwymiad i hyrwyddo gyrfaoedd menywod mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, mathemateg a meddygaeth (STEMM) mewn addysg uwch ac ymchwil.

Yn ogystal eleni, dyfarnwyd i’r Brifysgol Wobr Efydd Her Cydraddoldeb am Siarter Cydraddoldeb Rhywedd (GEM) sy'n cydnabod ymrwymiad i gydraddoldeb rhwng y rhywiau yn y celfyddydau, y dyniaethau a'r gwyddorau cymdeithasol. Mae GEM hefyd yn cydnabod gwaith ar gydraddoldeb i staff cynorthwyol proffesiynol yn ogystal ag academyddion.

AU50814