Adeiladu ffwrnais tymheredd tra-uchel ar gyfer prifysgol yn Tsieina

Dr Dave Langstaff a’r ffwrnais esgyn-wresogi

Dr Dave Langstaff a’r ffwrnais esgyn-wresogi

12 Rhagfyr 2014

Mae ffwrnais esgyn-wresogi, sy'n gallu cyrraedd tymheredd o fwy na hanner yr hyn a geir ar  wyneb yr Haul, wedi cael ei datblygu ar gyfer prifysgol flaenllaw yn Tsieina gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mae’r ffwrnais yn cynrychioli'r cytundeb cyntaf o bwys i’r Adran Ffiseg ym Mhrifysgol Aberystwyth ei sicrhau gyda phrifysgol flaenllaw yn Tsieina. Bydd yn cael ei hallforio i Brifysgol Technoleg Wuhan ychydig cyn y Nadolig.

Ystyrir Prfysgol Technoleg Wuhan, sydd yng nghanolbarth Tsieina, ymysg 10 prifysgol gorau'r wlad.

Mae'r cytundeb wedi arwain at adeiladu ffwrnais tymheredd tra-uchel o safon byd, sy'n gallu toddi solidau ar dymheredd o dros 3000oC. Mae'r rhain yn cynnwys alwmina, y ceramig cyfarwydd sy’n cael ei ddefnyddio mewn ffwrneisi gwydr ac wrth wneud dur.

Dr Dave Langstaff, darlithydd ac Uwch Swyddog Arbrofol yn yr Ffiseg Adran sydd wedi bod yn arwain y gwaith.

Dywedodd Dr Langstaff; “Mae cerameg yn cael eu defnyddio mewn amrywiol ffyrdd, o gyllyll cegin i beiriannau jet, ac mae bellach yn ddeunydd peirianyddol o bwys. Nid yn unig y gellir toddi alumnia yn y ffwrn hon, gellir ei ferwi hefyd.

“Y gyfrinach yw codi’r samplau mewn ffrwd o nwy argon a’u cynhesu gyda laserau pwerus. Gellir cyrraedd tymheredd eithriadol o uchel gan nad yw'r samplau yn cyffwrdd ag unrhyw arwyneb solet, sydd hefyd yn atal halogiad o'r samplau”, ychwanegodd.

Datblygiad dyfeisgar arall, a wnaed yn fwy diweddar gan Dr Langstaff, yw siglo’r hylifau hyn drwy amrywio llif y ffrwd nwy, a, thrwy ddefnyddio technoleg delweddu cyflym iawn a dadansoddiad delwedd unigryw a phwrpasol, i fesur y siglo hwnnw a thrwy hynny ddwysedd a thyndra arwynebedd yr hylif ar dymheredd penodol.

Cyhoeddwyd canlyniadau o ddefnyddio fersiwn flaenorol o’r ffwrnais ar y cyd gydag asiantaeth ymchwil eronoteg a’r gofod yr Almaen (DLR) llynedd yn Review of Scientific Instruments, y cyfnodolyn mwyaf blaenllaw ym maes offeryniaeth labordy.

Yn 2013 etholwyd yr Athro Neville Greaves, cyn-Bennaeth y Sefydliad Mathemateg a Ffiseg yn Aberystwyth, i safle Gyddonydd Strategol Prifysgol Technoleg Wuhan.

Gosodwyd y cytundeb i  ddatblygu'r ffwrnais i Brifysgol Technoleg Wuhan ym mis Mai 2014 ac fe’i enillwyd ar sail enw da'r Adran Ffiseg yn y maes hwn.

Bydd Dr Dave Langstaff yn teithio i Tsieina yn gynnar yn 2015 i osod y ffwrnais mewn labordy newydd arbennig ar gyfer 'Deunyddiau dan Amodau Eithafol' sy’n cael ei sefydlu ym Mhrifysgol Technoleg Wuhan.

AU53614