Campws Arloesi a Menter yn sicrhau cyllid o £20m

Gweinidog Llywodraeth Cymru Jane Hutt (chwith) a'r Is-Ganghellor, yr Athro April McMahon

Gweinidog Llywodraeth Cymru Jane Hutt (chwith) a'r Is-Ganghellor, yr Athro April McMahon

15 Rhagfyr 2014

Heddiw cyhoeddodd Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth Cymru Jane Hutt, taw Prifysgol Aberystwyth fydd y cynllun cyntaf gwerth miliynau o bunoedd i dderbyn y golau gwyrdd drwy raglenni cyllid newydd yr Undeb Ewropeaidd 2014-2020 sydd werth £2 biliwn.

Bu'r Gweinidog Cyllid yn ymweld â Champws Gogerddan y Brifysgol i gyhoeddi buddsoddiad o £20 miliwn drwy Gronfa Ddatblygu Rhanbarthol Ewrop i ddatblygu Campws Arloesi a Menter Aberystwyth (AIEC).

Bydd y cynllun gwerth £35m ar Gampws Gogerddan yn cynnwys adeiladu adnodd o’r radd flaenaf a fydd yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol er mwyn denu mwy o gyllid ymchwil fel bod cwmnïau ac ymchwilwyr yn medru cydweithio ar gynlluniau ymchwil i hybu’r bio-economi. Disgwylir i’r gwaith ymchwil gynhyrchu cynnyrch, gwasanaethau a chwmnïau deillio newydd yn y sectorau bwyd, iechyd, biotechnoleg a ynni adnewyddadwy.

Dywedodd y Gweinidog Cyllid: “Rwy'n falch iawn o gyhoeddi’r buddsoddiad hwn gan yr Undeb Ewropeaidd i Brifysgol Aberystwyth, sy'n dynodi carreg filltir arwyddocaol gan taw hwn yw’r cynllun cyntaf i ennill arian yr UE o raglenni newydd yr UE ar gyfer 2014-2020. Bydd y rhaglenni hyn o fudd mawr i Gymru ac y nein cynorthwyo i barhau i gyflawni ein hamcanion o adeiladu economi ffyniannus a llewyrchus. Byddwn yn defnyddio Cronfeydd yr UE i yrru ymchwil ac arloesi, hybu busnesau, cynyddu ynni adnewyddadwy ac effeithlonrwydd ynni yn ogystal â seilwaith cymorth, sgiliau a chynorthwyo pobl i gael gwaith.

“Bydd y buddsoddiad cyntaf hwn o gyllid yr UE yn gymorth i adeiladu adnodd o'r radd flaenaf i ddenu cyllid ymchwil preifat a chystadleuol fel y gall Cymru arwain y ffordd o ran datblygu technolegau arloesol, cynnyrch a gwasanaethau newydd yn y sector biowyddorau, sy'n hanfodol ar gyfer cynyddu swyddi a thwf economi wybodaeth ein cenedl.”

Mae’r mentrau a gynlluniwyd ar gyfer y AIEC yn cynnwys:

• Canolfan Diogelwch Bwyd, Maeth ac Ynni

• Canolfan Bwyd y Dyfodol

• Canolfan Bio-buro

• BioFanc Hadau a Chyfleuster Prosesu

• Canolfan Rhyngddisgyblaethol y Bio-economi

Dywedodd yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: "Rydym yn ddiolchgar am y cyfraniad sylweddol o arian yr UE a fydd, ynghyd â chefnogaeth sylweddol gan y BBSRC a'r Brifysgol, yn arwain at wireddu ein cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y Campws Arloesi a Menter yng Ngogerddan.

"Rwy'n hyderus y bydd y datblygiad yn sicrhau bod y Brifysgol yn parhau i ddarparu gwaith ymchwil gydag effaith, yn rhoi llwyfan i weithio ochr yn ochr â diwydiant wrth ddatblygu atebion ar gyfer problemau byd-eang, ac yn dod â swyddi a thwf sydd wir eu hangen i Orllewin Cymru."

Bydd y prosiect AIEC yn cydweithio'n agos gydag Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) lle mae ymchwil eisoes ar y gweill i fynd i'r afael â heriau byd-eang megis diogelwch bwyd, bio-ynni a chynaliadwyedd, ac effaith y newid yn yr hinsawdd. Bydd y prosiect hefyd yn cefnogi uchelgais y Brifysgol ar gyfer mwy o weithio rhyngddisgyblaethol, er enghraifft, gan dynnu ar gryfderau ymchwil ac arbenigedd o fewn yr Ysgol Rheolaeth a Busnes, a’r Athrofa Mathemateg, Ffiseg a Chyfrifiadureg.

Ychwanegodd y Dirprwy Is-Ganghellor dros Ymchwil, yr Athro Chris Thomas: “Byddwn yn mabwysiadu ymagwedd benodol rhyngddisgyblaethol yn y datblygiad hwn, trwy ddwyn ynghyd nid yn unig y gwahanol feysydd mewn bioleg ac amaethyddiaeth, ond hefyd, er enghraifft, gwyddor yr amgylchedd, daearyddiaeth, synhwyro o bell a chyfrifiadureg. Mae'r ffocws masnachol hefyd yn golygu bod gennym gyfle rhagorol ar gyfer ein cydweithwyr academaidd yn y gyfraith a busnes i weithio gyda phartneriaid diwydiannol o gyfnodau cynnar mewn prosiect. Y peth allweddol yw i ddod â phawb at ei gilydd mewn gofod sydd yn cael ei rannu ac sy’n cynnig adnoddau da. Mae AIEC wedi'i gynllunio i wneud yn union hynny.”

Mae prosiect AEIC eisoes wedi derbyn £12m oddi wrth y Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol (BBSRC). Mae IBERS hefyd yn derbyn tua £10.5m o gyllid strategol gan BBSRC bob blwyddyn.

AU54314